Cigyddion Rhostryfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Am ganrifoedd dibynnai'r mwyafrif o bobl gyffredin ar gig wedi ei halltu dros y gaeaf, a phrin oedd y cig ar eu byrddau beth bynnag. Ond wrth i bobl ennill ychydig mwy o arian at ddiwedd y 19g daeth mwy o alw am gyflenwadau o gig ffres a chyson. Gwelodd rhai hwn fel cyfle i sefydlu busnesau fel cigyddion a dechreuwyd sawl busnes o'r fath yn ardal Rhostryfan fel y disgrifia W. Gilbert Williams yn ei ysgrif '''Lladd-dai Rhostryfan'''.<sup>[1]</sup>
Am ganrifoedd dibynnai'r mwyafrif o bobl gyffredin ar gig wedi ei halltu dros y gaeaf, a phrin oedd y cig ar eu byrddau beth bynnag. Ond wrth i bobl ennill ychydig mwy o arian at ddiwedd y 19g daeth mwy o alw am gyflenwadau o gig ffres a chyson. Gwelodd rhai hwn fel cyfle i sefydlu busnesau fel cigyddion a dechreuwyd sawl busnes o'r fath yn ardal [[Rhostryfan]] fel y disgrifia [[W. Gilbert Williams]] yn ei ysgrif '''Lladd-dai Rhostryfan'''.<ref>W. Gilbert Williams, ''Moel Tryfan i'r Traeth'', (Cyhoeddiadau Mei, 1983), tt.91-97.</ref>


Un cigydd a weithredai yn Rhostryfan tua'r 1860au a'r 1870au oedd Huw Dafydd, Pen y Parc, ond bychan oedd ei fusnes a nifer ei gwsmeriaid. Tipyn mwy llwyddiannus oedd Richard Williams, brodor o Lanbedrog yn Llŷn yn wreiddiol. Trigai i ddechrau yn un o fythynnod Glan Carrog a chododd ladd-dy gerllaw ar ochr y ffordd. Adeilad bychan oedd hwn a byddai'r anifeiliaid yn cael eu lladd yng ngolwg pawb a fyddai'n mynd heibio. Yn ddiweddarach cododd Richard Williams dŷ helaeth yn uwch i fyny'r pentref a'i alw'n Bryn Meillion ac adeiladodd ladd-dy mwy gerllaw hwnnw. Tyfodd ei fusnes yn sylweddol wedyn a danfonai gig ar wahanol ddyddiau i'r ardaloedd cyfagos, fel Rhosgadfan a Bwlch y Llyn. Bu'n masnachu am tua hanner canrif. Un a hyfforddwyd ganddo fel cigydd oedd Robert Jones, Bryn Derwen, a chododd yntau ladd-dy ger ei gartref. Fodd bynnag, fe'i lladdwyd yn y brwydro yn Ffrainc ym 1917.
Un cigydd a weithredai yn Rhostryfan tua'r 1860au a'r 1870au oedd Huw Dafydd, Pen y Parc, ond bychan oedd ei fusnes a nifer ei gwsmeriaid. Tipyn mwy llwyddiannus oedd Richard Williams, brodor o Lanbedrog yn Llŷn yn wreiddiol. Trigai i ddechrau yn un o fythynnod Glan Carrog a chododd ladd-dy gerllaw ar ochr y ffordd. Adeilad bychan oedd hwn a byddai'r anifeiliaid yn cael eu lladd yng ngolwg pawb a fyddai'n mynd heibio. Yn ddiweddarach cododd Richard Williams dŷ helaeth yn uwch i fyny'r pentref a'i alw'n Bryn Meillion ac adeiladodd ladd-dy mwy gerllaw hwnnw. Tyfodd ei fusnes yn sylweddol wedyn a danfonai gig ar wahanol ddyddiau i'r ardaloedd cyfagos, fel [[Rhosgadfan]] a [[Bwlch-y-llyn]]. Bu'n masnachu am tua hanner canrif. Un a hyfforddwyd ganddo fel cigydd oedd Robert Jones, Bryn Derwen, a chododd yntau ladd-dy ger ei gartref. Fodd bynnag, fe'i lladdwyd yn y brwydro yn Ffrainc ym 1917.


