Cartref Bontnewydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:42, 27 Medi 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sefydlwyd Cartref Bontnewydd fel cartref i blant amddifaid ym 1907 yn Y Bontnewydd. Gweinyddid y Cartref gan Ymddiriedolaeth yn perthyn i enwad y Methodistiaid Calfinaidd. Fe sefydlwyd yn sgil gweledigaeth Robert Bevan Ellis ac fe arhosodd yn agored yn unol â'r weledigaeth wreiddiol tan 1983. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gofelid am dros 500 o blant. Warden olaf y cartref oedd y Parch. Gareth Maelor.

Dywedir mai'r rheswm am i'r cartref gau oedd y tuedd i symud i ffwrdd o'r cysyniad o gartrefi i blant a hyrwyddo maethu fel y dull dewisol o ofalu am blant mewn angen gofal. Fe ail-agorwyd fel canolfan lleoli teuluaidd dan bartneriaeth rhwng yr ymddiriedolwyr a'r Cyngor Sir. Ail agorwyd rhan o'r adeilad gan Gyngor Sir Gwynedd ym 1988 fel cartref plant, gan brydlesu'r adeilad oddi wrth yr ymddiriedolaeth.

Gwerthwyd yr holl adeiladau ym 2015, a bellach mai un hanner yn dŷ preifat a'r llall yn swyddfa Age Cymru.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau