Pen-y-groes (Llanwnda): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
Mae'n debyg i'r enw fod yn hen iawn ac yn cofnodi bodolaeth hen groesffordd ddiflanedig ar y lôn o Gaernarfon i Bwllheli, a hynny cyn i'r dyrpeg newid trefn y ffyrdd. Erbyn heddiw, mae'r safle hanner ffordd rhwng cyffordd y lôn i bentrefan [[Dinas]] a'r gyffordd le mae ffordd [[Rhostryfan]] yn gadael y lôn bost. | Mae'n debyg i'r enw fod yn hen iawn ac yn cofnodi bodolaeth hen groesffordd ddiflanedig ar y lôn o Gaernarfon i Bwllheli, a hynny cyn i'r dyrpeg newid trefn y ffyrdd. Erbyn heddiw, mae'r safle hanner ffordd rhwng cyffordd y lôn i bentrefan [[Dinas]] a'r gyffordd le mae ffordd [[Rhostryfan]] yn gadael y lôn bost. | ||
Ymddengys fod dau deulu yn byw ym Mhen-y-groes, un yn ffermio a'r llall yn cadw gefail, gan fod gof yn byw ac yn gweithio yno - a hynny mor ddiweddar â 1911, pan oedd John Francis Roberts (ganwyd tua 1876) yno. | Ymddengys fod dau deulu yn byw ym Mhen-y-groes t ua diwedd y 19g., un yn ffermio a'r llall yn cadw gefail, gan fod gof yn byw ac yn gweithio yno - a hynny mor ddiweddar â 1911, pan oedd John Francis Roberts (ganwyd tua 1876) yno. Ym 1841, roedd yr eiddo yn perthyn i John Rowlands, a'r tenant oedd John Roberts, a oedd yn ffgermio saith cae yn ymestyn dros ychydig mwy na naw erw.<ref>Map a rhestr bennu'r Degwm, plwyf Llanwnda</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 19:32, 31 Rhagfyr 2023
Daliwch eich gwynt! Mae awdur cychwynnol yr erthygl hon yn dal wrthi, a heb ei gorffen eto!
Enw ar dyddyn ac efaill oedd Pen-y-groes, plwyf Llanwnda. Roedd y tŷ'n dyddio'n ôl i'r 17g ac yn enghraifft o fwthyn wedi ei adeiladu o gerrig amrwd ar seiliau o gerrig mwy, a ffenestri bychain. Roedd ysgol yn hytrach na grisiau'n fodd i gyrraedd yr ail lawr. Roedd paredau coed a phlaster yn gwahanu'r ystafelloedd ac roedd y llawr yn bennaf yn llawr pridd. Erbyn canol yr 20g roedd y tŷ mewn cyflwr gwael iawn ac yn troi'n ddim mwy na furddun, er iddo gael ei enwi ar fap Ordnans 1953.[1] a chwalwyd yr hyn oedd ar ôl cyn codi tŷ newydd (Yr Hen Efail) sydd yn gartref i Dafydd Wigley a'i deulu.
Mae'n debyg i'r enw fod yn hen iawn ac yn cofnodi bodolaeth hen groesffordd ddiflanedig ar y lôn o Gaernarfon i Bwllheli, a hynny cyn i'r dyrpeg newid trefn y ffyrdd. Erbyn heddiw, mae'r safle hanner ffordd rhwng cyffordd y lôn i bentrefan Dinas a'r gyffordd le mae ffordd Rhostryfan yn gadael y lôn bost.
Ymddengys fod dau deulu yn byw ym Mhen-y-groes t ua diwedd y 19g., un yn ffermio a'r llall yn cadw gefail, gan fod gof yn byw ac yn gweithio yno - a hynny mor ddiweddar â 1911, pan oedd John Francis Roberts (ganwyd tua 1876) yno. Ym 1841, roedd yr eiddo yn perthyn i John Rowlands, a'r tenant oedd John Roberts, a oedd yn ffgermio saith cae yn ymestyn dros ychydig mwy na naw erw.[2]