Pistyll Dafn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:48, 9 Ebrill 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Pistyll Dafn yn un o'r ychydig raeadrau sylweddol yn Uwchgwyrfai, ac yn cael ei nodi ar fapiau Ordnans. Ceir hyd iddo ar Afon Hen - a elwir yn lleol yn Afon Ddalfa - tua phen draw Cwm Gwara, yn y blanhigfa goed.

Yn ei llyfr Sul, Gŵyl a Gwaith ceir hanes yr awdur, Catrin Parri Huws, yn mynd i weld Pistyll Dafn ar Afon Ddalfa, yr ochr uchaf i fferm Cwmgwara. Byddai ymwelwyr yn heidio yno yng nghyfnod ei phlentyndod. “Ymhen blynyddoedd wedi hynny fe geisiais innau fynd â’m plant i weld y rhyfeddod. Ond methiant a fu, oherwydd y dagfa o’r brwgaits tewaf. Ni chlywid ei dinc, hyd yn oed, fel yn yr amser gynt.”[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Catrin Parri Huws, Sul, Gŵyl a Gwaith (Gwasg Gwynedd, 1981).