Arfon y Dyddiau Gynt

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:11, 23 Awst 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cyfrol o dair o ysgrifau hanesyddol gan W. Gilbert Williams, Rhostryfan yw Arfon y Dyddiau Gynt .[1] Nodir yn y Rhagair byr i'r gyfrol bod peth o'r deunydd wedi ei gyhoeddi yn y cylchgrawn Cymru yn Hydref a Thachwedd 1914 ac yn Ionawr ac Ebrill 1915. Roedd Cymru, dan olygyddiaeth O.M. Edwards, yn gylchgrawn hynod boblogaidd yn ei ddydd a chyfrannodd Gilbert Williams lawer o ddeunydd iddo dros y blynyddoedd.

Yr ysgrif gyntaf yn Arfon y Dyddiau Gynt yw un ar y testun "Castell Caernarfon yn y Rhyfel Mawr" - a'r Rhyfel Mawr yn y cyd-destun yma yw Rhyfel Cartref Lloegr 1642-1648, a gafodd effaith sylweddol ar Gymru'n ogystal. Yn yr ysgrif rhoddir tipyn o gefndir hanes castell Caernarfon ac ymdrinnir yn arbennig â'r gwarchae a fu arno yn ystod y Rhyfel Cartref nes iddo syrthio i fyddin y Cyrnol Mytton ym 1646. Ond rhoddir sylw yn yr ysgrif hefyd i effaith y rhyfel yn ehangach ar ogledd-orllewin Cymru. Ar ôl cyfnod byr o heddwch ym 1646, ail-daniodd y rhyfel ym 1647-48, a sonnir yn arbennig yn yr ysgrif am yr ymladdfa waedlyd a fu ar y Dalar Hir ger Llandygái pan drechwyd John Owen, Clenennau a'i filwyr Brenhinol gan y Cyrnol George Twistleton, Lleuar Fawr a'i lu a ymladdai dros y Senedd.

Ceir wedyn ysgrif sylweddol yn ymdrin â Glyniaid Glynllifon o'u dechreuadau lled-chwedlonol gyda Chilmyn Droed-ddu ymlaen i'r ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, pan ddaeth y cyfenw Glynn i ben gyda phriodas Frances Glynn â Thomas Wynn, Boduan. Mae hon yn ysgrif gyfoethog ei chynnwys sy'n ymdrin â chynnydd a datblygiad y teulu dylanwadol hwn yng ngorllewin yr hen Sir Gaernarfon a rhoddir sylw i rai o ffigurau amlwg y teulu o'r bymthegfed hyd yr ail ganrif ar bymtheg. Dyma ffynhonnell bwysig i unrhyw un sydd eisiau gwybod mwy am hen deulu'r Glyn.

Mae'r ysgrif olaf yn y gyfrol yn ymdrin â hen drefgordd Bodellog ym mhlwyf Llanwnda, gan olrhain ei hanes yn ôl i'r dystiolaeth a geir yn y "Record of Caernarvon" (1353). Roddir sylw i ble yn union roedd Bodellog a'i therfynau gan fod cryn ansicrwydd wedi bod ynghylch hynny dros y blynyddoedd, gydag Eben Fardd wedi ei lleoli yn ardal Nantcall yn rhan uchaf cwmwd Uwchgwyrfai ger y ffin â phlwyf Dolbenmaen. Rhoddir cryn sylw yn yr ysgrif hefyd i Felin Bodellog, neu Felin y Bont Newydd i roi enw arall arni, a'r helbulon cyfreithiol a'r ymgecru a fu ynglŷn â hi.

Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert Williams, Arfon y Dyddiau Gynt, (Caernarfon: Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig, Cyf., di-ddyddiad), tt.136