Melin Eisteddfa Isaf

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Melin Eisteddfa Isaf yn ardal Nasareth, ond ym mhlwyf Clynnog Fawr. Melin lifio coed oedd hi, yn sefyll ar y nant sydd yn rhedeg i lawr o ardal Cors y Llyn ac yn ymuno ag Afon Llyfni ger Dol-gau, sef y nant a ddynodai'r ffin rhwng plwyfi Clynnog Fawr a Llanllyfni. Mae'r adeilad i'w weld ar fapiau Ordnans 1888 hyd 1954, ond dim ond mapiau 25" i'r filltir a gyhoeddwyd ym 1900 a 1918 sy'n nodi ei fod yn felin llifio coed, ac felly ni ellir bod yn sicr pryd y bu'n gweithio y tu allan i'r ystod yna o ddyddiadau.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau