Hafan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 53: Llinell 53:
Mae rhai enwau lleol ynarfer cael eu sillafu mewn sawl ffordd, ac felly penderfynwyd glynu at sillafiad y rhestr safonol, sef ''Rhestr o Enwau Lleoedd/A Gazeteer of Welsh Place-names'', <ref>(Gwasg Prifysgol Cymru, 3ydd gol.,1967).</ref> Trwy wneud hyn, bydd yn haws dod o hyd i holl gyfeiriadau at le.  
Mae rhai enwau lleol ynarfer cael eu sillafu mewn sawl ffordd, ac felly penderfynwyd glynu at sillafiad y rhestr safonol, sef ''Rhestr o Enwau Lleoedd/A Gazeteer of Welsh Place-names'', <ref>(Gwasg Prifysgol Cymru, 3ydd gol.,1967).</ref> Trwy wneud hyn, bydd yn haws dod o hyd i holl gyfeiriadau at le.  


Dyma'r ffurfiau i'w defnyddio yng '''Nghof y Cwmwd''': Bethesda Bach; Clynnog Fawr; Drws-y-coed; Gurn Goch; Maestryfan; Pant-glas; Pen-y-groes; Pontlyfni; Rhosgadfan; Rhos-isaf; Rhostryfan; Rhyd-ddu; Tal-y-sarn; Tan'rallt; Tŷ'nlôn; Y Bontnewydd; Y Groeslon.
Dyma'r ffurfiau sy'n cael eu defnyddio yng '''Nghof y Cwmwd''': Bethesda Bach; Clynnog Fawr; Drws-y-coed; Gurn Goch; Maestryfan; Pant-glas; Pen-y-groes; Pontlyfni; Rhosgadfan; Rhos-isaf; Rhostryfan; Rhyd-ddu; Tal-y-sarn; Tan'rallt; Tŷ'nlôn; Y Bontnewydd; Y Groeslon.


Iaith safle '''Cof y Cwmwd''' yw Cymraeg, ac felly defnyddir yr enw Cymraeg bob tro, boedd lle yng Nghymru neu'n rhywle arall - a bwrw bod enw Cymraeg ar gael. Os yw'r enw'n bur anghyfarwydd, rhodder yr enw Saesneg mewn llythrennau italig mewn cromfachau ar ei ôl,e.e. "Yr Heledd Wen (''Nantwich'')".
Iaith safle '''Cof y Cwmwd''' yw Cymraeg, ac felly defnyddir yr enw Cymraeg bob tro, boedd lle yng Nghymru neu'n rhywle arall - a bwrw bod enw Cymraeg ar gael. Os yw'r enw'n bur anghyfarwydd, rhodder yr enw Saesneg mewn llythrennau italig mewn cromfachau ar ei ôl,e.e. "Yr Heledd Wen (''Nantwich'')".

Fersiwn yn ôl 16:33, 20 Mawrth 2018

Cof y Cwmwd

Digwyddiad nesaf: 14 Ebrill 2018 10 - 1

Archifdy Caernarfon
Dewch i'r digwyddiad Golygathon nesaf!
Dim angen profiad - mi fydd croeso cynnes i bawb sydd eisiau dysgu a rhannu hanes Uwchgwyrfai - OND brysiwch. Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael.
Cewch y manylion yma .

Cyflwyniad

Uwchgwyrfai
Uwchgwyrfai

Croeso i Cof y Cwmwd, sef casgliad o erthyglau yn y Gymraeg ar hanes a diwylliant cwmwd Uwchgwyrfai yng Ngwynedd.

Sefydlwyd Cof y Cwmwd ym mis Hydref 2017, fel un o weithgareddau elusennol Canolfan Hanes Uwchgwyrfai gyda grant hael gan Gronfa Loteri'r Dreftadaeth. Mae'n gweithio'n debyg iawn i Wicipedia.

Ein bwriad yw gweld Cof y Cwmwd yn datblygu fel prif ffynhonnell gwybodaeth am hanes a thraddodiadau ein cwr bach ni o Gymru. Mae Cof y Cwmwd yn ymdrin ag ardal yr hen gwmwd, gan gadw at yr hen ffiniau canoloesol - sef plwyfi hanesyddol Clynnog Fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda. Mae hyn yn cynnwys Dyffryn Nantlle i gyd bron hyd at Ryd-ddu ac wedyn ar hyd yr afon Gwyrfai o Ryd-ddu trwy'r Bontnewydd ac at y môr.

Ein nod yw cyflwyno gwir hanes ein cenedl i bobl Uwchgwyrfai a Chymru gyfan, a hynny gyda help unrhyw un sydd am ymuno yn y gwaith. Hawdd iawn yw ychwnegu ffeithiau at erthygl, neu greu erthygl o'r newydd, ac rydym yn eich gwahodd yn gynnes iawn i wneud hynny.

Cewch fwy o wybodaeth am Cof y Cwmwd wrth glicio yma.


Sut i ddarllen erthygl neu ganfod ffeithiau

Defnyddiwch y blwch Chwilio ar ben y sgrîn hon, ar y dde - neu gliciwch Holl gategorïau ar y rhestr ar y chwith i weld pa gategorïau o bynciau sydd ar gael. Os gwelwch eiriau lliw glas, gallwch gliciwch arnynt ac mi ewch yn syth at yr erthygl honno.

Sut i ychwanegu gwybodaeth

Er mwyn ein helpu i gael gwybodaeth fwy cyflawn am Uwchgwyrfai, dilynwch y cyfarwyddiadau isod o dan Cyfrannwch wybodaeth.


Erthyglau newydd

Uwchgwyrfai o Rosgadfan
  1. Cyfrif Deon Eglwys Gadeiriol Bangor, 1398
  2. Taxatio Lincoln 1291
  3. Asesiad Deoniaeth Arfon o'r Degwm
  4. Stent Tiroedd Esgobaeth Bangor ?1335
  5. Bae Foryd
  6. Cored Gwyrfai
  7. Gored Gwyrfai
  8. Geoffrey Trefnant
  9. Jeffrey Trefnant
  10. Sieffre Trefnant

Cyfanswm: 1,796 erthygl

Cyfrannwch wybodaeth

Uwchgwyrfai o Fwlch yr Eifl

Gwefan yw Cof y Cwmwd a fydd yn tyfu, gyda'ch help chi, i fod yn brif ffynhonnell hanes Uwchgwyrfai. Mae'n hawdd i unrhyw un gyfrannu o'i wybodaeth bersonol neu yn sgîl ei ymchwil, ar yr amod nad yw'n torri hawlfraint eraill ac yn derbyn yr ychydig gyfyngiadau arferol angenrheidiol. Yn fwy na hynny, mae arnom wir angen eich cyfraniadau er mwyn sicrhau y bydd Cof y Cwmwd yn cynnwys pob elfen o hanes Cwmwd Uwchgwyrfai. Peidiwch â meddwl bod eraill yn gwybod mwy na chi am eich ardal. Cyflwynwch eich gwybodaeth; dyna sut y daw ffeithiau newydd i'r golwg.

Am fwy o wybodaeth am gyfrannu erthygl neu ychwanegu/cywiro ffeithiau, cliciwch yma.

Angen syniadau am erthygl? Cliciwch yma i weld rhestr o erthyglau sydd eu hangen, a chliciwch yno ar unrhyw destun goch.

Yn fwy na dim, mentrwch! Ni ellir gwneud dim i'r wefan nad yw'n bosibl ei wrthdroi.

Enwau lleoedd

Mae rhai enwau lleol ynarfer cael eu sillafu mewn sawl ffordd, ac felly penderfynwyd glynu at sillafiad y rhestr safonol, sef Rhestr o Enwau Lleoedd/A Gazeteer of Welsh Place-names, [1] Trwy wneud hyn, bydd yn haws dod o hyd i holl gyfeiriadau at le.

Dyma'r ffurfiau sy'n cael eu defnyddio yng Nghof y Cwmwd: Bethesda Bach; Clynnog Fawr; Drws-y-coed; Gurn Goch; Maestryfan; Pant-glas; Pen-y-groes; Pontlyfni; Rhosgadfan; Rhos-isaf; Rhostryfan; Rhyd-ddu; Tal-y-sarn; Tan'rallt; Tŷ'nlôn; Y Bontnewydd; Y Groeslon.

Iaith safle Cof y Cwmwd yw Cymraeg, ac felly defnyddir yr enw Cymraeg bob tro, boedd lle yng Nghymru neu'n rhywle arall - a bwrw bod enw Cymraeg ar gael. Os yw'r enw'n bur anghyfarwydd, rhodder yr enw Saesneg mewn llythrennau italig mewn cromfachau ar ei ôl,e.e. "Yr Heledd Wen (Nantwich)".

Canolfan Hanes Uwchgwyrfai

Dyma'r ganolfan yng nghwmwd Uwchgwyrfai sy’n costrelu dyheadau a hanes ardal sy’n enwog am ei chyfraniad addysgol, diwylliannol a chrefyddol. Dyma’n wir bwerdy bro. Lleolir y Ganolfan yn hen ysgoldy Eben Fardd yng Nghlynnog Fawr yn Arfon.

Elusen gofrestredig yw Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Ymysg y gweithgareddau, trefnir darlithoedd bob mis ac ar ddyddiau coffa ein cenedl; cynhelir ysgolion undydd i ledaenu ein gwir hanes ac arddangosfeydd achlysurol; cynhelir clwb darllen misol; a chyhoeddir cylchgrawn sain, yr Utgorn, bob chwarter sy'n ymdrin â phynciau hanesyddol a diwylliannol, ac a ddosberthir i danysgrifwyr. Caiff y deillion ei dderbyn am ddim ond iddynt wneud cais. Yng nghefn y ganolfan ceir gardd draddodiadol Gymreig y mae rhai o'r aelodau'n edrych ar ei hôl.

Ewch i brif wefan Canolfan Hanes Uwchgwyrfai am fanylion llawn a'r newyddion diweddaraf.

Iaith Cof y Cwmwd

Ffynhonnell o wybodaeth Gymraeg ei hiaith yw Cof y Cwmwd. Mae erthyglau Cymraeg am rai elfennau o hanes Uwchgwyrfai ar gael hefyd ar Wicipedia Cymraeg - ac wrth gwrs mewn ieithoedd eraill ar Wikipedia. Cofiwch hefyd fod modd i ffrindiau di-Gymraeg fentro cael cyfieithiad (o ryw fath!) o erthyglau Cof y Cwmwd trwy ddefnyddio Google Translate.

A oes gennych sylwadau?

Mae modd rhoi sylwadau am unrhyw dudalen trwy ddefnyddio'r botwm Sgwrs ar ben erthygl (mae un ar dop y dudalen hon, er enghraifft). Ond os yw'n well gennych anfon e-bost, gallwch gysylltu â rheolwyr Cof y Cwmwd trwy yrru e-bost at wiciuwchgwyrfai@talktalk.net .


  1. (Gwasg Prifysgol Cymru, 3ydd gol.,1967).