Melinau Afon Llyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 16: | Llinell 16: | ||
* [[Melin-y-Cim]], [[Pontlyfni]] | * [[Melin-y-Cim]], [[Pontlyfni]] | ||
Yr oedd hefyd ddwy felin ar | Yr oedd hefyd ddwy felin ar [[Afon Cwm Dulyn]], un o lednentydd y Llyfni, sef [[Melin Bryn-y-gro]], melin rawn a [[Melin Eisteddfa Isaf]] (Melin goed). | ||
Fersiwn yn ôl 10:27, 21 Ebrill 2021
Roedd melinau Afon Llyfni yn bodoli'n bennaf ar gyfer trin llechfaen yr ardal. Nid oes melin yn cael ei chofnodi ym mhen uchaf Dyffryn Nantlle ond gan fod cymaint o gloddio a gorchuddio'r tir wedi digwydd yn sgîl y diwydiant llechi, dichon fod un neu fwy wedi bodoli yno ar un adeg.
Enw'r afon sydd yn rhedeg i lawr Dyffryn Nantlle o Ddrws-y-coed belled â Llyn Nantlle yw Afon Drws-y-coed, ond mewn gwirionedd blaenddŵr Afon Llyfni yw hi. Gellid felly cyfrif Melin Stampio Drws-y-coed fel un o felinau Afon Llyfni.
Y melinau neu weithfeydd eraill a ddibynnai ar ddŵr yr afon i droi eu peiriannau yn cynnwys (o ben ucha'r afon i gyfeiriad y môr) ac sydd yn ymddangos ar fapiau Ordnans oedd:
- Melin Nantlle
- Gwaith llechi Dorothea, Llanllyfni. Sylwer nad oedd y gwaith hwn wedi ei leoli'n agos at Chwarel Dorothea yn Nhal-y-sarn.
- Ffatri wlân Bryn
- Hen Bandy, Llanllyfni
- Melin Llanllyfni
- Pandy Felin-gerrig
- Melin Glan-yr-afon
- Melin Lleuar - er y gallai hyn fod yn enw hŷn ar Felin Glan-yr-afon, a bwrw bod honno wedi cychwyn fel melin falu grawn.
- Gwaith llechi Pont-y-cim
- Melin-y-Cim, Pontlyfni
Yr oedd hefyd ddwy felin ar Afon Cwm Dulyn, un o lednentydd y Llyfni, sef Melin Bryn-y-gro, melin rawn a Melin Eisteddfa Isaf (Melin goed).
Gweler tudalenni ar wahân am fanylion pob melin, trwy glicio ar yr enw yn y rhestr uchod.