Llanaelhaearn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
==Ffiniau a thirwedd== | ==Ffiniau a thirwedd== | ||
Mae plwyf Llanaelhaearn yn ffinio ar blwyf [[Clynnog Fawr]] i'r gogledd; plwyfi Pistyll a Charnguwch yng nghwmwd Dinllaen; a phlwyf Llangybi yng nghwmwd Eifionydd i'r de, ynghyd ag un gornel fach lle mae'n ffinio ar blwyf Dolbenmaen. Tair brif lôn sy'n arwain o'r plwyf, sef y lôn i Gaernarfon, sydd yn croesi ffin y plwyf ger Bryn-yr-eryr; y lôn i Nefyn, sy'n croesi'r ffin ger | Mae plwyf Llanaelhaearn yn ffinio ar blwyf [[Clynnog Fawr]] i'r gogledd; plwyfi Pistyll a Charnguwch yng nghwmwd Dinllaen; a phlwyf Llangybi yng nghwmwd Eifionydd i'r de, ynghyd ag un gornel fach lle mae'n ffinio ar blwyf Dolbenmaen. Tair brif lôn sy'n arwain o'r plwyf, sef y lôn i Gaernarfon, sydd yn croesi ffin y plwyf ger Bryn-yr-eryr; y lôn i Nefyn, sy'n croesi'r ffin ger Bwlch Siwncwl; a'r lôn i Bwllheli, sydd yn gadael plwyf Llanaelhaearn wrth groesi [[Pont-y-gydros]]. | ||
Ar wahân i rimyn o iseldir rhwng y môr a mynyddoedd Gurn Ddu, Moel Penllechog a'r Eifl; ac ardal [[Cwm Coryn]] ar lethrau deheuol y mynyddoedd hynny lle ceir ffermydd a pheth rhostir a chors, mynydd-dir caregog ac anial yw llawer o'r plwyf. Mae planhigfeydd o goed bytholwyrdd ger [[Elernion]], ac yn arbennig yn ne'r plwyf, lle mae Ystad Glasfyn yn tyfu llawer o goed i gyflenwi ei busnes pyst a giatiau. | Ar wahân i rimyn o iseldir rhwng y môr a mynyddoedd Gurn Ddu, Moel Penllechog a'r Eifl; ac ardal [[Cwm Coryn]] ar lethrau deheuol y mynyddoedd hynny lle ceir ffermydd a pheth rhostir a chors, mynydd-dir caregog ac anial yw llawer o'r plwyf. Mae planhigfeydd o goed bytholwyrdd ger [[Elernion]], ac yn arbennig yn ne'r plwyf, lle mae Ystad Glasfyn yn tyfu llawer o goed i gyflenwi ei busnes pyst a giatiau. |
Fersiwn yn ôl 13:19, 8 Gorffennaf 2019
Llanaelhaearn yw'r plwyf mwyaf deheuol yn Uwchgwyrfai. Mae'n cynnwys dau bentref, sef Llanaelhaearn a Threfor, ac mae Trefor ei hun yn greadigaeth y 19g pan dyfodd y chwarel yno. Ffermydd gwasgaredig ac ambell i dŷ moel yw gweddill anheddau'r plwyf.
Ffiniau a thirwedd
Mae plwyf Llanaelhaearn yn ffinio ar blwyf Clynnog Fawr i'r gogledd; plwyfi Pistyll a Charnguwch yng nghwmwd Dinllaen; a phlwyf Llangybi yng nghwmwd Eifionydd i'r de, ynghyd ag un gornel fach lle mae'n ffinio ar blwyf Dolbenmaen. Tair brif lôn sy'n arwain o'r plwyf, sef y lôn i Gaernarfon, sydd yn croesi ffin y plwyf ger Bryn-yr-eryr; y lôn i Nefyn, sy'n croesi'r ffin ger Bwlch Siwncwl; a'r lôn i Bwllheli, sydd yn gadael plwyf Llanaelhaearn wrth groesi Pont-y-gydros.
Ar wahân i rimyn o iseldir rhwng y môr a mynyddoedd Gurn Ddu, Moel Penllechog a'r Eifl; ac ardal Cwm Coryn ar lethrau deheuol y mynyddoedd hynny lle ceir ffermydd a pheth rhostir a chors, mynydd-dir caregog ac anial yw llawer o'r plwyf. Mae planhigfeydd o goed bytholwyrdd ger Elernion, ac yn arbennig yn ne'r plwyf, lle mae Ystad Glasfyn yn tyfu llawer o goed i gyflenwi ei busnes pyst a giatiau.
Yr oedd y plwyf yn rhan o Undeb Gwarcheidwaid Pwllheli at ddibenion Deddf y Tlodion o 1837 ymlaen.
Yr eglwys a'i sant
Eglwys hynafol y plwyf yw Eglwys Sant Aelhaearn a aned oddeutu'r flwyddyn 600 O.C. Mae'r waliau'n dyddio'n ôl i'r 12g, er i'r adeilad gael ei hehangu a'i hail-doi mor ddiweddar â 1892.
Credir mai sylfaenydd yr eglwys hon oedd Sant Aelhaearn, a hanai o Langadfan, Sir Drefaldwyn. Mae eglwysi Cegidfa (Sir Drefaaldwyn) a chapel ger Gwyddelwern (Sir Feirionnydd) hefyd wedi eu cysgegru yn ei enw.
Tai pwysig ac enwogion
Nid oes plasty mawr yn y plwyf, ond ceid nifer o deuluoedd o fân fonheddwyr yn preswylio yno. Elernion, plasty a fu yn eiddo i aelodau o deulu Glynllifon ar un adeg, yw'r pwysicaf o'r rhain. Mae plasty pwysig Glasfryn ychydig i'r de o ffin y plwyf, ym mhlwyf Llangybi.
Ymysg pobl nodedig y plwyf gellir enwi:
- Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon pregethwr ac arlunydd.
- Alice Gray Jones (Ceridwen Peris) (1852-1943, awdures ac ymgyrchydd dros hawliau merched.
- Syr David Hughes Parry (1893–1973), bargyfriethiwr, Athro'r Gyfraith ac Is-ganghellor Prifysgol
Llundain.
- Robert Lambert Gapper cerflunydd
- Alun Jones, llenor.
- Geraint Jones, llenor, ymgyrchydd, a bandfeistr.
- Y Dr Carl Iwan Clowes, meddyg lleol a sylfaenydd mentrau pwysig yn y gymdogaeth.
Y pentref
Mae pentref Llanaelhaern yn gorwedd o amgylch yr eglwys, rhwng y ffyrdd sydd yn arwain at Bwllheli ac at Nefyn. Bu siop, tafarn Yr Eifl a swyddfa bost yma tan yn ddiweddar. Erbyn hyn dim ond modurdy a'r ysgol sydd yn agored. Mae rhai cyfleusterau eraill ym mhentref Trefor o fewn ffiniau'r plwyf.
Nodweddion eraill y plwyf
Heb os, bryngaer sylweddol ac arwyddocaol Tre'r Ceiri yw prif nodwedd y plwyf.
Hanes diweddar
Yma ceir adeilad Antur Aelhaearn,a sefydlwyd i ddod agwaith i'r ardal.
Cyfeiriadau
Wicipedia: erthygl ar bentref Trefor. Cyrchwyd 05.01.2018