Trefgorddau Uwchgwyrfai 1352: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 23: | Llinell 23: | ||
* [[Clynnog (trefgordd)|Clynnog]] yng ngwaelodion plwyf [[Clynnog Fawr]] | * [[Clynnog (trefgordd)|Clynnog]] yng ngwaelodion plwyf [[Clynnog Fawr]] | ||
* [[Bryncynan (trefgordd|Bryncynan)]] yn ardal [[Pontlyfni]] | * [[Bryncynan (trefgordd)|Bryncynan)]] yn ardal [[Pontlyfni]] | ||
* [[Llanllyfni (trefgordd)|Llanllyfni]], sef rhan uchaf plwyf [[Llanllyfni]] | * [[Llanllyfni (trefgordd)|Llanllyfni]], sef rhan uchaf plwyf [[Llanllyfni]] | ||
Fersiwn yn ôl 10:35, 26 Mehefin 2020
Cyffredinol
Yn ystod y Canol Oesodd dan y Tywysogion ac wedyn o dan reolaeth Seisnig hyd at 1536 rhannwyd y wlad at ddibenion gweinyddu a threthu'n gantrefi (megis Arfon), cymydau (megis Uwchgwyrfai) ac wedyn trefgorddi, unedau oedd rhywfaint yn llai na'r plwyfi a chymunedau yr ydym yn gyfarwydd â nhw.
Fel arfer, yr oedd y rhan fwyaf o drefgorddi'n dod o dan reolaeth uniongyrchol y Tywysog. Iddo fo, trwy ei swyddogion y Rhaglaw a'r Rhingyll, y telid pob rhent a 'dirwy', sef taliadau ar achlysuron penodol megis etifeddu'r hawl i fod yn denant, ac iddo fo yr oedd angen cyflawni ambell i wasanaeth megis atgyweirio melin yr arglwydd, cludo ei nwyddau a chynnal yr arglwydd neu ei swyddogion pan oeddynt ar eu taith trwy'r cwmwd.
Bu i'r tywysogion weithiau drosglwyddo eu hawliau i sefydliadau eglwysig fel modd i sicrhau gwaddol iddynt - ac, yn ôl pob ymddangosiad, i geisio maddeuant am eu pechodau mewn cyfnod pan oedd yr Eglwys Babyddol yn honni bod modd prynu iachawdwriaeth yn y byd a ddaw. Yr mwy o hanner trefgorddi Uwchgwyrfai wedi eu neilltuo i ddarparu cynhaliaeth i'r Eglwys a'i sefydliadau yn y modd yna, a hynny'n rywbeth o eithriad i'r sefyllfa arferol mewn cwmwd - er bod y trefgorddi a neilltuwyd, at ei gilydd, yn llai o ran arwynebedd na threfgorddi a arhosai o dan y Tywysog.
Rhestr o'r trefgorddi
Mae erthygl ar bob un o'r trefgorddi ar gael yn unigol, lle nodir ffiniau neu leoliad, tenantiaid yn ystod y 14g., rhenti, ac ati, yn ôl y manylion sydd bellach ar gael i ni heddiw. Lle cafwyd hyd i ddogfen Ladin yn ymdrin â hyn ac sydd ar gael ar ffurf argraffedig neu'n electronig, ceisir rhoi cyfieithiad rhydd yng nghorff yr erthygfl berthnasol, y rhan fwyaf yn llyfr The Record of Caernarvon[1] neu erthygl gan Dr Colin Gresham ar siartr Aberconwy[2]
Tregorddi'r Tywysog
* Bodellog - i'r de o'r Bontnewydd * Dinlle - yn fras, rhan uchaf plwyf Llanwnda a'r rhan fwyaf o blwyf Llandwrog * Elernion - ardal Trefor * Pennarth (trefgordd) - ardal Aberdesach
Trefgorddi wedi eu neilltuo i roi cynhaliaeth i glâs ac Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr
Roedd gan denantiaid y terfgorddi hyn ddyletswydd i ddefnyddio melin y tywysog a thalu rhai ddirwyon i'r tywysog
* Clynnog yng ngwaelodion plwyf Clynnog Fawr * Bryncynan) yn ardal Pontlyfni * Llanllyfni, sef rhan uchaf plwyf Llanllyfni
Trefgorddi a roddwyd i Abaty Aberconwy fel lluestai
Roedd pob taliad, dyletswydd a gwasanaeth yn cael ei roi i'r abaty
* Cwm, yn rhan uchaf plwyf Clynnog Fawr ar lethrau Mynydd Bwlch Mawr * Nancall, yr ardal o gwmpas Pant-glas * Rhedynog Felen, sef rhan o blwyf presennol Llanwnda, rhwng y Dolydd a'r môr
Trefgordd ag Esgob Bangor yn arglwydd arni
Roedd pob taliad, dyletswydd a gwasanaeth yn cael ei roi i'r esgob
* Llanwnda - sef y tir rhwng Bodellog a Rhedynog Felen, yn fras ardal Dinas a Saron heddiw.