Chwarel y Braich: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Chwarel lechi ar lethrau [[Moel Tryfan]] oedd '''Chwarel y Braich''', ger y [[Fron]]. | Chwarel lechi ar lethrau [[Moel Tryfan]] oedd '''Chwarel y Braich''', ger y [[Fron]]. | ||
Agorwyd hi yn y ddeunawfed ganrif, ac yn 1827 arbrofwyd ag ynni gwynt yno er mwyn pwmpio yn chwarel yr [[Chwarel yr Hen Fraich|Hen Fraich]] (neu [[Braich-rhydd]]). Cafodd ei datblygu yn yr 1870au a defnyddiwyd stêm i weithio'r peiriannau ac i bwmpio ar yr incleins. Am gyfnod byr cyn 1876, [[Owen Griffith Owen (Alafon)]] y bardd oedd y prif glerc, cyn iddo fynd i'r weinidogaeth. Am rai blynyddoedd hyd tua 1882, roedd gan y chwarel hon gysylltiad tramffordd â phrif lein [[Tramffordd John Robinson]] er mwyn gyrru ei llechi i ffwrdd ar hyd [[Rheilffordd Nantlle]]. Wedi hynny, defnyddid [[Tramffordd y Fron]]. Roedd y chwarel ar ei hanterth yn 1882 pan gynhyrchwyd 2,600 tunnell yno, a chyflogwyd 124 o ddynion yno. | Agorwyd hi yn y ddeunawfed ganrif, ac yn 1827 arbrofwyd ag ynni gwynt yno er mwyn pwmpio yn chwarel yr [[Chwarel yr Hen Fraich|Hen Fraich]] (neu [[Braich-rhydd|Chwarel Braich-rhydd]]). Cafodd ei datblygu yn yr 1870au a defnyddiwyd stêm i weithio'r peiriannau ac i bwmpio ar yr incleins. Am gyfnod byr cyn 1876, [[Owen Griffith Owen (Alafon)]] y bardd oedd y prif glerc, cyn iddo fynd i'r weinidogaeth. Am rai blynyddoedd hyd tua 1882, roedd gan y chwarel hon gysylltiad tramffordd â phrif lein [[Tramffordd John Robinson]] er mwyn gyrru ei llechi i ffwrdd ar hyd [[Rheilffordd Nantlle]]. Wedi hynny, defnyddid [[Tramffordd y Fron]]. Roedd y chwarel ar ei hanterth yn 1882 pan gynhyrchwyd 2,600 tunnell yno, a chyflogwyd 124 o ddynion yno. | ||
Roedd wedi cau erbyn 1911, er roedd gwaith ysbeidiol yno hyd y 1930au. | Roedd wedi cau erbyn 1911, er roedd gwaith ysbeidiol yno hyd y 1930au. |
Fersiwn yn ôl 13:52, 7 Tachwedd 2018
Chwarel lechi ar lethrau Moel Tryfan oedd Chwarel y Braich, ger y Fron.
Agorwyd hi yn y ddeunawfed ganrif, ac yn 1827 arbrofwyd ag ynni gwynt yno er mwyn pwmpio yn chwarel yr Hen Fraich (neu Chwarel Braich-rhydd). Cafodd ei datblygu yn yr 1870au a defnyddiwyd stêm i weithio'r peiriannau ac i bwmpio ar yr incleins. Am gyfnod byr cyn 1876, Owen Griffith Owen (Alafon) y bardd oedd y prif glerc, cyn iddo fynd i'r weinidogaeth. Am rai blynyddoedd hyd tua 1882, roedd gan y chwarel hon gysylltiad tramffordd â phrif lein Tramffordd John Robinson er mwyn gyrru ei llechi i ffwrdd ar hyd Rheilffordd Nantlle. Wedi hynny, defnyddid Tramffordd y Fron. Roedd y chwarel ar ei hanterth yn 1882 pan gynhyrchwyd 2,600 tunnell yno, a chyflogwyd 124 o ddynion yno.
Roedd wedi cau erbyn 1911, er roedd gwaith ysbeidiol yno hyd y 1930au.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Ffynhonnell
Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)