Brad y Llyfrau Gleision: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
==Cyflwyniad cyffredinol==
Rhoddir yr enw '''Brad y Llyfrau Gleision''' i weithred Llywodraeth San Steffan ym 1847 o anfon arolygwyr (di-Gymraeg!) o amgylch Cymru i adrodd ar gyflwr addysg yn y wlad gan nodi manylion y ddarpariaeth ym mhob plwyf yng Nghymru. Gan fod yr arolygwyr wedi mynd y tu allan i'w brîff gwreiddiol a cheisio cysylltu anfoesoldeb tybiedig a thlodi â diffyg ymlyniad at yr Eglwys Sefydledig a diffygion yn y system addysg, teimlai'r Cymry, gyda chryn gyfiawnhad, eu bod yn cael eu sarhau a'u bychanu. Roedd arddull ac agwedd dilornus yr arolygwyr yn cryfhau hynny. Bu cythrwfl a beirniadu hallt gan Gymry o bob radd.

Llinell 4: Llinell 6:

Serch hyn, mae gwerth i'r adroddiad os gellir edrych heibio i'r sarhad a'r gwawd a chanolbwyntio ar y ffeithiau moel yr adroddir amdanynt megis nifer y disgyblion. Yn yr atodiad, mae paragraff neu fwy am bob plwyf yng Nghymru. Canolbwyntir yma ar yr hyn sydd gan y llyfrau gleision i'w ddweud am bum plwyf [[Uwchgwyrfai]].

