Tafarn y Goat, Llanwnda

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Tafarn y Goat, Llanwnda tua 1920-25

Tafarn y Goat (ni alwodd neb y lle'n "Afr") yn Llanwnda oedd y dafarn a wasanaethai yr orsaf gerllaw. Roedd yn cael ei chadw am flynyddoedd lawer gan aelodau o'r un teulu Griffith oedd hefyd yn gyfrifol am werthu glo o iard yr orsaf ac yn rhedeg modurdy ar draws y ffordd i'r dafarn. Ym 1889, William Griffith oedd y tafarnwr a'r masnachwr glo.[1] Mae'r adeilad yn sefyll yno o hyd, wedi ei foderneiddio ar ryw adeg, er i'r tu mewn barhau ar ei ffurf Fictorianaidd nes iddi gau tua 2004. Bu farw'r olaf i gadw'r dafarn, Ann Griffith, yn 2019.

Nid y Goat oedd unig dafarn y pentref bychan. Codai'r ffordd fawr dros bont y rheilffordd ochr Caernarfon i'r Goat, a'r ochr arall i'r bont roedd Tafarn y Railway. Caewyd honno yn ystod yr 20g ac, ar ôl gwasanaethu fel tŷ annedd, fe'i chwalwyd yr un pryd ag y dymchwelwyd pont y rheilffordd.

Am flynyddoedd nes iddi gau roedd Y Goat yn nodedig am Gymreictod y gwmnïaeth ac yn gyrchfan i Gymry mwyaf cenedlaetholgar y fro - er na chaniateid canu yno!

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cyfeiriadau Masnach Sutton, 1889-90