Y Gurn Goch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 10: Llinell 10:


{{eginyn}}
{{eginyn}}
[[Cyfeiriadau]]
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 09:47, 3 Ebrill 2021

Pentref bach yw y Gurn Goch ar droed y mynydd o’r un enw, ar y ffordd A499 rhwng Clynnog Fawr a Llanaelhaearn (Caernarfon/Pwlheli).

Afon Hen (neu "Afon Ddalfa") yw’r afon sy’n llifo dan y bont i’r môr yn Aberafon.

Roedd yma felin flawd, tafarn (Sportsman) (hyd at tua diwedd y 19g.) a siop hyd at tua hanner cyntaf yr 20fed ganrif.

Agorwyd Capel Seion y Methodistiaid Calfinaidd ar gwr y pentref yn 1826. Fe’i hailadeiladwyd yn 1875 ond fe’i caewyd yn y flwyddyn 2000. Cyn ei agor arferid addoli yng nghartref Griffith Williams, Hen Derfyn, fferm ar y ffin rhwng plwyfi Clynnog Fawr a Llanaelhaearn.

Yn ei llyfr Sul, Gŵyl a Gwaith ceir hanes yr awdur, Catrin Parri Huws, yn mynd i weld Pistyll Dafn ar Afon Ddalfa, yr ochr uchaf i fferm Cwmgwara. Byddai ymwelwyr yn heidio yno yng nghyfnod ei phlentyndod. “Ymhen blynyddoedd wedi hynny fe geisiais innau fynd â’m plant i weld y rhyfeddod. Ond methiant a fu, oherwydd y dagfa o’r brwgaits tewaf. Ni chlywid ei dinc, hyd yn oed, fel yn yr amser gynt.”[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Catrin Parri Huws, Sul, Gŵyl a Gwaith (Gwasg Gwynedd, 1981).