Trefgorddau Uwchgwyrfai 1352: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Llinell 32: Llinell 32:
  * [[Cwm (trefgordd)|Cwm]], yn rhan uchaf plwyf Clynnog Fawr ar lethrau [[Mynydd Bwlch Mawr]]
  * [[Cwm (trefgordd)|Cwm]], yn rhan uchaf plwyf Clynnog Fawr ar lethrau [[Mynydd Bwlch Mawr]]
  * [[Nancall (trefgordd)|Nancall]], yr ardal o gwmpas [[Pant-glas]]
  * [[Nancall (trefgordd)|Nancall]], yr ardal o gwmpas [[Pant-glas]]
  * [[Rhedynog Felen (trefgordd)|Rhedynog Felen]], sef rhan o blwyf presennol [[Llanwnda]], rhwng y [[Dolydd]] a'r môr
  * [[Rhedynog Felen]], sef rhan o blwyf presennol [[Llanwnda]], rhwng y [[Dolydd]] a'r môr


===Trefgordd ag Esgob Bangor yn arglwydd arni===
===Trefgordd ag Esgob Bangor yn arglwydd arni===

Fersiwn yn ôl 10:43, 26 Mehefin 2020

Cyffredinol

Yn ystod y Canol Oesodd dan y Tywysogion ac wedyn o dan reolaeth Seisnig hyd at 1536 rhannwyd y wlad at ddibenion gweinyddu a threthu'n gantrefi (megis Arfon), cymydau (megis Uwchgwyrfai) ac wedyn trefgorddi, unedau oedd rhywfaint yn llai na'r plwyfi a chymunedau yr ydym yn gyfarwydd â nhw.

Fel arfer, yr oedd y rhan fwyaf o drefgorddi'n dod o dan reolaeth uniongyrchol y Tywysog. Iddo fo, trwy ei swyddogion y Rhaglaw a'r Rhingyll, y telid pob rhent a 'dirwy', sef taliadau ar achlysuron penodol megis etifeddu'r hawl i fod yn denant, ac iddo fo yr oedd angen cyflawni ambell i wasanaeth megis atgyweirio melin yr arglwydd, cludo ei nwyddau a chynnal yr arglwydd neu ei swyddogion pan oeddynt ar eu taith trwy'r cwmwd.

Bu i'r tywysogion weithiau drosglwyddo eu hawliau i sefydliadau eglwysig fel modd i sicrhau gwaddol iddynt - ac, yn ôl pob ymddangosiad, i geisio maddeuant am eu pechodau mewn cyfnod pan oedd yr Eglwys Babyddol yn honni bod modd prynu iachawdwriaeth yn y byd a ddaw. Yr mwy o hanner trefgorddi Uwchgwyrfai wedi eu neilltuo i ddarparu cynhaliaeth i'r Eglwys a'i sefydliadau yn y modd yna, a hynny'n rywbeth o eithriad i'r sefyllfa arferol mewn cwmwd - er bod y trefgorddi a neilltuwyd, at ei gilydd, yn llai o ran arwynebedd na threfgorddi a arhosai o dan y Tywysog.

Rhestr o'r trefgorddi

Mae erthygl ar bob un o'r trefgorddi ar gael yn unigol, lle nodir ffiniau neu leoliad, tenantiaid yn ystod y 14g., rhenti, ac ati, yn ôl y manylion sydd bellach ar gael i ni heddiw. Lle cafwyd hyd i ddogfen Ladin yn ymdrin â hyn ac sydd ar gael ar ffurf argraffedig neu'n electronig, ceisir rhoi cyfieithiad rhydd yng nghorff yr erthygfl berthnasol, y rhan fwyaf yn llyfr The Record of Caernarvon[1] neu erthygl gan Dr Colin Gresham ar siartr Aberconwy[2]

Tregorddi'r Tywysog

* Bodellog - i'r de o'r Bontnewydd
* Dinlle - yn fras, rhan uchaf plwyf Llanwnda a'r rhan fwyaf o blwyf Llandwrog 
* Elernion - ardal Trefor
* Pennarth - ardal Aberdesach

Trefgorddi wedi eu neilltuo i roi cynhaliaeth i glâs ac Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr

Roedd gan denantiaid y terfgorddi hyn ddyletswydd i ddefnyddio melin y tywysog a thalu rhai ddirwyon i'r tywysog

* Clynnog yng ngwaelodion plwyf Clynnog Fawr
* Bryncynan yn ardal Pontlyfni
* Llanllyfni, sef rhan uchaf plwyf Llanllyfni

Trefgorddi a roddwyd i Abaty Aberconwy fel lluestai

Roedd pob taliad, dyletswydd a gwasanaeth yn cael ei roi i'r abaty

* Cwm, yn rhan uchaf plwyf Clynnog Fawr ar lethrau Mynydd Bwlch Mawr
* Nancall, yr ardal o gwmpas Pant-glas
* Rhedynog Felen, sef rhan o blwyf presennol Llanwnda, rhwng y Dolydd a'r môr

Trefgordd ag Esgob Bangor yn arglwydd arni

Roedd pob taliad, dyletswydd a gwasanaeth yn cael ei roi i'r esgob

* Llanwnda - sef y tir rhwng Bodellog a Rhedynog Felen, yn fras ardal Dinas a Saron heddiw.

Cyfeiriadau

  1. Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838
  2. Colin Gresham, The Aberconwy Charter, (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939)