Cyn bod addysg yn orfodaeth statudol a phob plentyn yn gorfod derbyn addysg (rhywbeth na ddigwyddodd nes basio Deddf Addysg 1870) roedd addysg yn nwylo'r eglwys, y Cymdeithasau Addysg enwadol megis y Gymdeithas Genedlaethol a'r Gymdeithas Brydeinig, ac unigolion elusengar a fyddai'n sefydlu ysgol, ac unigolion a geisiai ennill eu tamaid trwy gynnig addysg preifat am geiniog neu ddwy'r wythnos. Ysgolion felly oedd yr ysgol a noddwyd gan yr eglwys yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog Fawr]] tua diwedd y 17g ac [[Ysgol Eben Fardd]], eto yng Nghlynnog.
==Yr Adroddiadau==
Darlun cymysg o ddarpariaeth fratiog addysg tua 1847 oedd y mwyaf y gellid ei ddisgwyl ar y gorau gan adroddiad y llyfrau gleision. Yn dilyn, ceir nodyn am y pum plwyf yn Uwchgwyrfai yn ôl yr hyn a nodwyd yn yr adroddiad.
===Clynnog Fawr===
Nodir yn y llyfrau gleision nad oedd ysgol yng Nghlynnog ym 1846. Roedd ysgol gynt yn cael ei chynnal yng [[Capel Beuno|Nghapel Beuno]] ond bod honno wedi dod i ben. Nodir ymhellach nad oedd ysgol yn yr un pentref am bellter o 16 milltir o Landwrog i Bwllheli.
===Llanaelhaearn===
Nodir dan bennawd [[Llanaelhaearn]] nad oes yr un ysgol o fewn y plwyf na'r plwyfi cyfagos.
===Llandwrog===
Yn achos [[Llandwrog]] nodir fod dwy ysgol o fewn ffiniau'r plwyf, y ddwy dan nawdd yr eglwys, sef "Llandwrog Church School" a'r "Mountain School" yng nghylch [[Mynydd Cilgwyn]].
Yn [[Ysgol Llandwrog]], roedd 45 ar y gofrestr, ond dim ond 28 oedd yn bresennol ar ddiwrnod ymweliad y comisiynydd ar 1 Rhagfyr 1846. Y pynciau a ddysgid oedd y Beibl, ysgrifennu, darllen a mathemateg. Roedd yr athro yn gyn-gariwr heb unrhyw hyfforddiant, roedd yr ysgoldy'n fudr iawn, a'r toiledau allanol mewn stâd "''atrocious and demoralising''".
Yn y "Mountain School" roedd pethau, yn ôl yr arolygydd, fawr gwell. Yr ysgolfeistr oedd Joshua Williams, dyn na chafodd fawr o gyfle am addysg, eto yn ôl yr arolygydd; roedd yno ysgolfeistres ifanc 18 oed hefyd, a 4 monitor. 78 oedd nifer swyddogol y disgyblion ond dim ond 48 oedd yno. Roedd hanner y rhain yn rhy dlawd i dalu dim at eu haddysg; dywedwyd hefyd fod tua 250 o blant bach yn byw o fewn milltir i'r ysgol nad oedd yn cael unrhyw addysg o gwbl. Dysgid yr un pynciau ag yn Ysgol Llandwrog, a gramadeg a daearyddiaeth hefyd i'r bechgyn yn unig. Yr unig raen yno oedd llwyddiant cymharol mathemateg.
===Llanllyfni===
Nodwyd nad oedd arian ar gael i sefydlu ysgol ar gyfer plant y tlodion. Cynhelid ysgol breifat yn y plwyf, gan ddefnyddio hen gapel y [[Bedyddwyr Sandemanaidd]] yn y pentref. Cafodd yr ysgolfeistr gyflog o £5 y flwyddyn gan ficer y plwyf, ac wwedyn codid ceiniog yr wythnos ar y disgyblion oedd  i gyd yn blant i deuluoedd tlawd. Roedd 17 o enethod  a 31 bachgen ar ygofrestr, ond pan ymwelodd John James, y comisiynydd cynorthwyol yr ysgol ar 3 Rhagfyr, dim ond 7 plentyn oedd yno oherwydd bod y frech goch yn rhemp yn y gymdogaeth ar y pryd.
Roedd yr athro wedi treulio chwe wythnos yng Nghaernarfon yn derbyn hyfforddiant fel athro, ac roedd yn dysgu'r Beibl, darllen yn y ddwy iaith, ysgrifennu, mathemateg a gramadeg y ddwy iaith. Prif feirniadaeth John James oedd cyflwr yr adeilad a'r dodrefn, a'r ffaith nad oedd lle tân yn y lle. Nid oedd toiledau ar gael i'r plant.
===Llanwnda===
Nid oedd ysgol o fewn ffiniau plwyf [[Llanwnda]], er mae'r adroddiad yn nodi bod ysgol genedlaethol (sef ysgol eglwys) wedi bod yno ar un adeg ond ei bod wedi dod i ben.
==Ysgolion Sul==
Sylwodd y comisiynwyr fod llawer o addysgu'n mynd rhagddo trwy gyfrwng yr ysgolion Sul. Nodai'r adroddiad, ymysg pethau eraill, enw'r capel, yr enwad, nifer y disgyblion o dan, a dros, 15 oed, pynciau a ddysgir ac ym mha iaith y cynhelir yr addysg.
===Clynnog Fawr===
* [[Capel Ebeneser (MC), Clynnog Fawr|Capel Clynnog (MC)]]: 51 o ddisgyblion dan 15; 60 dros 15.
* [[Capel Tŷ Glas (MC)]]: 22 o ddisgyblion dan 15; 30 dros 15.
* [[Capel Uchaf (MC)]]: 56 o ddisgyblion dan 15; 58 dros 15.
* [[Capel Tai Duon (MC)]]: 43 o ddisgyblion dan 15; 49 dros 15.
* [[Capel Bwlchderwin (MC)]]: 26 o ddisgyblion dan 15; 35 dros 15.
* [[Capel Nasareth (A)]]: 30 o ddisgyblion dan 15; 28 dros 15.
* [[Capel Pant Glas (I)]]: 13 o ddisgyblion dan 15; 19 dros 15.
* [[Capel Pontlyfni (B)]]: 22 o ddisgyblion dan 15; 20 dros 15.
* [[Capel Seion (MC)]]: 48 o ddisgyblion dan 15; 31 dros 15.
* [[Capel Brynaerau (MC)]]: 51 o ddisgyblion dan 15; 74 dros 15.
===Llanaelhaearn===
Roedd ysgolion Sul yn cael eu cynnal yn y capeli canlynol:
* [[Capel Maesyneuadd (A]]: 47 o ddisgyblion dan 15; 29 dros 15.
* [[Capel Saron (B)]]: 20 o ddisgyblion dan 15; 34 dros 15.
* [[Capel Cwm Coryn (MC)]]: 32 o ddisgyblion dan 15; 28 dros 15. 
===Llandwrog===
* [[Ysgoldy'r Eglwys]]: 20 o ddisgyblion dan 15; 0 dros 15.
* [[Capel Bryn'rodyn (MC)]]: 132 o ddisgyblion dan 15; 117 dros 15.
* [[Capel Salem (W), Tŷnlôn]]: 45 o ddisgyblion dan 15; 189 dros 15.
* [[Capel Cesarea (MC)]]: 61 o ddisgyblion dan 15; 61 dros 15.
* [[Capel Bwlan (MC)]]: y nifer o ddisgyblion dan 15; a thros 15 heb ei gofnodi.
* [[Capel Carmel (MC)]]: 53 o ddisgyblion dan 15; 62 dros 15.
* [[Capel Y Foel (I)]]: 50 o ddisgyblion dan 15;  y nifer o ddisgyblion dros 15 heb ei gofnodi.
* [[Capel Rhosnenan (I)]]: 40 o ddisgyblion dan 15; 20 dros 15.
* [[Capel Ochr y Cilgwyn (MC)]]: 71 o ddisgyblion dan 15; 33 dros 15.
nifer o ddisgyblion dan 15; a thros 15 heb ei gofnodi
* [[Capel Tal-y-sarn (I)]]:35 o ddisgyblion dan 15; 35 dros 15.
* [[Capel Cilgwyn (I)]]: 31 o ddisgyblion dan 15; 47 dros 15.
* [[Capel Bethel (W), Pen-y-groes]]: 17 o ddisgyblion dan 15; 13 dros 15.
===Llanllyfni===
===Llanwnda===

