Clynnog Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 14: Llinell 14:
Ymysg y rhai a hanai o'r plwyf neu a drigai ynddo oedd:
Ymysg y rhai a hanai o'r plwyf neu a drigai ynddo oedd:
* [[Ebenezer Thomas (Eben Fardd)]], ysgolfeistr a llenor
* [[Ebenezer Thomas (Eben Fardd)]], ysgolfeistr a llenor
==Y pentref==
Safai'r pentref o bobtu'r lôn bost rhwng Caernarfon a Phwllhei - ond, erbyn hyn, mae ffordd osgoi wedi mynd â'r traffig o ganol y pentref.
Bu nifer o dafarnau a chrefftwyr yma dros y blynyddoedd, ond caewyd y prif westy, sef y Beuno, ychydig flynyddoedd yn ôl. Roedd y swyddfa bost a siop hefyd wedi cau, er bod siop wedi agor mewn garej ar gyrion y pentref erbyn hyn. Am hir, caed llyfrgell bentrefol nad oedd yn perthyn i lyfrgell y sir yn un o ystafelloedd allan yr eglwys.
Prif nodwedd y pentref yw'r eglwys; hefyd ceir [[Ffynnon Beuno]] ychydig i'r de ar ochr y lôn; a [[Cromlech Bachwen|Chromlech Bachwen]]. 


[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Plwyfi hanesyddol]]
[[Categori:Plwyfi hanesyddol]]
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]

Fersiwn yn ôl 18:45, 22 Rhagfyr 2017

Mae Clynnog-fawr yw plwyf mwyaf Uwchgwyrfai o ran arwynebedd. Yn ogystal â phentref Clynnog-fawr ei hun, ger yr eglwys nad yw'n nepell o'r môr, mae'n cynnwys y pentrefi neu threflannau canlynol: Capel Uchaf, Tai'n Lôn, Pontlyfni, Brynaerau, Aberdesach ac, ym mhenucha'r plwyf, Pant-glas, yn ogystal ag ardal fwy gwasgaredig Bwchderwin.

Ffiniau a thirwedd

Mae'n gorwedd i'r de o blwyfi Llandwrog a Llanllyfni (gan godi dros Fynydd Graig Goch hyd at gopa Craig Cwm Dulyn), ac i'r gogledd o blwyf Llanaelhaearn, yn ogystal â ffinio ar nifer o blwyfi Eifionydd, hefyd ar ei ffin ddeheuol.

Yr eglwys a'i sant

Credir i Beuno Sant sefydlu 'clas' neu fynachlog agored yn unol ag arferion yr eglwys Geltaidd, a hynny yn ystod y 7g, o bosibl rhwng 620 a 633. Dyma un o brif gyrchfannau i bererinion ar eu taith i Ynys Enlli, a daeth cyfoeth yn sgil yr ymwelwyr defosiynol - dichon mai hen flwch derw a elwir yn gyff Beuno sydd yn dal yn yr eglwys oedd y blwch offrwm a ddefnyddid i hel cyfraniadau'r pererinion. Gyda chyfoeth o'r fath, codwyd eglwys newydd ar safle hen eglwys Beuno rhwng 1480 a 1500 - ond ar ôl diddymiad y mynachlogydd a sefydliadau pererindota yn y 1530au, dim one fel eglwys y plwyf y defnyddid - ac y defnyddir - yr adeilad.

Mae'r eglwys wedi ei chysegru yn enw Beuno Sant, ei sylfaenydd tybiedig, sydd â sant sydd yn gysylltiedig asawl eglwys arall yng Nghymru, gan gynnwys eglwysi Carnguwch a Phistyll sy'n ffinio ar Uwchgwyrfai, ac eglwys Aberffraw ar draws Bae Caernarfon o Glynnog-fawr ymysg eraill.

Tai a phobl nodedig

Prif dŷ'r plwyf yn yr amser a fu,efallai, oedd Lleuar-fawr. Roedd Mynachdy Gwyn ym mhen ucha'r plwyf, cartref teulu Meredydd neu Feredith hefyd yn fangre o ddylanwad.

Ymysg y rhai a hanai o'r plwyf neu a drigai ynddo oedd:

Y pentref

Safai'r pentref o bobtu'r lôn bost rhwng Caernarfon a Phwllhei - ond, erbyn hyn, mae ffordd osgoi wedi mynd â'r traffig o ganol y pentref.

Bu nifer o dafarnau a chrefftwyr yma dros y blynyddoedd, ond caewyd y prif westy, sef y Beuno, ychydig flynyddoedd yn ôl. Roedd y swyddfa bost a siop hefyd wedi cau, er bod siop wedi agor mewn garej ar gyrion y pentref erbyn hyn. Am hir, caed llyfrgell bentrefol nad oedd yn perthyn i lyfrgell y sir yn un o ystafelloedd allan yr eglwys.

Prif nodwedd y pentref yw'r eglwys; hefyd ceir Ffynnon Beuno ychydig i'r de ar ochr y lôn; a Chromlech Bachwen.