Cae'r Gors: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Mae'r tŷ yn cael ei ddangos ar fap degwm 1839 a barn y Comisiwn Brenhinol yw ei fod yn dyddio o'r 19g. cynnar. Mae'n nodweddiadol o fythynnod y cyfnod hwnnw yn yr ardal: sef dwy ystafell a chroglofft.<ref>Gwefan Coflein (cyrchwyd 15.4.2019) [https://www.coflein.gov.uk/en/site/26171/details/caer-gorsearly-home-of-dr-kate-roberts]</ref> | Mae'r tŷ yn cael ei ddangos ar fap degwm 1839 a barn y Comisiwn Brenhinol yw ei fod yn dyddio o'r 19g. cynnar. Mae'n nodweddiadol o fythynnod y cyfnod hwnnw yn yr ardal: sef dwy ystafell a chroglofft.<ref>Gwefan Coflein (cyrchwyd 15.4.2019) [https://www.coflein.gov.uk/en/site/26171/details/caer-gorsearly-home-of-dr-kate-roberts]</ref> | ||
Erbyn yr 1960au, roedd Cae'r Gors yn wag a'r tŷ yn mynd â'i ben iddo. Prynodd Dr Kate Roberts y tŷ ym 1965 a'i gyflwyno i'r genedl er mwyn creu yr hyn a ddisgrifiwyd fel ''adfail rheoledig'', gan nad oedd digopn o arian i'w hadfer yn iawn. Tynnwyd y to, tacluswyd y tu mewn, a gosod sawl plac llechen gyda dyfyniadau o'i gweithiau ar y muriau. Ryw deugain mlynedd yn ddiweddarach, ym 2006-7, | Erbyn yr 1960au, roedd Cae'r Gors yn wag a'r tŷ yn mynd â'i ben iddo. Prynodd Dr Kate Roberts y tŷ ym 1965 a'i gyflwyno i'r genedl er mwyn creu yr hyn a ddisgrifiwyd fel ''adfail rheoledig'', gan nad oedd digopn o arian i'w hadfer yn iawn. Tynnwyd y to, tacluswyd y tu mewn, a gosod sawl plac llechen gyda dyfyniadau o'i gweithiau ar y muriau. Ryw deugain mlynedd yn ddiweddarach, ym 2006-7, adferwyd y tŷ fel bwthyn o oes ieuenctid Kate Roberts. Roedd ''Cyfeillion Cae'r Gors'' wedi ei ffurfio ym 1997 i geisio adfer y tŷ. Roedd nifer o Gymry amlwg yn aelodau o'r Cyfeillion, gyda'r actor enwog o Ros-lan a oedd wedi ymgartrefu yn y Groeslon, [[Guto Roberts]] yn ysgrifennydd cyntaf; trwy sicrhau grantiau, fe wnaed y gwaith, gan godi ystafell newydd gydag adnoddau arlwyo a chyfarfod hefyd. Am rai blynyddoedd agorwyd y tŷ i ymwelwyr yn ystod yr haf ond gyda'r nifer yn edwino, caewyd y drysau ym 2013 a maes o law fe'i drosglwyddwyd i ofal CADW, sydd yn agor yr adeilad ar gais grwpiau addysgol sydd am weld y lle, er i'r Cyfeillion ddal i barhau er mwyn rhoi cefnogaeth.<ref>Seiliwyd yr erthygl yn bennaf ar wybodaeth bersonol, Gwefan CADW (cyrchwyd 15.4.2019) [https://cadw.llyw.cymru/daysout/CaerGors/?lang=cy]</ref> | ||
Erbyn hyn, ynghyd â bwthyn sydd wedi symud i Amgueddfa Werin Cymru, [[Llain Fadyn]], dyma bron yr unig adeiladau sy'n tystio i arddull a dull dodrefnu tyddynod y chwarelwyr yn [[Uwchgwyrfai]] yn ystod y 19g a dechrau'r 20g. | Erbyn hyn, ynghyd â bwthyn sydd wedi symud i Amgueddfa Werin Cymru, [[Llain Fadyn]], dyma bron yr unig adeiladau sy'n tystio i arddull a dull dodrefnu tyddynod y chwarelwyr yn [[Uwchgwyrfai]] yn ystod y 19g a dechrau'r 20g. |
Fersiwn yn ôl 16:00, 15 Ebrill 2019
Mae Cae'r Gors ynhen dyddyn yn Rhosgadfan a fu'n gartref plentyndod i Dr. Kate Roberts. Saif ar y ffordd o ben Gallt Pen Gwrli i'r groesffordd ger hen gapel. Mae caeau Cae'r Gors erbyn hyn yn cael eu defnyddio fel meysydd Clwb Pêl-droed Mountain Rangers.
Mae'r tŷ yn cael ei ddangos ar fap degwm 1839 a barn y Comisiwn Brenhinol yw ei fod yn dyddio o'r 19g. cynnar. Mae'n nodweddiadol o fythynnod y cyfnod hwnnw yn yr ardal: sef dwy ystafell a chroglofft.[1]
Erbyn yr 1960au, roedd Cae'r Gors yn wag a'r tŷ yn mynd â'i ben iddo. Prynodd Dr Kate Roberts y tŷ ym 1965 a'i gyflwyno i'r genedl er mwyn creu yr hyn a ddisgrifiwyd fel adfail rheoledig, gan nad oedd digopn o arian i'w hadfer yn iawn. Tynnwyd y to, tacluswyd y tu mewn, a gosod sawl plac llechen gyda dyfyniadau o'i gweithiau ar y muriau. Ryw deugain mlynedd yn ddiweddarach, ym 2006-7, adferwyd y tŷ fel bwthyn o oes ieuenctid Kate Roberts. Roedd Cyfeillion Cae'r Gors wedi ei ffurfio ym 1997 i geisio adfer y tŷ. Roedd nifer o Gymry amlwg yn aelodau o'r Cyfeillion, gyda'r actor enwog o Ros-lan a oedd wedi ymgartrefu yn y Groeslon, Guto Roberts yn ysgrifennydd cyntaf; trwy sicrhau grantiau, fe wnaed y gwaith, gan godi ystafell newydd gydag adnoddau arlwyo a chyfarfod hefyd. Am rai blynyddoedd agorwyd y tŷ i ymwelwyr yn ystod yr haf ond gyda'r nifer yn edwino, caewyd y drysau ym 2013 a maes o law fe'i drosglwyddwyd i ofal CADW, sydd yn agor yr adeilad ar gais grwpiau addysgol sydd am weld y lle, er i'r Cyfeillion ddal i barhau er mwyn rhoi cefnogaeth.[2]
Erbyn hyn, ynghyd â bwthyn sydd wedi symud i Amgueddfa Werin Cymru, Llain Fadyn, dyma bron yr unig adeiladau sy'n tystio i arddull a dull dodrefnu tyddynod y chwarelwyr yn Uwchgwyrfai yn ystod y 19g a dechrau'r 20g.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma