Gwynedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
Gall '''Gwynedd''' gyfeirio at deyrnas ganoloesol yn ystod Oes y Tywysogion, yn gyffredinol at yr ardal honno wedi hynny, neu at y sir fodern. | Gall '''Gwynedd''' gyfeirio at deyrnas ganoloesol yn ystod Oes y Tywysogion, yn gyffredinol at yr ardal honno wedi hynny, neu at y sir fodern. | ||
Rhannwyd yr hen Wynedd yn nifer o gantrefi a chymydau. Roedd [[Uwchgwyrfai]] yn un o ddau gwmwd [[Arfon]]. | Rhannwyd yr hen Wynedd yn nifer o gantrefi a chymydau. Roedd [[Uwchgwyrfai]] yn un o ddau gwmwd [[Arfon]]. |
Fersiwn yn ôl 18:08, 3 Medi 2018
Gall Gwynedd gyfeirio at deyrnas ganoloesol yn ystod Oes y Tywysogion, yn gyffredinol at yr ardal honno wedi hynny, neu at y sir fodern.
Rhannwyd yr hen Wynedd yn nifer o gantrefi a chymydau. Roedd Uwchgwyrfai yn un o ddau gwmwd Arfon.
Ystyr yr enw "Gwynedd"
Gwyndyd ('Gwynedd'; 'pobl Gwynedd') oedd yr hen ffurf ar y gair Gwynedd, sy'n dod o'r gair Brythoneg (tybiedig) Uenedoti (sail y gair Lladin Canol Venedotia, Gwynedd).[1]
Cymraeg Gwynedd
Yr enw a roddwyd ar dafodiaith gwynedd yw "Gwyndodeg", sy'n cynnwys Cymraeg holl diroedd Sir Gaernarfon, Ynys Môn, y rhan fwyaf o Feirionnydd (ag eithrio Pernllyn ac Edeirnion, a gorllewin Sir Ddinbych.[2]
Teyrnas Ganoloesol Gwynedd
Gwynedd oedd yr enw ar hen deyrnas Cymru yn y gogledd-orllewin - ac ar adegau roedd rheolwyr Gwynedd yn ddigon cryf i reoli rhannau eraill o Gymru, gan ymestyn ffin Gwynedd i'r dwyrain - yn wir, nid yw'r hen garreg ffin a elwir yn Faen Gwynedd, sy'n dynodi'r ffin rhwng Gwynedd a Phowys ar un adeg, nepell o'r fin â Lloegr, ger Llanrhaeadr-ym-Mochnant.
Rhestr o Frenhinoedd a Thywysogion Gwynedd
Lle nad yw dyddiadau isod yn cydredeg, mae hyn yn dynodi cyfnodau pan oedd y deyrnas yn rhanedig neu'r awdurdod wedi ei rannu rhwng mwy nag un tywysog.
