Darlith Flynyddol Llyfrgell Pen-y-groes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Sefydlwyd '''Darlith Flynyddol Llyfrgell Pen-y-groes''' ym 1968, gan Bwyllgor Lleol Pen-y-groes o Lyfrgell Sir Gaernarfon. Ei nod oedd i "gael un gŵr enwog i roi darlith yn flynyddol ar yr hen ardal, sef [[Dyffryn Nantlle]], a chyhoeddi'r ddarlith honno, fel yng nghwrs blynyddoedd y ceir | Sefydlwyd '''Darlith Flynyddol Llyfrgell Pen-y-groes''' ym 1968, gan Bwyllgor Lleol Pen-y-groes o Lyfrgell Sir Gaernarfon. Ei nod oedd i "gael un gŵr enwog i roi darlith yn flynyddol ar yr hen ardal, sef [[Dyffryn Nantlle]], a chyhoeddi'r ddarlith honno, fel yng nghwrs blynyddoedd y ceir cyfrol yn cynnwys hanes pur gyflawn a chywir am y pwnc".<ref>T. Gwilym Pritchard, Rhagair i ddarlith gyhoeddedig 1967 (Caernarfon, 1968)</ref> Cafwyd yr adnoddau i sefydlu'r ddarlith a'i gwaddoli trwy ddefnyddio rhan o gymunrodd sylweddol Mrs [[Elizabeth Hughes]], Arosfa, Pen-y-groes. | ||
Er nad yw'r dyfyniad uchod yn gwneud hynny'n glir, y bwriad o'r cychwyn oedd estyn gwahoddiad ond i'r rhai a hanai o'r Dyffryn a'r pentrefi cyfagos - er bod un neu ddau o "bobl dŵad" wedi cael gwahoddiad erbyn hyn. Gosodwyd y safon yn uchel: ymysg y darlithwyr cynnar yr oedd [[Gwilym R. Jones]], [[Mathonwy Hughes]], [[R. Alun Roberts]], [[John Gwilym Jones]], [[Thomas Parry]], [[Gruffudd Parry]] a [[Kate Roberts]]. Mae traddodwyr y ddarlith yn cael rhyddid i ddewis eu maes, a thra bod rhai wedi cynhyrchu darlith llawn atgofion, aeth eraill ar drywydd | Er nad yw'r dyfyniad uchod yn gwneud hynny'n glir, y bwriad o'r cychwyn oedd estyn gwahoddiad ond i'r rhai a hanai o'r Dyffryn a'r pentrefi cyfagos - er bod un neu ddau o "bobl dŵad" wedi cael gwahoddiad erbyn hyn. Gosodwyd y safon yn uchel: ymysg y darlithwyr cynnar yr oedd [[Gwilym R. Jones]], [[Mathonwy Hughes]], [[R. Alun Roberts]], [[John Gwilym Jones]], [[Thomas Parry]], [[Gruffudd Parry]] a [[Kate Roberts]]. Mae traddodwyr y ddarlith yn cael rhyddid i ddewis eu maes, a thra bod rhai wedi cynhyrchu darlith llawn atgofion, aeth eraill ar drywydd testun arbennig a chyflwyno cyfraniad mwy academig, hanesyddol ei naws. Er bod Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd wedi bod yn gyfrifol ers 1996 am y ddarlith, ni tharddwyd ar y patrwm o wahodd rhywun lleol fel darlithydd, ond erbyn hyn mae trefniadau'r noson ei hun yn nwylo [[Cymdeithas Hanes Dyffryn Nantlle]]. O'r ddarlith gyntaf ymlaen, yr arfer oedd cyhoeddi'r ddarlith (neu fersiwn estynedig ohoni os oedd yn gynnyrch gwaith ymchwil mwy swmpus) ar ffurf pamffledyn, ac mae hyn yn parhau.<ref>Gareth Haulfryn, "Darlithoedd Blynyddol Llyfrgell Pen-y-groes", (''Y Casglwr'', Rhif 60 (1997)), tt.19-20</ref> Ers 2018, mae'r ddarlith hefyd ar gael ar y we ar ffurf e-lyfryn. | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Fersiwn yn ôl 15:38, 7 Ionawr 2022
Sefydlwyd Darlith Flynyddol Llyfrgell Pen-y-groes ym 1968, gan Bwyllgor Lleol Pen-y-groes o Lyfrgell Sir Gaernarfon. Ei nod oedd i "gael un gŵr enwog i roi darlith yn flynyddol ar yr hen ardal, sef Dyffryn Nantlle, a chyhoeddi'r ddarlith honno, fel yng nghwrs blynyddoedd y ceir cyfrol yn cynnwys hanes pur gyflawn a chywir am y pwnc".[1] Cafwyd yr adnoddau i sefydlu'r ddarlith a'i gwaddoli trwy ddefnyddio rhan o gymunrodd sylweddol Mrs Elizabeth Hughes, Arosfa, Pen-y-groes.
Er nad yw'r dyfyniad uchod yn gwneud hynny'n glir, y bwriad o'r cychwyn oedd estyn gwahoddiad ond i'r rhai a hanai o'r Dyffryn a'r pentrefi cyfagos - er bod un neu ddau o "bobl dŵad" wedi cael gwahoddiad erbyn hyn. Gosodwyd y safon yn uchel: ymysg y darlithwyr cynnar yr oedd Gwilym R. Jones, Mathonwy Hughes, R. Alun Roberts, John Gwilym Jones, Thomas Parry, Gruffudd Parry a Kate Roberts. Mae traddodwyr y ddarlith yn cael rhyddid i ddewis eu maes, a thra bod rhai wedi cynhyrchu darlith llawn atgofion, aeth eraill ar drywydd testun arbennig a chyflwyno cyfraniad mwy academig, hanesyddol ei naws. Er bod Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd wedi bod yn gyfrifol ers 1996 am y ddarlith, ni tharddwyd ar y patrwm o wahodd rhywun lleol fel darlithydd, ond erbyn hyn mae trefniadau'r noson ei hun yn nwylo Cymdeithas Hanes Dyffryn Nantlle. O'r ddarlith gyntaf ymlaen, yr arfer oedd cyhoeddi'r ddarlith (neu fersiwn estynedig ohoni os oedd yn gynnyrch gwaith ymchwil mwy swmpus) ar ffurf pamffledyn, ac mae hyn yn parhau.[2] Ers 2018, mae'r ddarlith hefyd ar gael ar y we ar ffurf e-lyfryn.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma