Hafan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Cyfarwyddiadau tud. newydd |
||
Llinell 28: | Llinell 28: | ||
Mae croeso i unrhyw un gyfrannu ychwanegiadau/newidiadau trwy greu cyfrif (os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes - nid oes angen unrhyw fanylion personol, mae'n cymryd tua 20 eiliad ac mae am ddim wrth gwrs!). Wedyn cliciwch ar y tab 'Golygu'. Mae modd golygu heb greu cyfrif, ond wedyn bydd eich cyfeiriad rhyngrwyd (sef eich IP) yn hysbys i bawb. | Mae croeso i unrhyw un gyfrannu ychwanegiadau/newidiadau trwy greu cyfrif (os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes - nid oes angen unrhyw fanylion personol, mae'n cymryd tua 20 eiliad ac mae am ddim wrth gwrs!). Wedyn cliciwch ar y tab 'Golygu'. Mae modd golygu heb greu cyfrif, ond wedyn bydd eich cyfeiriad rhyngrwyd (sef eich IP) yn hysbys i bawb. | ||
Os ydych wedi mewngofnodi gan ddefnyddio enw eich cyfrif, cewch hefyd greu erthygl newydd neu eginyn (sef cychwyniad ar gyfer erthygl newydd) ar unrhyw bwnc na sydd yma eisoes, ar yr amod ei fod ar bwnc yn gysylltiedig ag Uwchgwyrfai (plwyfi Clynnog-fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda). Angen syniadau? Gweler: [[Uwchgwyrfai:Erthyglau sydd eu hangen|Erthyglau sydd eu hangen]] | Os ydych wedi mewngofnodi gan ddefnyddio enw eich cyfrif, cewch hefyd greu erthygl newydd neu eginyn (sef cychwyniad ar gyfer erthygl newydd) ar unrhyw bwnc na sydd yma eisoes, ar yr amod ei fod ar bwnc yn gysylltiedig ag Uwchgwyrfai (plwyfi Clynnog-fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda). Mae'n hawdd creu erthygl newydd: teipio teitl yr erthygl (sef enw gwrthrych yr erthygl) yn y bocs Chwilio ar dop y dudalen hafan hon. Os cewch sgript coch, cliciwch arno ac mi fyddwch yn mynd at dudalen newydd y gallwch ddechrau ei llenwi - bydd y teitl yno eisoes yn disgwyl amdanoch! Angen syniadau? Gweler: [[Uwchgwyrfai:Erthyglau sydd eu hangen|Erthyglau sydd eu hangen]] , dewis pwmc ac wedyn ei roi yn y bocs Chwilio a dilyn y ddolen. | ||
Cymraeg yw unig iaith '''Cof y Cwmwd'''. OND - peidiwch â phryderu am safon eich Cymraeg; bydd ein gweinyddwyr yn hapus i newid unrhyw gamgymeriadau a bydd neb yn gwybod pwy ydych chi os dewiswch ffugenw fel eich enw mewngofnodi. Un o'n hamcanion yw annog defnydd o'r Gymraeg wrth i ni drafod ein hanes. | Cymraeg yw unig iaith '''Cof y Cwmwd'''. OND - peidiwch â phryderu am safon eich Cymraeg; bydd ein gweinyddwyr yn hapus i newid unrhyw gamgymeriadau a bydd neb yn gwybod pwy ydych chi os dewiswch ffugenw fel eich enw mewngofnodi. Un o'n hamcanion yw annog defnydd o'r Gymraeg wrth i ni drafod ein hanes. |
Fersiwn yn ôl 18:37, 19 Hydref 2017
Cyflwyniad
Croeso i Cof y Cwmwd, sef casgliad o erthyglau ar hanes a diwylliant cwmwd Uwchgwyrfai yng Ngwynedd.
Mae Cof y Cwmwd yn wici, sef casgliad o erthyglau y mae croeso i unrhyw un eu newid neu ychwanegu atynt, os ydynt yn gyfarwydd â'r pwnc. Mae 'wici', gyda llaw, yn air o Ynysoedd Hawaii sy'n golygu 'sydyn', a'r syniad y tu ôl i'r gair yw bod rhywun yn gallu cyfeirio at bethau mewn dim o dro. Gellir cyfrannu ffeithiau newydd hefyd, a hynny heb fawr o drafferth yn y fan a'r lle. Mae'n debyg y byddwch wedi defnyddio Wicipedia ar y We rywbryd neu'i gilydd, ac efallai eich bod wedi 'golygu' (sef newid neu gyfrannu at) rai o'r erthyglau yno. Mae wici Cof y Cwmwd yn gweithio yn yr un ffordd yn union â Wicipedia, gan ddefnyddio'r un meddalwedd.
Ein bwriad yw gweld Cof y Cwmwd yn datblygu fel prif ffynhonell gwybodaeth am hanes a thraddodiadau ein cwr bach ni o Gymru. Erfyniwn arnoch i chwarae eich rhan er mwyn cyrraedd y nod hwnnw. Mae Cof y Cwmwd yn ymdrin ag ardal yr hen gwmwd, gan gadw at yr hen ffiniau canoloesol - sef plwyfi Clynnog-fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda. Mae hyn yn cynnwys Dyffryn Nantlle i gyd bron hyd at Ryd-ddu ac wedyn ar hyd yr afon Gwyrfai trwy'r Bontnewydd ac at y môr.
