Cae'r Gors

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:09, 15 Ebrill 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Cae'r Gors ynhen dyddyn yn Rhosgadfan a fu'n gartref plentyndod i Dr. Kate Roberts. Saif ar y ffordd o ben Gallt Pen Gwrli i'r groesffordd ger hen gapel. Mae caeau Cae'r Gors erbyn hyn yn cael eu defnyddio fel meysydd Clwb Pêl-droed Mountain Rangers.

Mae'r tŷ yn cael ei ddangos ar fap degwm 1839 a barn y Comisiwn Brenhinol yw ei fod yn dyddio o'r 19g. cynnar. Mae'n nodweddiadol o fythynnod y cyfnod hwnnw yn yr ardal: sef dwy ystafell a chroglofft.[1]

Erbyn yr 1960au, roedd Cae'r Gors yn wag a'r tŷ yn mynd â'i ben iddo. Prynodd Dr Kate Roberts y tŷ ym 1965 a'i gyflwyno i'r genedl er mwyn creu yr hyn a ddisgrifiwyd fel adfail rheoledig, gan nad oedd digopn o arian i'w hadfer yn iawn. Tynnwyd y to, tacluswyd y tu mewn, a gosod sawl plac llechen gyda dyfyniadau o'i gweithiau ar y muriau. Ryw deugain mlynedd yn ddiweddarach, ym 2006-7, llwyddodd pwyllgor lleoli i adfer y tŷ fel bwthyn o oes ieuenctid Kate Roberts. Trwy sicrhau grantiau, fe wnaed y gwaith, gan godi ystafell newydd gydag adnoddau arlwyo a chyfarfod hefyd. Am rai blynyddoedd agorwyd y tŷ i ymwelwyr yn ystod yr haf ond gyda'r nifer yn edwino, caewyd y drysau a maes o law fe'i drosglwyddwyd i ofal CADW, sydd yn agor yr adeilad ar gais grwpiau addysgol sydd am weld y lle.[2]

Erbyn hyn, ynghyd â bwthyn sydd wedi symud i Amgueddfa Werin Cymru, Llain Fadyn, dyma bron yr unig adeiladau sy'n tystio i arddull a dull dodrefnu tyddynod y chwarelwyr yn Uwchgwyrfai yn ystod y 19g a dechrau'r 20g.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Coflein (cyrchwyd 15.4.2019) [1]
  2. Seiliwyd yr erthygl yn bennaf ar wybodaeth bersonol, Gwefan CADW (cyrchwyd 15.4.2019) [2]