Crefftwyr a Masnachwyr Uwchgwyrfai, 1868

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:28, 21 Hydref 2025 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yn disgwyl i gael ei olygu

Isod gwelir rhestr Crefftwyr a Masnachwyr yn Uwchgwyrfai a godwyd o Gyfarwyddiadur Masnach Slater, 1868 sydd yn rhoi argraff o'r ystod o alwedigaethau a busnesau ar wahân i chwarelydda ac amaethu oedd yn bod yn y cwmwd tua 150 o flynyddoedd yn ôl.

Mae angen ar bob cymuned ei masnachwyr a chrefftwyr er mwyn i bobl gaffael eu hanghenion nada oes modd eu cynhyrchu gartref. Bu crefftwyr megis gofaint a chryddion wrthi ers canrifoedd yn Uwchgwyrfai, ac er bod angen teithio i’r dref agosaf neu ddisgwyl am y ffair leol achlysurol, yr oedd nifer o bedleriaid neu werthwyr teithiol yn galw o bryd i’w gilydd – ac roedd tafarnau wedi bod yn nodwedd o’r ardal ers y Canol Oesoedd.

Cyflwyniad i’r testun

Erbyn y 19g., fodd bynnag, a diwydiant a phoblogaeth y fro’n cynyddu, dechreuodd mwy o fân bobl fusnes weithredu’n lleol er mwyn diwallu anghenion gweithwyr lleol a oedd â mwy o arian yn eu pocedi a heb amser na thir i gynhyrchu bwyd, dillad, offer ac anghenion eraill bywyd. Nid hawdd yw cael darlun cyflawn, er bod digon o gyfeiriadau at alwedigaethau yn nogfennau’r Cyfrifiad o 1841 ymlaen, a cheir llawer o gyfeiriadau unigol at y bobl hyn mewn dogfennau a llyfrau o bob math. I gael darlun gwell, fodd bynnag, rhaid troi at y cyfarwyddiaduron masnach, sef rhestrau honedig gyflawn o holl fasnachwyr a phobl busnes yr ardal. Y pennaf o’r rhai hyn oedd Cyfarwyddiadur Slater, ond prin bod sôn am bentrefi Dyffryn Nantlle yn yr argraffiad a gyhoeddwyd ym 1859, er bod rhestr lawn o fusnesau Caernarfon a’r fro ynddo. Dichon mai adlewyrchu’r ffaith mai ardal a oedd ond yn dechrau ymrymuso’n fasnachol oedd y cwmwd a’i bentrefi. O’r rhifyn nesaf o Gyfarwyddiadur Slater ymlaen, fodd bynnag, dyddiedig 1868, ceir Manyklion am lawer o fusnesau yn Uwchgwyrfai dan bennawd Caernarfon. Rhaid oedd disgwyl am flynyddoedd eto cyn cael llyfr Slater oedd yn cynnwys adran oedd yn sôn yn benodol am Ben-y-groes a’r dyffryn ehangach.

Pobl busnes Uwchgwyrfai ym 1868

Isod, mae rhestr o’r busnesau a nodir yn rhifyn 1868 o Slater dan bennawd Caernarfon ond sydd yn cyfeirio at Uwchgwyrfai. Yn y llyfr hwnnw, trefnir busnesau dan benawdau yn unol â’u natur (sef cigyddion, groseriaid, gofaint ac ati) ond yma ad-drefnwyd y manylion a gopïwyd a’u gosod yn unol â’r pentrefi er mwyn gweld ym mha bentrefi a phlwyfi yr oedd y prif ganolfannau busnes.

Clynnog Fawr

‘’’Groseriaid’’’: Solomon Jones; William Roberts ‘’’Gwestai’’’: Richard Edwards, Newborough Arms ‘’’Llieinwerthwyr a dilladyddion’’’: Solomon Jones; William Roberts ‘’’ Perchnogion Cerbydau i deithwyr’’’ (“Coach and Car Proprietors”): Richard Edwards ‘’’Tafarnwyr’’’: John Evans, New Inn; Robert Evans, Tafarn y Sportsman, Gurn-goch

Llandwrog

‘’’Melinyddion’’’: Robert Jones, Melin Forgan, Y Groeslon ‘’’Tafarnwyr’’’: Cornelius Peters, Grugan Arms, Y Groeslon; Owen Williams, Tafarn Llanfair Arms, Y Groeslon

Llanllyfni

‘’’Seiri ac Adeiladwyr’’’: Owen Owen ‘’’Cryddion’’’: John Parry ‘’’Gofaint’’’: Owen Thomas; Owen Williams, Y Berth ‘’’Groseriaid’’’: Thomas Jones; Owen Williams; William M. Williams ‘’’Llieinwerthwyr a dilledyddion’’’: Hugh Jones; John Roberts ‘’’Llyfrwerthwyr’’’: William Jones ‘’’Melinyddion’’’: Robert Roberts ‘’’Siopwyr a masnachwyr bwyd a nwyddau amrywiol’’’: Robert Roberts ‘’’Tafarnwyr’’’: Mary Edwards, Barmouth Arms; Robert H. Jones, Tafarn y Fort; Griffith Jones, Tafran y King’s Head; John Roberts, Tafarn y Machine; Owen Roberts, Tafarn y Quarryman’s Arms; Thomas Owen, Tafarn y Wellington ‘’’Teilwriaid’’’: John Williams (hefyd yn ddilledydd)

Llanwnda

‘’’Gwneuthurwyr llechi ysgrifennu’’’: Bezaleel Jones ‘’’Siopwyr a masnachwyr bwyd a nwyddau amrywiol’’’: R. Thomas; R.J. Thomas, Dolydd ‘’’Tafarnwyr’’’: John Huxley, Dolydd Arms; Ellis Roberts, Tafarn y Mount Pleasant

Pant-glas

‘’’Tafarnwyr’’’: Harry Jones, Railway Inn

Pen-y-groes

‘’’Cryddion’’’: Robert Owen; Thomas Pritchard ‘’’Cynhyrchwyr defnyddiau gwlân’’’: Morris Owen ‘’’Fferyllwyr’’’: Hugh Williams ‘’’Gofaint’’’: William Davies ‘’’Groseriaid’’’: Robert Evans; Owen Roberts ‘’’Gwerthwyr cwrw’’’: Ann Roberts ‘’’Gwneuthurwyr a gwerthwyr dillad merched’’’: .... Gordon; Mary Parry ‘’’Gwneuthurwyr llechi ysgrifennu’’’: Thomas Lloyd Jones; John Williams ‘’’Haearnwerthwyr’’’: Owen Roberts ‘’’Llawfeddygon’’’: Evan Roberts; John Williams, M.D. ‘’’Llawfeddygon anifeiliaid’’’: Hugh Jones, Gelli Bach ‘’’Llieinwerthwyr a dilledyddion’’’: William Daniel O’Brien; Owen Roberts ‘’’Llyfrwerthwyr: Griffith Lewis ‘’’Meddygon esgyrn’’’: Richard Evans; Thomas Evans ‘’’Oriadurwyr a gwneuthurwyr clociau’’’: John Thomas ‘’’Siopwyr a masnachwyr bwyd a nwyddau amrywiol’’’: Thomas Griffith; David Owen; John Roberts; Robert Williams; Thomas Williams ‘’’Tafarnwyr’’’: John Griffith, Bryncir Arms; Edward Griffith, Tafarn Sign Horse; Robert Hughes, Tafarn y Stag’s Head ‘’’Teilwriaid’’’: Eliezar Hughes; Hugh Hughes; Richard Williams (hefyd yn ddilledydd) ‘’’Torwyr cerrig a masnachwyr llechi’’’: David Roberts

Tal-y-sarn

Sylwer mai Nantlle oedd yr enw a ddenyddid gan Slater am y pentref hwn ym 1868, yn hytrach na’r pentref a adwaeinir heddiw fel Nantlle. ‘’’Groseriaid’’’: Evan Evans; Ellis Hughes, Tŷ’n-y-weirglodd (ger Gwernor); Thomas Roberts ‘’’Gwestai’’’: Hugh Williams, Commercial Inn ‘’’Tafarnwyr’’’: Robert Griffith, Tafarn yr Half Way ‘’’Teilwriaid’’’: E. Jones; Owen Jones

Y Bontnewydd

Cynhwysir yma’r holl bobl fusnes a restrir dan “Pont Newydd” (i ddilyn sillafiad Slater), gan y byddai’r bobl hyn yn gwasanaethu’r ddau hanner o’r pentref o bobtu’r Afon Gwyrfai er nad oedd ond y darn deheuol yn Uwchgwyrfai. ‘’’Bragyddion’’’: Ellen Ellis; William Thomas ‘’’Cryddion’’’: David Roberts ‘’’Cynhyrchwyr winsi’’’: Daniel Jones; Benjamin Owen ‘’’Gofaint’’’: Robert Roberts, Llwyn Beuno; Henry Williams, Llwyn Beuno ‘’’Llieinwerthwyr a dilledyddion’’’: Griffith Roberts ‘’’Melinyddion’’’: John Lloyd Jones ‘’’Seiri ac Adeiladwyr’’’: Robert Roberts ‘’’Siopwyr a masnachwyr bwyd a nwyddau amrywiol’’’: Morris Parry; Owen Parry; Henry Williams; William Williams ‘’’Tafarnwyr’’’: Ellen Ellis, Black Lion; Hugh Hughes, Butchers’ Arms; Evan Hughes, Newborough Arms ‘’’Teilwriaid’’’: Richard Jones