Diweddariadau
Erthyglau newydd
- Cyfrif Deon Eglwys Gadeiriol Bangor, 1398
- Taxatio Lincoln 1291
- Asesiad Deoniaeth Arfon o'r Degwm
- Stent Tiroedd Esgobaeth Bangor ?1335
- Bae Foryd
Gwefan newydd
Sefydlwyd Cof y Cwmwd ym mis Hydref 2017, fel un o weithgareddau elusennol Canolfan Hanes Uwchgwyrfai gyda grant hael gan Gronfa Loteri'r Dreftadaeth. Ein nod yw cyflwyno gwir hanes ein cenedl i bobl Uwchgwyrfai a Chymru gyfan, a hynny gyda help unrhyw un sydd am ymuno yn y gwaith. Braf hefyd fydd cael trafod ein hanes yn ein hiaith ni ein hunain a'n hiaith ni'n unig!
Fe fydd rhagor o erthyglau am hanes Uwchgwyrfai ar y wefan hon yn fuan. Yn y cyfamser ewch i'r categori Trafnidiaeth i weld enghreifftiau o erthyglau a chategorïau. Bydd rhagor i'w gweld yn fuan.
Cyfrannwch
Safle yw hon lle gall unrhyw un gyfrannu o'i wybodaeth bersonol neu yn sgîl ei ymchwil, ar yr amod nad yw'n torri hawlfraint eraill ac yn derbyn yr ychydig gyfyngiadau arferol angenrheidiol. Yn fwy na hynny, rydym yn wirioneddol angen eich cyfraniadau er mwyn gwneud Cof y Cwmwd yn hollol gynhwysfawr o holl agweddau ar hanes Cwmwd Uwchgwyrfai. Peidiwch â meddwl bod eraill yn gwybod mwy na chi am eich ardal chi; mae gan bawb ffeithiau diddorol os nad unigryw i'w rhannu.
Mae croeso i unrhyw un gyfrannu ychwanegiadau/newidiadau trwy greu cyfrif (os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes - nid oes angen unrhyw fanylion personol, mae'n cymryd tua 20 eiliad ac mae am ddim wrth gwrs!). Wedyn cliciwch ar y tab 'Golygu'. Mae modd golygu heb greu cyfrif, ond wedyn bydd eich cyfeiriad rhyngrwyd (sef eich IP) yn hysbys i bawb.
Os ydych wedi mewngofnodi gan ddefnyddio enw eich cyfrif, cewch hefyd greu erthygl newydd neu eginyn (sef cychwyniad ar gyfer erthygl newydd) ar unrhyw bwnc na sydd yma eisoes, ar yr amod ei fod ar bwnc yn gysylltiedig ag Uwchgwyrfai (plwyfi Clynnog-fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda). Mae'n hawdd creu erthygl newydd: teipio teitl yr erthygl (sef enw gwrthrych yr erthygl) yn y bocs Chwilio ar dop y dudalen hafan hon. Os cewch sgript coch, cliciwch arno ac mi fyddwch yn mynd at dudalen newydd y gallwch ddechrau ei llenwi - bydd y teitl yno eisoes yn disgwyl amdanoch! Angen syniadau? Gweler: Erthyglau sydd eu hangen , dewis pwmc ac wedyn ei roi yn y bocs Chwilio a dilyn y ddolen.
Cymraeg yw unig iaith Cof y Cwmwd. OND - peidiwch â phryderu am safon eich Cymraeg; bydd ein gweinyddwyr yn hapus i newid unrhyw gamgymeriadau a bydd neb yn gwybod pwy ydych chi os dewiswch ffugenw fel eich enw mewngofnodi. Un o'n hamcanion yw annog defnydd o'r Gymraeg wrth i ni drafod ein hanes.
Ewch i Cymorth am ragor o fanylion ar sut i gyfrannu erthygl neu newid testun, mewnosod cyfeiriadau at ffynonellau ac ati. Ond dyma rai canllawiau i'w cadw mewn cof:
Canllawiau cyfrannu
Mae'r rheolau'n syml iawn:
1.Cofiwch sicrhau fod gennych caniatád perchennog unrhyw hawliiau mewn deunydd fel lluniau neu gerddi cyn ei gynnwys
2.Dylai pob erthygl fod yn berthnasol i hanes a diwylliant Uwchgwyrfai a'i bobl
3.Mae croeso i chi newid gwallau teipio, camdreiglo ac ati, ond...