{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 10:43, 21 Hydref 2019

Cyflwyniad cyffredinol

Rhoddir yr enw Brad y Llyfrau Gleision i weithred Llywodraeth San Steffan ym 1847 o anfon arolygwyr (di-Gymraeg!) o amgylch Cymru i adrodd ar gyflwr addysg yn y wlad gan nodi manylion y ddarpariaeth ym mhob plwyf yng Nghymru. Gan fod yr arolygwyr wedi mynd y tu allan i'w brîff gwreiddiol a cheisio cysylltu anfoesoldeb tybiedig a thlodi â diffyg ymlyniad at yr Eglwys Sefydledig a diffygion yn y system addysg, teimlai'r Cymry, gyda chryn gyfiawnhad, eu bod yn cael eu sarhau a'u bychanu. Roedd arddull ac agwedd dilornus yr arolygwyr yn cryfhau hynny. Bu cythrwfl a beirniadu hallt gan Gymry o bob radd.

Sonnid am yr adroddiad fel y llyfrau gleision gan fod yna dair cyfrol wedi eu rhwymo mewn cloriau papur glas; arferid i adroddiadau swyddogol y Llywodraeth ar y pryd, ar ba fater bynnag y bônt, gael eu cyhoeddi gyda chloriau papur glas tywyll. Cyhoeddwyd cannoedd o "lyfrau gleision" ond mae'r enw wedi glynu'n benodol at yr adroddiad hwn.

Serch hyn, mae gwerth i'r adroddiad os gellir edrych heibio i'r sarhad a'r gwawd a chanolbwyntio ar y ffeithiau moel yr adroddir amdanynt megis nifer y disgyblion. Yn yr atodiad, mae paragraff neu fwy am bob plwyf yng Nghymru. Canolbwyntir yma ar yr hyn sydd gan y llyfrau gleision i'w ddweud am bum plwyf Uwchgwyrfai.

Cyn bod addysg yn orfodaeth statudol a phob plentyn yn gorfod derbyn addysg (rhywbeth na ddigwyddodd nes basio Deddf Addysg 1870) roedd addysg yn nwylo'r eglwys, y Cymdeithasau Addysg enwadol megis y Gymdeithas Genedlaethol a'r Gymdeithas Brydeinig, ac unigolion elusengar a fyddai'n sefydlu ysgol, ac unigolion a geisiai ennill eu tamaid trwy gynnig addysg preifat am geiniog neu ddwy'r wythnos. Ysgolion felly oedd yr ysgol a noddwyd gan yr eglwys yng Nghlynnog Fawr tua diwedd y 17g ac Ysgol Eben Fardd, eto yng Nghlynnog.

Yr Adroddiadau

Darlun cymysg o ddarpariaeth fratiog addysg tua 1847 oedd y mwyaf y gellid ei ddisgwyl ar y gorau gan adroddiad y llyfrau gleision. Yn dilyn, ceir nodyn am y pum plwyf yn Uwchgwyrfai yn ôl yr hyn a nodwyd yn yr adroddiad.

