Ffynhonnau Uwchgwyrfai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 32: | Llinell 32: | ||
[[Ffynnon Garmon]] | [[Ffynnon Garmon]] | ||
[[Ffynnon Beuno, | [[Ffynnon Beuno, Llanwnda]] | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 09:08, 27 Mawrth 2018
Mae nifer o ffynhonnau Uwchgwyrfai â hanes sy'n mynd yn ôl gannoedd os nad miloedd o flynyddoedd. Mae gan rai enwau, ac mae rhai yn meddu ar rinweddau gwirioneddol neu honedig. Rhai o'r rhain yw'r ffynhonnau sanctaidd a gysylltir yn aml â saint oes cynnar yr Eglwys Celtaidd. Rhestrir rhai hynod isod, a cheir erthyglau unigol am rai ohonynt.
Cyn dyddiau pibellau dŵr, roedd gan bob fferm a'r rhan fwyaf o dai ffynnon, naill ai un a fyrlymodd o'r graig gerllaw neu un wedi tyllu i lawr nes gyrraedd lefel y dWr yn y ddaear. Yn y man pibellwyd rhai gan greu ffynnon gymunedol yng nghanol pentref (megis yn Llandwrog, neu ddarparu cyflenwad i nifer o dyddynod a ffermydd y fro (megis yn achos Ffynnon Wen ger y Bryngwyn).
Ffynhonnau Uwchgwyrfai
Dyma restr o rai o ffynhonnau'r cwmwd sydd â hanes neilltuol yn perthyn iddynt[1]:
Plwyf Clynnog Fawr
Plwyf Llanaelhaearn
Plwyf Llandwrog
Plwyf Llanllyfni
Plwyf Llanwnda
Cyfeiriadau
- ↑ Francis Jones, The Holy Wells of Wales, (Caerdydd, 1954), passim; Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf.2, (Llundain, 1960), passim; a chyfeiriadau unigol a/neu wybodaeth bersonol