4.Gwyliwch rhag dileu dim byd nes i chi fod yn sicr y dylid ei ddileu (camgymeriadau, ffeithiau yr ydych yn siwr eu bod yn anghywir, ac ati)
4.Rhaid peidio â chynnwys manylion personol unigolion sy'n dal yn fyw (cyfeiriad, rhif ffôn, ac ati) heb eu caniatád
6.Nodwch ffynhonell eich gwybodaeth (llyfr, erthygl, ac ati). Edrychwch yn Cymorth i weld sut mae gwneud hyn
7.Nodwch yn y blwch ar waelod y dudalen beth yw natur unrhyw gyfraniad neu newid
8.Cofiwch fod yn gwrtais bob amser. DIM sylwadau personol na feirniadaeth o gyfrannwyr eraill os gwelwch yn dda - na dim iaith anweddus ychwaith!
Y print mân
Pwrpas Cof y Cwmwd, fel pob wici, yw hwyluso cyfnewid gwybodaeth yn rhad ac yn rhwydd. Fodd bynnag rhaid gwarchod eich deunydd rhag i bobl ei ddefnyddio'n annheg neu beidio â’i gydnabod. I’r perwyl hwn, gweithredir ynunol â'r amodau isod.
Mae cyfraniadau, golygiadau ac ychwanegiadau ar gyfer wici Cof y Cwmwd yn cael eu derbyn gennych ar y ddealltwriaeth bod pob cyfrannwr yn trosglwyddo hawliau Comin Creu yn eu deunydd i Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai ar sail ‘rhannu’n gyfatebol’, sef CC BY SA4. Bydd y deunydd yn cael ei gyhoeddi ar wici Cof y Cwmwd dan drwydded anfasnachol a mwy cyfyng, sef CC BY NC, am gyfnod all barhau hyd at 30 Mehefin 2023. Mae hyn yn golygu y gall Canolfan Hanes Uwchgwyrfai ganiatáu defnydd priodol gan drydydd parti yn unol ag amodau’r drwydded, ond ni bydd modd i’r cyhoedd ailddefnyddio nac atgynhyrchu’r deunydd at ddibenion masnachol o unrhyw fath heb ganiatád tan ar ôl y dyddiad hwnnw. Wedi hynny gallai’r drwydded gael ei hymestyn i drwydded CC BY SA4, ond hyd yn oed wedyn, bydd rhaid i unrhyw ddefnyddiwr gydnabod ffynhonell y deunydd. Am fanylion llawn y trwyddedau y sonnir amdanynt, ewch at https://creativecommons.org/share-your-work/licensing-types-examples/.
Ni ddylid cyfrannu unrhyw ddeunydd at wici Cof y Cwmwd os nad chi a’i greodd heb sicrhau bod gennych yr hawl i’w wneud hynny (e.e. gan y sawl a dynnodd lun neu a ysgrifennodd rywbeth).
Ni ddylech gyfrannu unrhyw beth at wici Cof y Cwmwd oni fyddech yn hollol fodlon i’r deunydd gael ei ailddefnyddio neu ei atgynhyrchu (gyda’r gydnabyddiaeth briodol) mewn mannau eraill.
Er bydd gweinyddwyr y Cof yn ceisio osgoi unrhyw dorhawlfraint, anwireddau, enllib a/neu anlladrwydd, ni all Canolfan Hanes Uwchgwyrfai dderbyn cyfrifoldeb am yr hyn a ysgrifennir gan y sawl sy'n cyfrannu. Eich cyfrifoldeb chi felly yw gofalu fod pob dim a ychwanegir gennych yn gywir ac yn dderbyniol hyd y gwyddys.
Canolfan Hanes Uwchgwyrfai
Dyma'r ganolfan yng nghwmwd Uwchgwyrfai sy’n costrelu dyheadau a hanes ardal sy’n enwog am ei chyfraniad addysgol, diwylliannol a chrefyddol. Dyma’n wir bwerdy bro. Lleolir y Ganolfan yn hen ysgoldy Eben Fardd yng Nghlynnog Fawr yn Arfon.
Elusen gofrestredig yw Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Ymysg y gweithgareddau, trefnir darlithoedd bob mis ac ar ddyddiau coffa ein cenedl; cynhelir ysgolion undydd i ledaenu ein gwir hanes ac arddangosfeydd achlysurol; cynhelir clwb darllen misol; a chyhoeddir cylchgrawn sain, yr Utgorn, bob chwarter sy'n ymdrin â phynciau hanesyddol a diwylliannol, ac a ddosberthir i danysgrifwyr. Caiff y deillion ei dderbyn am ddim ond iddynt wneud cais. Yng nghefn y ganolfan ceir gardd draddodiadol Gymreig y mae rhai o'r aelodau'n edrych ar ei hôl.
Ewch i brif wefan Canolfan Hanes Uwchgwyrfai am fanylion llawn a'r newyddion diweddaraf.
Iaith Cof y Cwmwd
Ffynhonell o wybodaeth Gymraeg ei hiaith yw Cof y Cwmwd. Mae erthyglau Cymraeg am rai elfennau o hanes Uwchgwyrfai ar gael hefyd ar Wicipedia Cymraeg [1] - ac wrth gwrs mewn ieithoedd eraill ar Wikipedia. Cofiwch hefyd fod modd i ffrindiau di-Gymraeg fentro cael cyfieithiad (o ryw fath!) o erthyglau Cof y Cwmwd trwy ddefnyddio Google Translate.