Hen Bandy, Llanllyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae olion adeilad o'r enw Hen Bandy yn cael ei nodi ger Eglwys Sant Rhedyw yn Llanllyfni ac yn agos at Felin-gerrig. Mae bur sicr felly y bu pandy i drin brethynnau yno ar un adeg, a cheir olion ffrwd felin neu binfarch.[1] Mae'n debyg ei fod wedi hen gau erbyn 1889 pan gyhoeddwyd y map Ordnans graddfa fawr cyntaf o'r ardal, ac nid oes sôn amdano mor gynnar â Chyfrifiad 1841. Mae olion y pandy'n dal yng nghanol y cae y tu ôl i'r eglwys, ar ganol y llwybr cyhoeddus sy'n rhedeg o Bont Rectory a'r ffordd fawr i gyfeiriad y ffordd osgoi newydd.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Coflein [1]