Ysgol Rhostryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Ysgol Gynradd Rhostryfan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ysgol addysg gynradd ym mhentref Rhostryfan yw Ysgol Gynradd Rhostryfan. Nid hon oedd yr ysgol gyntaf ar gyfer plant y pentref gan fod Capel Horeb (MC), Rhostryfan, mae'n ymddangos, wedi ceisio gwneud rhywfaint o ddarpariaeth ar gyfer y gymdogaeth cyn hynny. Cynhelid ysgol yn llofft tŷ capel Horeb i ddechrau, wedyn yn y capel ei hun ac wedyn, rhwng 1840 ac 1870, mewn adeilad a godwyd at y pwrpas.

Agorwyd ysgol Frytanaidd ddiwedd 1870 mewn adeilad pwrpasol newydd, ac mae'n agored hyd heddiw. Gelwid yr ysgol yn Rhostryfan British School (h.y. ysgol na noddwyd gan yr Eglwys Wladol ond gan gorff annibynnol) cyn cael ei throi'n Rhostryfan Board School yn ddiweddarach yn y 19g.[1] Am flynyddoedd lawer ar ddechrau'r 20g, y prifathro oedd yr hanesydd lleol W. Gilbert Williams, dyn a hanodd o'r pentref. Tua 1980, ymestynnwyd yr adeilad trwy godi neuadd newydd at ddefnydd yr ysgol a'r gymuned fel ei gilydd gan nad oedd neuadd bentref yn Rhostryfan cyn hynny.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Llyfrau Log Ysgol Gynradd Rhostryfan (Gwasanaeth Archifau Gwynedd) XES1/118 [1867-1934]