Llyn y Dywarchen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Llyn y Dywarchen''' bellach ym mhlwyf Beddgelert ond arferai fod o fewn ffiniau plwyf [[Llanwnda]] ac felly o fewn [[Uwchgwyrfai]]. Cafodd ei ehangu i ddiwallu anghenion gweithiau mwynau am ddŵr, ond mae'r llyn yn un naturiol ac â hanes hir iddo, gan fod Gerallt Cymro yn cyfeirio at y llyn a'r hanes o ynys o dyweirch oedd yn arnofio ar ei wyneb, gan symud o lan i lan ar draws y llyn, a hynny mor gynnar â 1188. Tua 600 mlynedd wedyn, honodd Thomas Pennant iddo weld yr un ffenomen ar waith. Y cyfeiriad olaf at weld yr ynys arnofiol hon oedd ym 1931.
Mae '''Llyn y Dywarchen''' bellach ym mhlwyf Beddgelert ond arferai fod o fewn ffiniau plwyf [[Llanwnda]] ac felly o fewn [[Uwchgwyrfai]]. Cafodd ei ehangu i ddiwallu anghenion gweithiau mwynau a chwareli llechi am ddŵr, gan droi'r llif, a oedd gynt yn rhedeg i [[Afon Llyfnwy]] i gyfeiriad [[Dyffryn Gwyrfai]].<ref>Geraint Thomas, ''Cyfrinachau Llynnoedd Eryri'' (Tal-y-bont, 2011), t.50</ref> Serch hyn, mae'r llyn yn ei hanfod yn un naturiol ac â hanes hir iddo, gan fod Gerallt Cymro yn cyfeirio at y llyn a'r hanes o ynys o dyweirch oedd yn arnofio ar ei wyneb, gan symud o lan i lan ar draws y llyn, a hynny mor gynnar â 1188. Tua 600 mlynedd wedyn, honodd Thomas Pennant iddo weld yr un ffenomen ar waith. Y cyfeiriad olaf at weld yr ynys arnofiol hon oedd ym 1931.

Stori a adroddir am hwn ynghyd â nifer o lynnoedd eraill , oedd i fugail ieuanc weld merch o'r Tylwyth Teg yn dawnsio ar lan y llyn. Syrthiasant mewn cariad a phriodi, ond ar yr amod na fyddai byth yn ei tharo â haearn. Un diwrnod gwnaeth hynny, a diflannodd y ferch.

Fersiwn yn ôl 20:53, 12 Tachwedd 2020

Mae Llyn y Dywarchen bellach ym mhlwyf Beddgelert ond arferai fod o fewn ffiniau plwyf Llanwnda ac felly o fewn Uwchgwyrfai. Cafodd ei ehangu i ddiwallu anghenion gweithiau mwynau a chwareli llechi am ddŵr, gan droi'r llif, a oedd gynt yn rhedeg i Afon Llyfnwy i gyfeiriad Dyffryn Gwyrfai.[1] Serch hyn, mae'r llyn yn ei hanfod yn un naturiol ac â hanes hir iddo, gan fod Gerallt Cymro yn cyfeirio at y llyn a'r hanes o ynys o dyweirch oedd yn arnofio ar ei wyneb, gan symud o lan i lan ar draws y llyn, a hynny mor gynnar â 1188. Tua 600 mlynedd wedyn, honodd Thomas Pennant iddo weld yr un ffenomen ar waith. Y cyfeiriad olaf at weld yr ynys arnofiol hon oedd ym 1931.

Stori a adroddir am hwn ynghyd â nifer o lynnoedd eraill , oedd i fugail ieuanc weld merch o'r Tylwyth Teg yn dawnsio ar lan y llyn. Syrthiasant mewn cariad a phriodi, ond ar yr amod na fyddai byth yn ei tharo â haearn. Un diwrnod gwnaeth hynny, a diflannodd y ferch.

Roedd tŷ a godwyd gan deulu Drws-y-coed ar gyfer Morafiaid Drws-y-coed a ymsefydlodd yn yr ardal yn sefyll le mae maes parcio bychan yn awr.

Mae'r llyn yn arbennig o boblogaidd gyda physgotwyr.

Ar un adeg roedd nant yn llifo o'r llyn tua'r gorllewin ar hyd Dyffryn Nantlle, ond ers i'r argae gael ei adeiladu mae nant yn llifo i lawr i Lyn y Gader ac Afon Gwyrfai.[2]

Cyfeiriadau

  1. Geraint Thomas, Cyfrinachau Llynnoedd Eryri (Tal-y-bont, 2011), t.50
  2. Wicipedia [1] cyrchwyd 13.6.2019