Lôn Ganol

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Y Lôn Ganol yw enw pobl Llandwrog a gwaelodion plwyf Llanwnda ar y lôn sy'n rhedeg o dreflan Glan-rhyd heibio'r Parc, Gwylfa a Rhedynog i dreflan Dôl Meredydd ac ymlaen nes ffurfio cyffordd gyda'r lôn sy'n rhedeg heibio Groeslon Ffrwd a'r Bwlan i Cae Halen Mawr, Llandwrog. Dichon mai "Lôn Ganol" yw'r enw gan ei bod yn cynnig ffordd o gyrraedd Llandwrog o gyfeiriad Caernarfon rhwng y lôn bost, sef yr A4871/A499 o Gaernarfon i Bwllheli, a'r lôn o Gaernarfon i Landwrog trwy bentref Saron. Mae'n un o hen lonydd y fro, ac yn ymddangos ar fapiau degwm y ddau blwyf gan ddilyn yr un llwybr â heddiw.