Pen-y-groes

Pen-y-groes yw'r pentref mwyaf yn ardal Dyffryn Nantlle. Yn wir, dyma'r gymuned fwyaf yn holl gwmwd Uwchgwyrfai ers iddi ddatblygu ynnystod ail hanner y 19g., gan adael pentref bychan hynaf y plwyf, sef Llanllyfni yn ei gysgod. Bu sôn am bentref yn Llanllyfni ers y 17g., a dyna lle'r oedd eglwys y fro a lle cynhelid ffair ers canrifoedd - a lle'r oedd nifer fwyaf o dafarnau'r dyffryn! Er i lawer o chwarelwyr fyw ym Mhen-y-groes pan oedd chwareli'r dyffryn ar eu hanterth, roedd Pen-y-groes y tu allan i ardal ddaearyddol y llechfaen, a gwasanaethodd y pentref fel canolfan fasnachol y dyffryn, ac yn y man fe ddatblygodd fel prif leoliad siopau'r dyffryn, a chartref nifer o greffwyr a mân ddiwydiannau. Roedd (ac y mae) chwarel tywod a gro ar gyrrion y pentref.
Ceir darlun cyfoes gwych o'r pentref pan oedd yn tyfu yn nisgrifiad Owen Owen o Ben-y-groes, o'i lyfr Hen Atgofion am Ben-y-groes. Mae darn o'r llyfr yn disgrifio'r pentref tua 1870 wedi ei atgynhyrchu yn Cof y Cwmwd a gellir ei ddarllen trwy glicio yma.
Datblygiad y pentref
Mae'n debyg mai enw ar fferm neu dyddyn oedd Pen-y-groes i ddechrau, gyda'r enw yn disgrifio'r lleoliad ger y groesffordd rhwng y lôn fawr o Gaernarfon i Benmorfa a lôn a redai o gyfeiriad y môr ger Pontlyfni i ben pellaf Dyffryn Nantlle. Un o'r cyfeiriadau cyntaf at Ben-y-groes yw nodyn ym mhapurau Llys Chwarter y sir sy'n dyddio o 1813, lle rhwymwyd Morgan Roberts, iwmon (sef ffermwr) o Ben-y-groes i gadw'r heddwch wedi ffrae rhwng rhai o ddynion y dyffryn.[1]
Ar, neu ger, y groesffordd yr oedd tafarn, y "Pen-y-groes Inn" erbyn y 1820au, gan fod cyfeiriad ato ym 1829 fel man aros i deithwyr answyddogol ar Rheilffordd Nantlle a oedd wedi agor ym 1828.[2] Safai'r dafarn ar y groesffordd lle mae Yr Orsaf heddiw, sef yr hen Siop Griffiths.