Cigydd arall a ddechreuodd fasnachu yn y 1880au oedd Edward Williams, Pen y Lan Isaf, a chododd yntau ladd-dy ger ei gartref. Yn ddiweddarach prynodd fferm Tryfan Fawr a chododd ladd-dy newydd helaeth yno. Bu farw'n gymharol ifanc a chymerwyd y busnes drosodd gan Robert Williams, Tal y Bont. Un arall a fasnachai fel cigydd oedd Thomas Roberts, Meillionydd, Cesarea, a symudodd yn ddiweddarach i gadw busnes ym Mryn Afon, Rhostryfan gyda'i fab-yng-nghyfraith, Thomas Orr. Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd dim ond dau gigydd a geid yn yr ardal - Thomas Roberts, Bryn Eithin, ym Mron Meillion a Thomas Orr ym Mryn Afon.
Cigydd arall a ddechreuodd fasnachu yn y 1880au oedd Edward Williams, Pen y Lan Isaf, a chododd yntau ladd-dy ger ei gartref. Yn ddiweddarach prynodd fferm Tryfan Fawr a chododd ladd-dy newydd helaeth yno. Bu farw'n gymharol ifanc a chymerwyd y busnes drosodd gan Robert Williams, Tal y Bont. Un arall a fasnachai fel cigydd oedd Thomas Roberts, Meillionydd, [[Y Fron|Cesarea]], a symudodd yn ddiweddarach i gadw busnes ym Mryn Afon, Rhostryfan gyda'i fab-yng-nghyfraith, Thomas Orr. Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd dim ond dau gigydd a geid yn yr ardal - Thomas Roberts, Bryn Eithin, ym Mron Meillion a Thomas Orr ym Mryn Afon.


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


1. W. Gilbert Williams, ''Moel Tryfan i'r Traeth'', (Cyhoeddiadau Mei, 1983), tt.91-97.
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Diwydiant a Masnach]]

Fersiwn yn ôl 12:58, 6 Chwefror 2022

Am ganrifoedd dibynnai'r mwyafrif o bobl gyffredin ar gig wedi ei halltu dros y gaeaf, a phrin oedd y cig ar eu byrddau beth bynnag. Ond wrth i bobl ennill ychydig mwy o arian at ddiwedd y 19g daeth mwy o alw am gyflenwadau o gig ffres a chyson. Gwelodd rhai hwn fel cyfle i sefydlu busnesau fel cigyddion a dechreuwyd sawl busnes o'r fath yn ardal Rhostryfan fel y disgrifia W. Gilbert Williams yn ei ysgrif Lladd-dai Rhostryfan.[1]

Un cigydd a weithredai yn Rhostryfan tua'r 1860au a'r 1870au oedd Huw Dafydd, Pen y Parc, ond bychan oedd ei fusnes a nifer ei gwsmeriaid. Tipyn mwy llwyddiannus oedd Richard Williams, brodor o Lanbedrog yn Llŷn yn wreiddiol. Trigai i ddechrau yn un o fythynnod Glan Carrog a chododd ladd-dy gerllaw ar ochr y ffordd. Adeilad bychan oedd hwn a byddai'r anifeiliaid yn cael eu lladd yng ngolwg pawb a fyddai'n mynd heibio. Yn ddiweddarach cododd Richard Williams dŷ helaeth yn uwch i fyny'r pentref a'i alw'n Bryn Meillion ac adeiladodd ladd-dy mwy gerllaw hwnnw. Tyfodd ei fusnes yn sylweddol wedyn a danfonai gig ar wahanol ddyddiau i'r ardaloedd cyfagos, fel Rhosgadfan a Bwlch-y-llyn. Bu'n masnachu am tua hanner canrif. Un a hyfforddwyd ganddo fel cigydd oedd Robert Jones, Bryn Derwen, a chododd yntau ladd-dy ger ei gartref. Fodd bynnag, fe'i lladdwyd yn y brwydro yn Ffrainc ym 1917.

Cigydd arall a ddechreuodd fasnachu yn y 1880au oedd Edward Williams, Pen y Lan Isaf, a chododd yntau ladd-dy ger ei gartref. Yn ddiweddarach prynodd fferm Tryfan Fawr a chododd ladd-dy newydd helaeth yno. Bu farw'n gymharol ifanc a chymerwyd y busnes drosodd gan Robert Williams, Tal y Bont. Un arall a fasnachai fel cigydd oedd Thomas Roberts, Meillionydd, Cesarea, a symudodd yn ddiweddarach i gadw busnes ym Mryn Afon, Rhostryfan gyda'i fab-yng-nghyfraith, Thomas Orr. Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd dim ond dau gigydd a geid yn yr ardal - Thomas Roberts, Bryn Eithin, ym Mron Meillion a Thomas Orr ym Mryn Afon.

Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth, (Cyhoeddiadau Mei, 1983), tt.91-97.