Cymffyrch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:07, 27 Medi 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cymffyrch, neu Fynydd y Cymffyrch, yw'r enw ar y llethr o dan Ffridd Fain a Chors Fawr i'r de o Afon Llyfni, rhwng Bro Silyn a fferm y Ffridd. Weithiau cyfeirir ato fel "Y Cymffyrch". Llethr ydyw yn hytrach na mynydd gan mai unochrog ydyw, sef yr allt rhwng gwaelod Dyffryn Nantlle a'r rhostir uchel o dan fynyddoedd Crib Nantlle

Mae ffermydd (neu ffermydd gynt) Tŷ Coch, Gwernor a Thŷ'n-y-weirglodd yn sefyll wrth ei odre, a thyddyn adfeiliedig Brynllidiart ar ei ymyl uchaf. Agorwyd nifer o chwareli ar hyd y llethr, Chwarel Gwernor, Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd, Chwarel Dyffryn Nantlle, Chwarel Fronheulog a Chwarel Tan'rallt i enwi'r rhai pwysicaf. Gorchuddir y gwythiennau llechi gan dywodfaen galed arbennig, sef "Gritfaen Cymffyrch" a gydnabyddir gan ddaearegwyr fel math neilltuol o garreg.

Ni cheir yr enw ar fapiau Ordnans, ond mae'n enw digon cyfarwydd (neu mi roedd ganrif a mwy'n ôl). Er enghraifft, enillodd Alice Griffith (Ceridwen Llyfnwy) yng Nghyfarfod Llenyddol Tan'rallt Nadolig 1891 gyda cherdd o'r enw "Ymson y Cymffyrch".[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cyfaill yr Aelwyd a'r Frythones, Cyf.I, 2 (Chwefror 1892), tt.41-2