Tudur Goch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:53, 28 Ionawr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Trigai Tudur Goch ap Goronwy ym Plas Nantlle, a fo oedd penteulu y llinach a ddaeth (yn honedig) o Cilmin Droed-ddu ac, yn ôl yr achresi, yn or-or-wyr i Ystrwyth ab Ednowain, prif glerc Llywelyn Fawr. Priododd â Morfudd ferch Howel ferch Iorwerth Fychan, yntau hefyd o linach Cilmin, trwy Mogeneu Ynad. Roedd yn dad i Hwlcyn Llwyd, y cyntaf o'r teulu y gwyddys i sicrwydd i fyw yng Nglynllifon. Roedd ganddo ddau fab iau hefyd, sef Gruffydd, sylfaenydd teulu Cwellyn a William.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t. 172