Thomas Assheton Smith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 7: Llinell 7:
Bu farw yn ei blas, Tedworth, 12 Mai 1828, a dilynwyd ef fel sgweier Y Faenol gan ei [[Thomas Assheton Smith II|fab]] o'r un enw. Roedd hwnnw'n ail fab iddo o'i briodas ag Elizabeth, merch Watkin Wynn o'r Foelas.<ref>Gweler ''Y Bywgraffiadur Cymreig'' ar-lein - erthygl gan Emyr Gwynne Jones</ref>
Bu farw yn ei blas, Tedworth, 12 Mai 1828, a dilynwyd ef fel sgweier Y Faenol gan ei [[Thomas Assheton Smith II|fab]] o'r un enw. Roedd hwnnw'n ail fab iddo o'i briodas ag Elizabeth, merch Watkin Wynn o'r Foelas.<ref>Gweler ''Y Bywgraffiadur Cymreig'' ar-lein - erthygl gan Emyr Gwynne Jones</ref>


Yng nghyd-destun cwmwd [[Uwchgwyrfai]] mae o'n ffigwr hanesyddol o bwys nid yn unig oherwydd ei swyddi sirol, ond hefyd gan ei fod yn dirfeddiannwr o sylwedd yn y cwmwd, ac yn arbennig yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]]. Dichon mai yn ystod ei fywyd fe ddatblygodd [[Gwaith copr Drws-y-coed]] am y tro cyntaf yn y cyfnod modern. Yr oedd ganddo dir ym mhob un o blwyfi Uwchgwyrfai: Tyddyn Mawr, [[Llanaelhaearn]]; [[Hengwm]], [[Clynnog Fawr]]; [[Ffridd Baladeulyn]], [[Tal-y-mignedd Uchaf]] a [[Drws-y-coed]], [[Llanllyfni]]; Coed y brain, Cae bach y Dinas, Cae'r Odyn, Cae Mawr, Gwredog Isaf a Gwredog Uchaf (er mae'n debyg mai Gwredog, plwyf Llanwnda a olygir), [[Llandwrog]]; a Dinas, Tyddyn y Berth, Tŷ Mawr neu Tŷ'n Llan, Wernlas, Cae Hen a Gaerwen, [[Llanwnda]] - yn ôl arolwg o'r ystâd a wnaed tua 1800.<ref>R.O. Roberts, ''Farming in Caernarvonshire around 1800'', (Caernarfon, 1973), tt. 50-5, 88</ref>
Yng nghyd-destun cwmwd [[Uwchgwyrfai]] mae o'n ffigwr hanesyddol o bwys nid yn unig oherwydd ei swyddi sirol, ond hefyd gan ei fod yn dirfeddiannwr o sylwedd yn y cwmwd, ac yn arbennig yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]]. Dichon mai yn ystod ei fywyd fe ddatblygodd [[Gwaith copr Drws-y-coed]] am y tro cyntaf yn y cyfnod modern. Yr oedd ganddo dir ym mhob un o blwyfi Uwchgwyrfai: Tyddyn Mawr, [[Llanaelhaearn]]; [[Hengwm]], [[Clynnog Fawr]]; [[Ffridd Baladeulyn]], [[Tal-y-mignedd Uchaf]] a [[Drws-y-coed]], [[Llanllyfni]]; Coed y brain, Cae bach y Dinas, Cae'r Odyn, Cae Mawr, [[Gwredog]] Isaf a Gwredog Uchaf (er mae'n debyg mai Gwredog, plwyf Llanwnda a olygir), [[Llandwrog]]; a Dinas, Tyddyn y Berth, Tŷ Mawr neu Tŷ'n Llan, Wernlas, Cae Hen a Gaerwen, [[Llanwnda]] - yn ôl arolwg o'r ystâd a wnaed tua 1800.<ref>R.O. Roberts, ''Farming in Caernarvonshire around 1800'', (Caernarfon, 1973), tt. 50-5, 88</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 20:58, 15 Chwefror 2021

Ganwyd Thomas Assheton Smith ym 1752, yn fab i Thomas Assheton, Ashley, sir Gaer. Ychwanegodd yr enw Smith at ei gyfenw pan etifeddodd stadau'r Faenol a Tedworth (Hants) drwy ewyllys ei ewythr, William Smith, mab John Smith, Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, 1705-8.

