Rhostryfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae [[Rhostryfan]] yn bentref chwarelyddol ym mhlwyf a chymuned [[Llanwnda]], yng nghwmwd [[Uwchgwyrfai]]. Erbyn hyn yr unig adnoddau cymunedol o bwys yw'r [[Ysgol Gynradd Rhostryfan|ysgol]] sydd hefyd yn cynnig cyfleusterau neuadd gymunedol; a chapel ([[Capel (MC), Rhostryfan]]). Bu gynt nifer o siopau, swyddfa bost a nifer o grefftwyr, [[capel yr Annibynwyr]] ac [[Eglwys Sant Mihangel, Rhostryfan|eglwys]] - a hyd yn oed [[Gorsaf reilffordd Rhostryfan|gorsaf reilffordd]]. | Mae [[Rhostryfan]] yn bentref chwarelyddol ym mhlwyf a chymuned [[Llanwnda]], yng nghwmwd [[Uwchgwyrfai]]. Erbyn hyn yr unig adnoddau cymunedol o bwys yw'r [[Ysgol Gynradd Rhostryfan|ysgol]] sydd hefyd yn cynnig cyfleusterau neuadd gymunedol; a chapel ([[Capel (MC), Rhostryfan]]). Bu gynt nifer o siopau, swyddfa bost a nifer o grefftwyr, [[capel yr Annibynwyr]] ac [[Eglwys Sant Mihangel, Rhostryfan|eglwys]] - a hyd yn oed [[Gorsaf reilffordd Rhostryfan|gorsaf reilffordd]]. | ||
Mae [[W. Gilbert Williams]] prifathro'r pentref a hanesydd lleol arloesol, yn cael ei gofio ar lechen ar ei hen gartref, Glan Carrog. Brawd iddo oedd yr awdur [[John Williams (J.W. Llundain)]]. A Rhostryfan oedd pentref genedigol [[Owen Wynne Jones (Glasynys)]], | Mae [[W. Gilbert Williams]] prifathro'r pentref a hanesydd lleol arloesol, yn cael ei gofio ar lechen ar ei hen gartref, Glan Carrog. Brawd iddo oedd yr awdur [[John Williams (J.W. Llundain)]]. A Rhostryfan oedd pentref genedigol [[Owen Wynne Jones (Glasynys)]], [[John Richard Williams (Tryfanwy)]] a [[J.J. Thomas, FGS]]. | ||
==Cyfarwyddiadur Rhostryfan, 1889-90<ref>''Sutton's Directory of North Wales, 1889-90''</ref>== | ==Cyfarwyddiadur Rhostryfan, 1889-90<ref>''Sutton's Directory of North Wales, 1889-90''</ref>== |
Fersiwn yn ôl 18:58, 4 Ionawr 2019
Mae Rhostryfan yn bentref chwarelyddol ym mhlwyf a chymuned Llanwnda, yng nghwmwd Uwchgwyrfai. Erbyn hyn yr unig adnoddau cymunedol o bwys yw'r ysgol sydd hefyd yn cynnig cyfleusterau neuadd gymunedol; a chapel (Capel (MC), Rhostryfan). Bu gynt nifer o siopau, swyddfa bost a nifer o grefftwyr, capel yr Annibynwyr ac eglwys - a hyd yn oed gorsaf reilffordd.
Mae W. Gilbert Williams prifathro'r pentref a hanesydd lleol arloesol, yn cael ei gofio ar lechen ar ei hen gartref, Glan Carrog. Brawd iddo oedd yr awdur John Williams (J.W. Llundain). A Rhostryfan oedd pentref genedigol Owen Wynne Jones (Glasynys), John Richard Williams (Tryfanwy) a J.J. Thomas, FGS.
Cyfarwyddiadur Rhostryfan, 1889-90[1]
Mae cyfarwyddiaduron masnach y 19g yn rhoi llawer o ffeirthiau am fasnach yn ein pentrefi a threfi, er i'r rhai cynnar dueddu i ganolbwyntio ar y trefi, gan beidio â rhestru ond y busnesau pwysicaf yn y wlad o'u cwmpas. Mae Cyfarwyddiadur Sutton am 1889-90, fodd bynnag, yn rhoi manylion fesul pentref neu blwyf. Y masnachwyr a restrir yn y llyfr hwnnw yw'r canlynol:
Owen Griffith, groser Thomas Griffith, melinydd a gwerthwr glo (er nad yw'n glir lle 'roedd y felin, gan nad oes yr un felin wedi ei dangos ar fap Ordnans 1888 yn y cyffiniau) R Jones Hughes, gwerthwr defnyddiau (draper), groser, teiliwr, gwerthwr nwyddau haearn, pobydd a deliwr mewn meddyginiaethau a werthir heb ragnodyn - hwn yn sicr oedd masnachwr pwysicaf y pentref, yn cynnal siop gyffredinol at bob angen Thomas Humphreys, saer maen David Jones, saer coed Griffith Jones, gwerthwr glo Richard Ratcliffe, saer maen John Roberts, teiliwr Robert O Roberts, saer coed John Thomas, saer coed Laura Thomas, groser Edward Williams, gwerthwr glo John Williams, llyfrwerthwr Richard Williams, cigydd W D Williams, crŷdd
Cyfeiriadau
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
- ↑ Sutton's Directory of North Wales, 1889-90