Cymffyrch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Mae ffermydd (neu ffermydd gynt) Tŷ Coch, [[Gwernor]] a Thŷ'n-y-weirglodd yn sefyll wrth ei odre, a thyddyn dadfeiliedig [[Brynllidiart]] ar ei ymyl uchaf. Agorwyd nifer o chwareli ar hyd y llethr, [[Chwarel Gwernor]], [[Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd]], [[Chwarel Dyffryn Nantlle]], [[Chwarel Fronheulog]] a [[Chwarel Tan'rallt]] i enwi'r rhai pwysicaf. Gorchuddir y gwythiennau llechi gan dywodfaen galed arbennig, sef "Gritfaen Cymffyrch" a gydnabyddir gan ddaearegwyr fel math neilltuol o garreg.

Ni cheir yr enw ar fapiau Ordnans, ond mae'n enw digon cyfarwydd  (neu mi roedd ganrif a mwy'n ôl). Er enghraifft, enillodd [[Ceridwen Llyfnwy]] yng Nghyfarfod Llenyddol [[Tan'rallt]] Nadolig 1891 gyda cherdd o'r enw "Ymson y Cymffyrch".<ref>''Cyfaill yr Aelwyd a'r Frythones'', Cyf.I, 2 (Chwefror 1892), tt.41-2</ref>
Ni cheir yr enw ar fapiau Ordnans, ond mae'n enw digon cyfarwydd  (neu mi roedd ganrif a mwy'n ôl). Er enghraifft, enillodd [[Alice Griffith (Ceridwen Llyfnwy)]] yng Nghyfarfod Llenyddol [[Tan'rallt]] Nadolig 1891 gyda cherdd o'r enw "Ymson y Cymffyrch".<ref>''Cyfaill yr Aelwyd a'r Frythones'', Cyf.I, 2 (Chwefror 1892), tt.41-2</ref>

{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 19:28, 9 Rhagfyr 2022

Cymffyrch neu Fynydd y Cymffyrch yw'r enw ar y llethr o dan Ffridd Fain a Chors Fawr i'r de o Afon Llyfnwy, rhwng Bro Silyn a fferm y Ffridd. Weithiau fe'i cyfeirir ato fel "Y Cymffyrch". Llethr ydyw yn hytrach na mynydd gan mai unochrog ydyw, sef yr allt rhwng gwaelod Dyffryn Nantlle a'r rhostir uchel o dan fynyddoedd Crib Nantlle

Mae ffermydd (neu ffermydd gynt) Tŷ Coch, Gwernor a Thŷ'n-y-weirglodd yn sefyll wrth ei odre, a thyddyn dadfeiliedig Brynllidiart ar ei ymyl uchaf. Agorwyd nifer o chwareli ar hyd y llethr, Chwarel Gwernor, Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd, Chwarel Dyffryn Nantlle, Chwarel Fronheulog a Chwarel Tan'rallt i enwi'r rhai pwysicaf. Gorchuddir y gwythiennau llechi gan dywodfaen galed arbennig, sef "Gritfaen Cymffyrch" a gydnabyddir gan ddaearegwyr fel math neilltuol o garreg.

Ni cheir yr enw ar fapiau Ordnans, ond mae'n enw digon cyfarwydd (neu mi roedd ganrif a mwy'n ôl). Er enghraifft, enillodd Alice Griffith (Ceridwen Llyfnwy) yng Nghyfarfod Llenyddol Tan'rallt Nadolig 1891 gyda cherdd o'r enw "Ymson y Cymffyrch".[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Cyfaill yr Aelwyd a'r Frythones, Cyf.I, 2 (Chwefror 1892), tt.41-2