Tudur Goch ap Grono

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:15, 28 Ionawr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Tudur Goch ap Grono (neu Goronwy) yn un o briodorion (deiliaid tir) Gwely Wyrion Ystrwyth yn nhrefgordd Dinlle, gan ei fod wedi ei enwi felly mewn stent (arolwg) o Uwchgwyrfai dyddiedig 13 Gorffennaf 1352.[1]

Roedd o'n ddisgynydd i Gilmin Droed-ddu, trwy Ystrwyth ab Ednywain. Ym 1352,Gwall cyfeirio: Mae tag clo </ref> ar goll ar gyfer y tag <ref></ref> fe briododd â'i chweched chyfnither, Morfudd ferch Howel ferch Iorwerth Fychan, yntau hefyd o linach Cilmin, trwy Morgeneu Ynad; daeth honno â thiroedd Glynllifon iddo. Roedd yn dad i Hwlcyn Llwyd, y cyntaf o'r teulu y gwyddys i sicrwydd i fyw yng Nglynllifon. Roedd ganddo ddau fab iau hefyd, sef Gruffydd, sylfaenydd teulu Cwellyn a William.[2]

Cafodd Tudur Goch ei eni tua 1310-20, a dywedir iddo arwain mintai gref, meddir, o 12000 o Gymry i ymladd ochr yn ochr â'r Saeson dan y Brenin Iorwerth III ym mrwydr Crécy (1346) - er i haneswyr modern amcangyfrif mai tua 10-11000 oedd cyfanswm byddin Lloegr yno[3]; bu hefyd efo'r Tywysog Du ym 1356 mewn ymgyrch ym Mhoitiers, Ffrainc. Oherwydd ei deyrngarwch fe gafodd chwe chyfer o dir ym Maladeulyn, Nantlle, tir a gipiwyd oddi ar Tudur ap Einion gan Iorwerth I yn ystod rhyfeloedd 1282-4. [4] ac fe gododd hwnnw gartref iddo fo ei hun, sef Plas Nantlle.[5]

Brwydr Crécy. Y Cymry yw'r milwyr gyda bwâu saethu hir ar y dde

Credir iddo godi plasty ar y tir hwn a ddaeth yn gartref cangen Nantlle o deulu Glynniaid ymhen canrifoedd.[6] Mae'r tŷ presennol ar y safle, Tŷ Mawr, Nantlle, yn olynydd i dŷ Tudur Goch, a godwyd tua 1545.[7]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. ↑ W Ogwen Williams, A Calendar of Caernarvonshire Quarter Sessions Records, (Caernarfon, 1956), t.248.
  2. ↑ J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t. 172
  3. ↑ Wikipedia[1], adalwyd 19.07.2018
  4. ↑ W. Gilbert Williams, Glyniaid Glynllifon (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.33
  5. ↑ Glyn Roberts, The Glynnes and the Wynns of Glynllifon, (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.26
  6. ↑ J E Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.172.
  7. ↑ Gwefan Discovering Old Welsh Houses [2], adalwyd 19.07.2018