Clynnog Fawr

Nodir yn y llyfrau gleision nad oedd ysgol yng Nghlynnog ym 1846. Roedd ysgol gynt yn cael ei chynnal yng Nghapel Beuno ond bod honno wedi dod i ben. Nodir ymhellach nad oedd ysgol yn yr un pentref am bellter o 16 milltir o Landwrog i Bwllheli.

Llanaelhaearn

Nodir dan bennawd Llanaelhaearn nad oes yr un ysgol o fewn y plwyf na'r plwyfi cyfagos.

Llandwrog

Yn achos Llandwrog nodir fod dwy ysgol o fewn ffiniau'r plwyf, y ddwy dan nawdd yr eglwys, sef "Llandwrog Church School" a'r "Mountain School" yng nghylch Mynydd Cilgwyn.

Yn Ysgol Llandwrog, roedd 45 ar y gofrestr, ond dim ond 28 oedd yn bresennol ar ddiwrnod ymweliad y comisiynydd ar 1 Rhagfyr 1846. Y pynciau a ddysgid oedd y Beibl, ysgrifennu, darllen a mathemateg. Roedd yr athro yn gyn-gariwr heb unrhyw hyfforddiant, roedd yr ysgoldy'n fudr iawn, a'r toiledau allanol mewn stâd "atrocious and demoralising".

Yn y "Mountain School" roedd pethau, yn ôl yr arolygydd, fawr gwell. Yr ysgolfeistr oedd Joshua Williams, dyn na chafodd fawr o gyfle am addysg, eto yn ôl yr arolygydd; roedd yno ysgolfeistres ifanc 18 oed hefyd, a 4 monitor. 78 oedd nifer swyddogol y disgyblion ond dim ond 48 oedd yno. Roedd hanner y rhain yn rhy dlawd i dalu dim at eu haddysg; dywedwyd hefyd fod tua 250 o blant bach yn byw o fewn milltir i'r ysgol nad oedd yn cael unrhyw addysg o gwbl. Dysgid yr un pynciau ag yn Ysgol Llandwrog, a gramadeg a daearyddiaeth hefyd i'r bechgyn yn unig. Yr unig raen yno oedd llwyddiant cymharol mathemateg.

Llanllyfni

Nodwyd nad oedd arian ar gael i sefydlu ysgol ar gyfer plant y tlodion. Cynhelid ysgol breifat yn y plwyf, gan ddefnyddio hen gapel y Bedyddwyr Sandemanaidd yn y pentref. Cafodd yr ysgolfeistr gyflog o £5 y flwyddyn gan ficer y plwyf, ac wwedyn codid ceiniog yr wythnos ar y disgyblion oedd i gyd yn blant i deuluoedd tlawd. Roedd 17 o enethod a 31 bachgen ar ygofrestr, ond pan ymwelodd John James, y comisiynydd cynorthwyol yr ysgol ar 3 Rhagfyr, dim ond 7 plentyn oedd yno oherwydd bod y frech goch yn rhemp yn y gymdogaeth ar y pryd.

Roedd yr athro wedi treulio chwe wythnos yng Nghaernarfon yn derbyn hyfforddiant fel athro, ac roedd yn dysgu'r Beibl, darllen yn y ddwy iaith, ysgrifennu, mathemateg a gramadeg y ddwy iaith. Prif feirniadaeth John James oedd cyflwr yr adeilad a'r dodrefn, a'r ffaith nad oedd lle tân yn y lle. Nid oedd toiledau ar gael i'r plant.

Llanwnda

Nid oedd ysgol o fewn ffiniau plwyf Llanwnda, er mae'r adroddiad yn nodi bod ysgol genedlaethol (sef ysgol eglwys) wedi bod yno ar un adeg ond ei bod wedi dod i ben.

Ysgolion Sul

Sylwodd y comisiynwyr fod llawer o addysgu'n mynd rhagddo trwy gyfrwng yr ysgolion Sul. Nodai'r adroddiad, ymysg pethau eraill, enw'r capel, yr enwad, nifer y disgyblion o dan, a dros, 15 oed, pynciau a ddysgir ac ym mha iaith y cynhelir yr addysg.

Clynnog Fawr

Llanaelhaearn

Roedd ysgolion Sul yn cael eu cynnal yn y capeli canlynol:

Llandwrog

nifer o ddisgyblion dan 15; a thros 15 heb ei gofnodi

Llanllyfni

Llanwnda

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau