Dolydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
Gerllaw Giât Dolydd, tollborth ar y [[Ffyrdd Tyrpeg|ffordd dyrpeg]] (y chwalwyd ei holion olaf wrth godi tŷ newydd a elwir Y Bwthyn) oedd [[Efail Dolydd]], gefail gynhyrchiol iawn hyd yr ugeinfed ganrif.Maer'n bosibl mai yn yr efail hon yn cynhelid ysgol am gyfnod byr tua 1810 gan [[Dafydd Ddu Eryri]].<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'' (Llundain, 1953), t.883</ref> Olynydd y busnes gwledig hwnnw yw'r modurdy presennol ger y bont, sydd bellach hefyd yn rhedeg swyddfa bost ar gyfer y Groeslon a'r cylch. | Gerllaw Giât Dolydd, tollborth ar y [[Ffyrdd Tyrpeg|ffordd dyrpeg]] (y chwalwyd ei holion olaf wrth godi tŷ newydd a elwir Y Bwthyn) oedd [[Efail Dolydd]], gefail gynhyrchiol iawn hyd yr ugeinfed ganrif.Maer'n bosibl mai yn yr efail hon yn cynhelid ysgol am gyfnod byr tua 1810 gan [[Dafydd Ddu Eryri]].<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'' (Llundain, 1953), t.883</ref> Olynydd y busnes gwledig hwnnw yw'r modurdy presennol ger y bont, sydd bellach hefyd yn rhedeg swyddfa bost ar gyfer y Groeslon a'r cylch. | ||
Am gyfnod byr cyn diwedd y 19g bu band yn y dreflan, sef [[Band Dolydd]]. | |||
Nid nepell o'r Dolydd fe geir (mewn ceunant y tu ôl i fferm Cefn Hendre) safle [[Melin Cil Tyfu]], a fu'n eiddo i deulu Wynniaid Gwedir yn ystod y 16g. Ar hyd y llwybr cyhoeddus sy'n arwain o'r bont i'r gorllewin i gyfeiriad lôn Pwllheli a [[Hen Gastell]] ceir olion a all fod yn hen wal gefn plasty'r Hendre, cartref y Cadben [[Edmund Glynn]], un o feibion plas [[Glynllifon]], ynad heddwch ac arweinydd gweinyddiad sirol yn ystod teyrnasiad Cromwell. | Nid nepell o'r Dolydd fe geir (mewn ceunant y tu ôl i fferm Cefn Hendre) safle [[Melin Cil Tyfu]], a fu'n eiddo i deulu Wynniaid Gwedir yn ystod y 16g. Ar hyd y llwybr cyhoeddus sy'n arwain o'r bont i'r gorllewin i gyfeiriad lôn Pwllheli a [[Hen Gastell]] ceir olion a all fod yn hen wal gefn plasty'r Hendre, cartref y Cadben [[Edmund Glynn]], un o feibion plas [[Glynllifon]], ynad heddwch ac arweinydd gweinyddiad sirol yn ystod teyrnasiad Cromwell. |
Fersiwn yn ôl 16:21, 27 Mehefin 2019
Treflan fechan ar lan Afonydd Carrog a Gwyled sy'n cwrdd dan Bont Dolydd, ac sydd ar yr hen ffordd dyrpeg (A487) rhwng y Bontnewydd a'r Groeslon yw'r Dolydd. Saif ar y ffin rhwng plwyfi Llanwnda a Llandwrog. Cafwyd yr enw o fferm Dolydd Byrion oedd i'r dwyrain o'r ffordd, ac arddelid yr enw hwnnw'n llawn am beth amser fel enw'r dreflan. Dichon, fodd bynnag, mai Dolydd Irion oedd yr enw gwreiddiol; ceir yr enw ar fap John Evans o Ogledd Cymru (1804). Fe saif y Dolydd ar lawr dyffryn bas yr Afon Carrog, ac mae'r tir yn tueddu i aros yn iraidd pan fydd llymder y gaeaf wedi llosgi tyfiant y caeau oddi amgylch.
Mae'r tŷ mwyaf yn y Dolydd, sef Plas Dolydd, wedi arfer bod yn dafarn ac yno y cyfarfu egin gynulleidfa achos Capel Bryn'rodyn (MC), cyn i'r capel gael ei godi tua chwarter milltir i'r de. Roedd Evan Jones, Plas Dolydd yn adeiladydd a chontractwr pwysig yng nghanol y 19g.
Gerllaw Giât Dolydd, tollborth ar y ffordd dyrpeg (y chwalwyd ei holion olaf wrth godi tŷ newydd a elwir Y Bwthyn) oedd Efail Dolydd, gefail gynhyrchiol iawn hyd yr ugeinfed ganrif.Maer'n bosibl mai yn yr efail hon yn cynhelid ysgol am gyfnod byr tua 1810 gan Dafydd Ddu Eryri.[1] Olynydd y busnes gwledig hwnnw yw'r modurdy presennol ger y bont, sydd bellach hefyd yn rhedeg swyddfa bost ar gyfer y Groeslon a'r cylch.
Am gyfnod byr cyn diwedd y 19g bu band yn y dreflan, sef Band Dolydd.
Nid nepell o'r Dolydd fe geir (mewn ceunant y tu ôl i fferm Cefn Hendre) safle Melin Cil Tyfu, a fu'n eiddo i deulu Wynniaid Gwedir yn ystod y 16g. Ar hyd y llwybr cyhoeddus sy'n arwain o'r bont i'r gorllewin i gyfeiriad lôn Pwllheli a Hen Gastell ceir olion a all fod yn hen wal gefn plasty'r Hendre, cartref y Cadben Edmund Glynn, un o feibion plas Glynllifon, ynad heddwch ac arweinydd gweinyddiad sirol yn ystod teyrnasiad Cromwell.
Y Goeden Eirin, tŷ a addaswyd o hen adeiladau fferm yr Hendre, oedd cartref olaf y llenor a'r beirniad yr Athro John Rowlands.
Cyfeiriadau
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig (Llundain, 1953), t.883