Cunedda ap Edern (Cunedda Wledig) (c.450-c.460) Einion ap Cunedda (Einion Yrth) (c.470-c.480) Cadwallon ap Einion (Cadwallon Lawhir) (c.500-c.534) Maelgwn Gwynedd (c.520-c.547) Rhun ap Maelgwn Gwynedd (c.547-c.580) Beli ap Rhun (c.580-c.599) Iago ap Beli (c.599-c.613) Cadfan ap Iago (c.613-c.625) Cadwallon ap Cadfan (c.620-634) Cadafael ap Cynfeddw (Cadafael Cadomedd) (634-c.655) Cadwaladr ap Cadwallon (Cadwaladr Fendigaid) (c.655-c.682) Idwal ap Cadwaladr (Idwal Iwrch) (c.682-c.720) Rhodri ap Idwal (Rhodri Molwynog) (c.720-c.754) Caradog ap Meirion (c.754-c.798) Cynan ap Rhodri (Cynan Dindaethwy) (c.798-816) Hywel ap Rhodri Molwynog (814-825) Merfyn Frych ap Gwriad (825-844) Rhodri ap Merfyn (Rhodri Mawr) (844-878) Anarawd ap Rhodri (878-916) Idwal Foel ab Anarawd (916-942) Hywel ap Cadell (Hywel Dda) (942-950) Iago ab Idwal (950-979) Ieuaf ab Idwal (950-969) Hywel ab Ieuaf (979-985) Cadwallon ab Ieuaf (985-986) Maredudd ab Owain (986-999) Cynan ap Hywel (999-1005) Aeddan ap Blegywryd (1005-1018) Llywelyn ap Seisyll (1018-1023) Iago ap Idwal ap Meurig (1023-1039) Gruffudd ap Llywelyn (1039-1063) Bleddyn ap Cynfyn (1063-1075) Rhiwallon ap Cynfyn (1063-1070) Trahaearn ap Caradog (1075-1081) Gruffudd ap Cynan (1081-1137) Owain Gwynedd (1137-1170) Maelgwn ab Owain Gwynedd (1170-1173) Dafydd ab Owain Gwynedd (1170-1195) (yn y dwyrain) Rhodri ab Owain Gwynedd (1170-1190) (yn y gorllewin) Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) (1195-1240) Dafydd ap Llywelyn (1240-1246) Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn Ein Llyw Olaf) (1246-1282) Owain ap Gruffudd (Owain Goch) (1246-1255) Dafydd ap Gruffudd (1282-1283)
Mae manylion am bob un o'r uchod i'w cael ar dudalenni Wicipedia.
Pencadlys y brenhinoedd/teyrnon cynnar oedd Deganwy, ond yn ddiweddarach ac ar gyfnodau o helbul o'r dwyrain, ymsefydlodd llinach Gwynedd yn Aberffraw, Ynys Môn ac Abergwyngregin.
Yn dilyn marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd ym 1282 a dienyddiad ei frawd Dafydd ap Gruffudd y flyddyn ganlynol, daeth teyrnas Gwynedd i ben. Ceisiodd Owain Lawgoch hawlio teyrnas Gwynedd a Chymru yn 1372 a 1377, ac yr oedd gan Owain Glyn Dŵr gysylltiadau teuluol â thywysogion Gwynedd hefyd.[3]
Gwynedd ar ôl 1284
Wedi goresgyniad y Saeson dros Gymru, fe barhaodd Gwynedd yn dywysogaeth annibynnol i bob pwrpas, ond ynyn eiddo i frenhinoedd Lloegr, ac o dan gyfraith Lloegr (ac aithrio materion sifil megis deddfau etifeddu a arhosai'n unol â'r gyfraith Gymreig. Fe'i hystyrid fel "Tywysogaeth Gogledd Cymru". Fe'i ffurfiwyd siroedd ar batrwm trefn Lloegr ym 1284; wedi hynny roedd Uwchgwyrfai yn ran o Sir Gaernarfon. Unwyd Tywysogaeth Gogledd Cymru (yr hen Wynedd) gyda gweddill Cymru gan y deddfau uno, 1536 a 1543.
Gwynedd yn y cyfnod modern
Parhaodd y defnydd o'r enw "Gwynedd" i ddisgrifio hen ardal tywysogion Gwynedd gan haneswyr, hynafiaethwyr a'r rhai oedd am gael term hwylus ar gyfer Gogledd-orlklewin Cymru. Nid oedd unrhyw ddefnyddd swyddogol o'r enw, fodd bynnag, nes i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru), 1972, greu siroedd mawr unedig o 1974 ymlaen. Am hanes y cyfnod hwnnw,gweler yr erthygl Cyngor Sir Gwynedd. Ym 1996, crëwyd siroedd llai, a dewioswyd yr enw Gwynedd ar ardal oedd yn cynnwys gorllewin yr hen siroedd Caernarfon a Meirionnydd. Am y cyfnod ar ôl 1996, gwelerr erthygl Cyngor Gwynedd.