Melin Bryn-y-gro

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Melin Bryn-y-gro ger y fferm o'r un enw ym mhlwyf Clynnog Fawr, (ar y ffin â phlwyf Llanllyfni ond fe'i gosodid ar wahân i'r fferm. Safai ar ochr y lôn o Lanllyfni i gyfeiriad Graeanog, yr ochr arall i'r rheilffordd i fferm Bryn-y-gro. Melin ŷd a drowyd gan ddŵr Afon Gochoer oedd y felin hon, ac roedd ffrwd felin wedi ei gwneud i gludo dŵr yr afon yn uwch i fyny na'r felin i lyn melin. Fe'i dangosir ar fap Ordnans 25" i'r filltir, a gyhoeddwyd ym 1918, fel melin oedd yn dal i droi.

Y cofnod cyntaf am y felin hon yw hwnnw yn y Record of Carnarvon, lle'i nodir fel y felin ar gyfer trigolion Nancall, Caer Du a Bodychain. Dyddiad y cofnod hwn yw 1470.[1]

Ceir sôn wedyn am Felin Bryn-y-gro mewn trosglwyddiad o forgais dyddiedig 1769 i deulu Bulkeley, Baron Hill ger Biwmares. Erbyn hynny, roedd yn rhan o ystad fechan yn cynnwys Graeanog, Bachwen, Henbont a Choch-y-big, ynghyd â'r New Inn ym mhlwyf Clynnog, ychydig o dyddynnod ym mhlwyf Llanllyfni a llawer o dir yn Sir Fôn.[2]

Ym 1865, Richard Parry oedd tenant y felin hon, ynghyd â saith acer o dir. Y perchennog oedd O.J.E. Nanney.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gweler dan Bodellog ar y wefan hon.
  2. Archifdy Caernarfon, X/Poole/3510
  3. Llyfr rhenti plwyf Clynnog Fawr