Pen-y-groes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 8: Llinell 8:
Mae'n debyg mai enw ar fferm neu dyddyn oedd Pen-y-groes i ddechrau, gyda'r enw yn disgrifio'r lleoliad ger y groesffordd rhwng y lôn fawr o Gaernarfon i Benmorfa a lôn a redai o gyfeiriad y môr ger [[Pontlyfni]] i ben pellaf [[Dyffryn Nantlle]]. Un o'r cyfeiriadau cyntaf at Ben-y-groes yw nodyn ym mhapurau Llys Chwarter y sir sy'n dyddio o 1813, lle rhwymwyd Morgan Roberts, iwmon (sef ffermwr) o Ben-y-groes i gadw'r heddwch wedi ffrae rhwng rhai o ddynion y dyffryn.<ref>Archifdy Caernarfon, XQS/1813/15/80</ref>
Mae'n debyg mai enw ar fferm neu dyddyn oedd Pen-y-groes i ddechrau, gyda'r enw yn disgrifio'r lleoliad ger y groesffordd rhwng y lôn fawr o Gaernarfon i Benmorfa a lôn a redai o gyfeiriad y môr ger [[Pontlyfni]] i ben pellaf [[Dyffryn Nantlle]]. Un o'r cyfeiriadau cyntaf at Ben-y-groes yw nodyn ym mhapurau Llys Chwarter y sir sy'n dyddio o 1813, lle rhwymwyd Morgan Roberts, iwmon (sef ffermwr) o Ben-y-groes i gadw'r heddwch wedi ffrae rhwng rhai o ddynion y dyffryn.<ref>Archifdy Caernarfon, XQS/1813/15/80</ref>


Ar, neu ger, y groesffordd yr oedd tafarn, y "Pen-y-groes Inn" erbyn y 1820au, gan fod cyfeiriad ato ym 1829 fel man aros i deithwyr answyddogol ar [[Rheilffordd Nantlle]] a oedd wedi agor ym 1828.<ref>''The Memoirs of Samuel Holland'', (Dolgellau, 1952),</ref> Safai'r dafarn ar y groesffordd lle mae [[Yr Orsaf]] heddiw, sef yr hen [[Siop Griffiths]].
Ar, neu ger, y groesffordd yr oedd tafarn, y "Pen-y-groes Inn" erbyn y 1820au, gan fod cyfeiriad ato ym 1829 fel man aros i deithwyr answyddogol ar [[Rheilffordd Nantlle|Reilffordd Nantlle]] a oedd wedi agor ym 1828.<ref>''The Memoirs of Samuel Holland'', (Dolgellau, 1952),</ref> Safai'r dafarn (a elwid yn [[Tafarn y Stag]] yn swyddogol) ar y groesffordd lle mae [[Yr Orsaf]] heddiw, sef yr hen [[Siop Griffiths]]. Roedd hi'n gwasanaethu fel man cyfleus i deithwyr ar eu siwrne ar hyd Dyffryn Nantlle neu rhwng Caernarfon ac Eifionydd. Gan fod Rheilffordd Nantlle yn croesi'r ffordd dyrpeg yn yr un fan, dichon i bentref bach ddechrau ymffurfio, fel y digwyddodd yn achos pentref [[Y Grioeslon]]. Serch hynny, mae'r man degwm yn dangos cyn lleied o dai oedd wrth y groesffordd erbyn 1841.
 
Wrth astudio'r map, a'r rhestr o'r daliadau tir sydd ynghlwm wrtho<ref>LlGC, Map Degwm a Rhestr Bennu plwyf Llanllyfni, 1841</ref>, gellir cael argraff gwell o'r pentref yn ei ddyddiau cynnar.


==Cyfeiriadau==   
==Cyfeiriadau==   


[[Categori:Pentrefi a threflannau]]
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]

Fersiwn yn ôl 09:56, 13 Hydref 2025

Y Map Degwm yn dangos pentref Pen-y-groes ym 1840

Pen-y-groes yw'r pentref mwyaf yn ardal Dyffryn Nantlle. Yn wir, dyma'r gymuned fwyaf yn holl gwmwd Uwchgwyrfai ers iddi ddatblygu ynnystod ail hanner y 19g., gan adael pentref bychan hynaf y plwyf, sef Llanllyfni yn ei gysgod. Bu sôn am bentref yn Llanllyfni ers y 17g., a dyna lle'r oedd eglwys y fro a lle cynhelid ffair ers canrifoedd - a lle'r oedd nifer fwyaf o dafarnau'r dyffryn! Er i lawer o chwarelwyr fyw ym Mhen-y-groes pan oedd chwareli'r dyffryn ar eu hanterth, roedd Pen-y-groes y tu allan i ardal ddaearyddol y llechfaen, a gwasanaethodd y pentref fel canolfan fasnachol y dyffryn, ac yn y man fe ddatblygodd fel prif leoliad siopau'r dyffryn, a chartref nifer o greffwyr a mân ddiwydiannau. Roedd (ac y mae) chwarel tywod a gro ar gyrrion y pentref.

Ceir darlun cyfoes gwych o'r pentref pan oedd yn tyfu yn nisgrifiad Owen Owen o Ben-y-groes, o'i lyfr Hen Atgofion am Ben-y-groes. Mae darn o'r llyfr yn disgrifio'r pentref tua 1870 wedi ei atgynhyrchu yn Cof y Cwmwd a gellir ei ddarllen trwy glicio yma.

Datblygiad y pentref

Mae'n debyg mai enw ar fferm neu dyddyn oedd Pen-y-groes i ddechrau, gyda'r enw yn disgrifio'r lleoliad ger y groesffordd rhwng y lôn fawr o Gaernarfon i Benmorfa a lôn a redai o gyfeiriad y môr ger Pontlyfni i ben pellaf Dyffryn Nantlle. Un o'r cyfeiriadau cyntaf at Ben-y-groes yw nodyn ym mhapurau Llys Chwarter y sir sy'n dyddio o 1813, lle rhwymwyd Morgan Roberts, iwmon (sef ffermwr) o Ben-y-groes i gadw'r heddwch wedi ffrae rhwng rhai o ddynion y dyffryn.[1]

Ar, neu ger, y groesffordd yr oedd tafarn, y "Pen-y-groes Inn" erbyn y 1820au, gan fod cyfeiriad ato ym 1829 fel man aros i deithwyr answyddogol ar Reilffordd Nantlle a oedd wedi agor ym 1828.[2] Safai'r dafarn (a elwid yn Tafarn y Stag yn swyddogol) ar y groesffordd lle mae Yr Orsaf heddiw, sef yr hen Siop Griffiths. Roedd hi'n gwasanaethu fel man cyfleus i deithwyr ar eu siwrne ar hyd Dyffryn Nantlle neu rhwng Caernarfon ac Eifionydd. Gan fod Rheilffordd Nantlle yn croesi'r ffordd dyrpeg yn yr un fan, dichon i bentref bach ddechrau ymffurfio, fel y digwyddodd yn achos pentref Y Grioeslon. Serch hynny, mae'r man degwm yn dangos cyn lleied o dai oedd wrth y groesffordd erbyn 1841.

Wrth astudio'r map, a'r rhestr o'r daliadau tir sydd ynghlwm wrtho[3], gellir cael argraff gwell o'r pentref yn ei ddyddiau cynnar.

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XQS/1813/15/80
  2. The Memoirs of Samuel Holland, (Dolgellau, 1952),
  3. LlGC, Map Degwm a Rhestr Bennu plwyf Llanllyfni, 1841