Thomas Williams, Gwylfa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Thomas Williams''', a ymddeolodd i plasty Gwylfa, tŷ mawr ar y [[Lôn Ganol]] rhwng [[Glan-rhyd]] a [[Llandwrog]], yn fab i fasnachwr glo llwyddiannus yn Lerpwl. Fe'i ganed 15 Mawrth 1833<ref>Plac ar wal Capel Glan-rhyd, Llanwnda</ref> yn fab hynaf (o 6 o blant) i Richard a Margaret Williams. Melinydd oedd Richard (g.1807) yn wreiddiol, yn hanu o Gonwy; erbyn 1841 roedd wedi priodi â Margaret, dynes o Sir Fôn, (g.1806), ac erbyn 1833 pan aned Thomas roeddynt yn byw yn Nhŷ'r Felin, Trefriw lle oedd y tad yn felinydd. Roedd y felin ger y cei ar lan Afon Conwy ac yn fuan wedyn symudodd y teulu i Lerpwl lle sefydlodd y tad fusnes glo. Erbyn 1851 roedd y teulu wedi ymsefydlu mewn tŷ syweddol, sef 19 Eldon Place, a'r tad yn cael ei ddisgrifio fel masnachwr glo a meistr 4 o ddynion, a Thomas, 18 oed, yn cael ei ddisgrifio fel cynorthwywr masnachwr glo. Erbyn hyn, enw'r cwmni oedd "Richard Williams a'i fab". Roedd Thomas felly yn berchennog rhannol ar y cwmni. Ffynnodd y busnes ac erbyn 1861 roedd y teulu wedi symud i 180 Vauxhall Road, Lerpwl, a'r tad yn cyflogi 21 o ddynion. Bu farw'r tad rywbryd rhwng 1871 ac 1881. | Roedd '''Thomas Williams''', a ymddeolodd i plasty Gwylfa, tŷ mawr ar y [[Lôn Ganol]] rhwng [[Glan-rhyd]] a [[Llandwrog]], yn fab i fasnachwr glo llwyddiannus yn Lerpwl. Fe'i ganed 15 Mawrth 1833<ref>Plac ar wal Capel Glan-rhyd, Llanwnda</ref> yn fab hynaf (o 6 o blant) i Richard a Margaret Williams. Melinydd oedd Richard (g.1807) yn wreiddiol, yn hanu o Gonwy; erbyn 1841 roedd wedi priodi â Margaret, dynes o Sir Fôn, (g.1806), ac erbyn 1833 pan aned Thomas roeddynt yn byw yn Nhŷ'r Felin, Trefriw lle oedd y tad yn felinydd. Roedd y felin ger y cei ar lan Afon Conwy ac yn fuan wedyn symudodd y teulu i Lerpwl lle sefydlodd y tad fusnes glo. Erbyn 1851 roedd y teulu wedi ymsefydlu mewn tŷ syweddol, sef 19 Eldon Place, a'r tad yn cael ei ddisgrifio fel masnachwr glo a meistr 4 o ddynion, a Thomas, 18 oed, yn cael ei ddisgrifio fel cynorthwywr masnachwr glo. Erbyn hyn, enw'r cwmni oedd "Richard Williams a'i fab". Roedd Thomas felly yn berchennog rhannol ar y cwmni. Ffynnodd y busnes ac erbyn 1861 roedd y teulu wedi symud i 180 Vauxhall Road, Lerpwl, a'r tad yn cyflogi 21 o ddynion. Bu farw'r tad rywbryd rhwng 1871 ac 1881. | ||
Rywbryd ar ôl 1861 priododd Thomas a dynes bymtheg mlynedd yn iau nag ef, sef Kate (neu Catherine), a hanodd o Lanystumdwy. Ymsefydlodd y teulu ym Marsh Lane, Walton, West Kirby. Roedd y teulu'n dal yno ym 1871, ond erbyn | Rywbryd ar ôl 1861 priododd Thomas a dynes bymtheg mlynedd yn iau nag ef, sef Kate (neu Catherine), a hanodd o Lanystumdwy. Ymsefydlodd y teulu ym Marsh Lane, Walton, West Kirby. Roedd y teulu'n dal yno ym 1871, ond erbyn 1880 a bron yn sicr rai blynyddoedd cyn hynny, roedd Thomas a Kate wedi symud i fferm y Fron, Llanfaglan, lle y disgrifiwyd Thomas fel masnachwr glo, ond yr oedd hefyd yn cyflogi dau was fferm. Tybed nad oedd Kate yn medru ymgynefino a'r ddinas? | ||
