Ffordd Osgoi Caernarfon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:53, 18 Hydref 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Ffordd Osgoi Caernarfon, rhan o'r gefnffordd A487, yn rhedeg o gylchfan ger Tafarn y Goat, Llanwnda i gylchfan Griffis Crosin ger Y Felinheli. Mae'n rhedeg dros dir corsiog am beth o'i ffordd trwy Uwchgwyrfai, heibio tŷ Y Parc, Llanwnda a threflan Dinas, cyn croesi Afon Gwyrfai rhwng Pont Faen a phentref Y Bontnewydd.

Pan fydd yn agor yn 2022, bydd yn cysylltu'n uniongyrchol â phen gogleddol Ffordd Osgoi Pen-y-groes wrth gylchfan y Goat, Llanwnda. Erbyn hynny bydd yr holl ffordd o Dŷ Golchi ger y Felinheli hyd at drofa Nasareth wedi ei hadeiladu ar dir nad oedd erioed o'r blaen yn rhan o ffordd, a phob cam o'r A487 rhwng Pont Menai a phentref Pant-glas wedi ei gwella'n sylweddol iawn.