Cawsant gartref ysbrydol hapus, mae'n debyg, yng Ngapel Pen-y-graig, Llanfaglan, a chodwyd Thomas yn flaenor yno. Roedd o o'r farn y dylid atgyweirio'r capel a'i helaethu a pherswadiodd aelodau'r capel i glirio'r ddyled oedd ar yr hen adeilad, gan roi £300 at y gwaith o atgyweirio ac ymestyn. Agorwyd y capel ar ei newydd wedd ym 1881 ond roedd dyled sylweddol arno ac yn fuan symudodd Thomas a Catherine i'r Wylfa, gan ymaelodi yn [[Capel Bwlan (MC), Llandwrog|y Bwlan]], a gadael dyled o £230 i'r aelodau ym Mhen-y-graig ei thalu - swm a gymerodd tan 1898 iddynt ei glirio.<ref>W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf. III (Caernarfon, 1915), tt.237-8</ref> | |||
Rywbryd cyn 1891 roedd y ddau wedi ymsefydlu yn yr Wylfa, gyda Thomas yn dal i fod ynghlwm wrth y busnes glo. Erbyn 1901, ac yntau'n 67 oed, roedd wedi ymddeol ac wedi colli ei wraig gyntaf, Catherine ym 1892.<ref>''North Wales Express'', 15.7.1892, t.4</ref> Ym 1895, ail-briododd â Jane, dynes o Fellteyrn, a hithau (fel Catherine) yn 15 mlynedd yn iau nag ef.<ref>''North Wales Express'', 8.3.1895, t.6</ref><ref>Cyfrifiadau plwyfi a wardiau Trefriw 1841-51; Scotland, Lerpwl a West Derby, 1851-1881; Llanfaglan, 1881; a Llanwnda, 1891-1901.</ref> | |||
Ymddengys y bu Thomas Williams, lle bynnag yr oedd yn byw, yn gefnogol i achosion dyngarol a chrefyddol. Fo, i raddau helaeth, oedd yn noddi adeiladu [[Capel Glan-rhyd (MC), Llanwnda]], gan roi'r safle a £1000 at y gwaith (a gostiodd i gyd tua £2800), ac fe'i codwyd yn un o bedwar blaenor cychwynnol yr eglwys.<ref>W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf. I (Caernarfon, 1910), t.346</ref> | Ymddengys y bu Thomas Williams, lle bynnag yr oedd yn byw, yn gefnogol i achosion dyngarol a chrefyddol. Fo, i raddau helaeth, oedd yn noddi adeiladu [[Capel Glan-rhyd (MC), Llanwnda]], gan roi'r safle a £1000 at y gwaith (a gostiodd i gyd tua £2800), ac fe'i codwyd yn un o bedwar blaenor cychwynnol yr eglwys.<ref>W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf. I (Caernarfon, 1910), t.346</ref> |
Fersiwn yn ôl 10:42, 2 Hydref 2023
Roedd Thomas Williams, a ymddeolodd i plasty Gwylfa, tŷ mawr ar y Lôn Ganol rhwng Glan-rhyd a Llandwrog, yn fab i fasnachwr glo llwyddiannus yn Lerpwl. Fe'i ganed 15 Mawrth 1833[1] yn fab hynaf (o 6 o blant) i Richard a Margaret Williams. Melinydd oedd Richard (g.1807) yn wreiddiol, yn hanu o Gonwy; erbyn 1841 roedd wedi priodi â Margaret, dynes o Sir Fôn, (g.1806), ac erbyn 1833 pan aned Thomas roeddynt yn byw yn Nhŷ'r Felin, Trefriw lle oedd y tad yn felinydd. Roedd y felin ger y cei ar lan Afon Conwy ac yn fuan wedyn symudodd y teulu i Lerpwl lle sefydlodd y tad fusnes glo. Erbyn 1851 roedd y teulu wedi ymsefydlu mewn tŷ syweddol, sef 19 Eldon Place, a'r tad yn cael ei ddisgrifio fel masnachwr glo a meistr 4 o ddynion, a Thomas, 18 oed, yn cael ei ddisgrifio fel cynorthwywr masnachwr glo. Erbyn hyn, enw'r cwmni oedd "Richard Williams a'i fab". Roedd Thomas felly yn berchennog rhannol ar y cwmni. Ffynnodd y busnes ac erbyn 1861 roedd y teulu wedi symud i 180 Vauxhall Road, Lerpwl, a'r tad yn cyflogi 21 o ddynion. Bu farw'r tad rywbryd rhwng 1871 ac 1881.
Rywbryd ar ôl 1861 priododd Thomas a dynes bymtheg mlynedd yn iau nag ef, sef Kate (neu Catherine), a hanodd o Lanystumdwy. Ymsefydlodd y teulu ym Marsh Lane, Walton, West Kirby. Roedd y teulu'n dal yno ym 1871, ond erbyn 1880 a bron yn sicr rai blynyddoedd cyn hynny, roedd Thomas a Kate wedi symud i fferm y Fron, Llanfaglan, lle y disgrifiwyd Thomas fel masnachwr glo, ond yr oedd hefyd yn cyflogi dau was fferm. Tybed nad oedd Kate yn medru ymgynefino a'r ddinas?
Cawsant gartref ysbrydol hapus, mae'n debyg, yng Ngapel Pen-y-graig, Llanfaglan, a chodwyd Thomas yn flaenor yno. Roedd o o'r farn y dylid atgyweirio'r capel a'i helaethu a pherswadiodd aelodau'r capel i glirio'r ddyled oedd ar yr hen adeilad, gan roi £300 at y gwaith o atgyweirio ac ymestyn. Agorwyd y capel ar ei newydd wedd ym 1881 ond roedd dyled sylweddol arno ac yn fuan symudodd Thomas a Catherine i'r Wylfa, gan ymaelodi yn y Bwlan, a gadael dyled o £230 i'r aelodau ym Mhen-y-graig ei thalu - swm a gymerodd tan 1898 iddynt ei glirio.[2]
Rywbryd cyn 1891 roedd y ddau wedi ymsefydlu yn yr Wylfa, gyda Thomas yn dal i fod ynghlwm wrth y busnes glo. Erbyn 1901, ac yntau'n 67 oed, roedd wedi ymddeol ac wedi colli ei wraig gyntaf, Catherine ym 1892.[3] Ym 1895, ail-briododd â Jane, dynes o Fellteyrn, a hithau (fel Catherine) yn 15 mlynedd yn iau nag ef.[4][5]
Ymddengys y bu Thomas Williams, lle bynnag yr oedd yn byw, yn gefnogol i achosion dyngarol a chrefyddol. Fo, i raddau helaeth, oedd yn noddi adeiladu Capel Glan-rhyd (MC), Llanwnda, gan roi'r safle a £1000 at y gwaith (a gostiodd i gyd tua £2800), ac fe'i codwyd yn un o bedwar blaenor cychwynnol yr eglwys.[6]
Bu farw 8 Gorffennaf 1904 ar ôl dioddef iechyd gwael am rai blynyddoedd, a'i gladdu ym Mynwent Bryn'rodyn ar ôl gwasanaeth angladd yn ei gapel, Glan-rhyd. Roedd y nifer helaeth o ddynion a fynychodd yr achlysur yn dyst i'w enw da a'i barch o fewn ei enwad, a daeth nifer o rai dylanwadol o Lerpwl i'r achlysur. Dynion yn unig oedd yn yr angladd, a'i weddw Jane heb fod yn bresennol.[7] Profwyd ei ewyllys yn ddiweddaraach y flwyddyn honno, a chofnodwyd ei fod wedi gadael cyfanswm o eiddo ac arian gwerth £23562. Roedd ei weddw Jane yn cael aros yn Gwylfa am ei hoes ynghyd â derbyn gwaddol o £500 y flwyddyn (onibai ei bod yn ailbriodi - os felly £250 yn unig fyddai'r swm). Aeth gweddill yr eiddo i'w ferch Annie, gwraig ei gyd-ysgutor, Walter E. Lloyd, Lerpwl - yntau'n fasnacahwr glo a hanai o Feidrim, Sir Gaerfyrddin.[8][9]
Cyfeiriadau
- ↑ Plac ar wal Capel Glan-rhyd, Llanwnda
- ↑ W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf. III (Caernarfon, 1915), tt.237-8
- ↑ North Wales Express, 15.7.1892, t.4
- ↑ North Wales Express, 8.3.1895, t.6
- ↑ Cyfrifiadau plwyfi a wardiau Trefriw 1841-51; Scotland, Lerpwl a West Derby, 1851-1881; Llanfaglan, 1881; a Llanwnda, 1891-1901.
- ↑ W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf. I (Caernarfon, 1910), t.346
- ↑ Adroddiadau papur newydd amrywiol, e.e. Y Goleuad, 22.7.1904, t.14
- ↑ Cyfrifiad Toxteth Park, Liverpool, 1901
- ↑ Y Goleuad, 11.11.1904, t.10