Mae'r hanes sut y daeth stad Y Faenol - a oedd yn rhan o hen dreftadaeth teulu Williamsiaid Cochwillan ger Llandygái - i ddwylo dieithriaid hollol o Saeson yn un pur anghyffredin. Nid oes unrhyw wybodaeth wedi goroesi bellach i ddangos pam y penderfynodd Syr William Williams, yr olaf o hen deulu Williamsiaid Y Faenol, roi ei holl diroedd yn ei ewyllys, ddyddiedig 25 Mehefin 1695, i Syr Bourchier Wrey, gŵr o gymeriad pur amheus, i'w ddau fab ar ei ôl, ac ar eu hôl hwythau i'r brenin William III. Mae'n amlwg na fu'r tiroedd ym meddiant y teulu Wrey yn hir ac iddynt gael eu trosglwyddo i'r brenin, a thrwy haelioni hwnnw ym 1698 daeth Y Faenol yn eiddo'r John Smith uchod a'i ddisgynyddion am byth.

Felly y daeth hen faenor Dinorwig, sy'n cynnwys bron y cyfan o blwyfi Llanddeiniolen a Llanberis, ynghyd â stadau eraill yn Sir Gaernarfon a Sir Fôn i feddiant Thomas Assheton Smith. Adeiladodd blasty newydd iddo'i hun yn Y Faenol, gan ddisodli'r hen blas o'r unfed ganrif ar bymtheg a oedd yno cynt (ac sy'n dal ar ei draed - sef Hen Neuadd Faenol). Trigai Assheton Smith yn Y Faenol am ran o'r flwyddyn, a'r gweddill ar ei ystad yn Tedworth. Bu'n uchel siryf Sir Gaernarfon 1783-4 ac yn aelod seneddol dros yr un sir o 1774 hyd 1780. Ym 1806 sicrhaodd Ddeddf Seneddol i gau tiroedd comin Llanddeiniolen - deddf a ychwanegodd at ei stad ychydig dros bedair rhan o bump o'r comin, sef 2,692 acer a rhagor, ac a roes iddo hefyd, fel arglwydd maenor Dinorwig, hawl i'r llechi ar y comin. Erbyn hyn roedd Smith yn dechrau sylweddoli y talai iddo ymgymryd â datblygu'r chwareli a oedd ar ei stad. Ym 1809 ffurfiodd gwmni o bedwar o dan ei lywyddiaeth ef, ond ymhen ychydig digwyddodd anghydfod rhwng y partneriaid, a'r diwedd fu iddo ef, ym 1820, afael yn yr awenau ei hun. Cynyddoedd chwarel Dinorwig yn gyflym o'r adeg honno ymlaen; yn ystod y chwe blynedd rhwng 1820 a 1826 cynyddodd nifer y chwarelwyr a weithiai yno o ddau gant i wyth gant, a chynhyrchwyd ugain mil o dunelli o lechi ym 1826. Adeiladodd ffyrdd cymwys i'r pwrpas o gludo'r llechi o Ddinorwig i'r Felinheli, i'w hallforio o'r porthladd newydd ("Port Dinorwic") a gynlluniwyd ganddo yno.

Bu farw yn ei blas, Tedworth, 12 Mai 1828, a dilynwyd ef fel sgweier Y Faenol gan ei fab o'r un enw. Roedd hwnnw'n ail fab iddo o'i briodas ag Elizabeth, merch Watkin Wynn o'r Foelas.[1]

Yng nghyd-destun cwmwd Uwchgwyrfai mae o'n ffigwr hanesyddol o bwys nid yn unig oherwydd ei swyddi sirol, ond hefyd gan ei fod yn dirfeddiannwr o sylwedd yn y cwmwd, ac yn arbennig yn Nyffryn Nantlle. Dichon mai yn ystod ei fywyd fe ddatblygodd Gwaith copr Drws-y-coed am y tro cyntaf yn y cyfnod modern. Yr oedd ganddo dir ym mhob un o blwyfi Uwchgwyrfai: Tyddyn Mawr, Llanaelhaearn; Hengwm, Clynnog Fawr; Ffridd Baladeulyn, Tal-y-mignedd Uchaf a Drws-y-coed, Llanllyfni; Coed y brain, Cae bach y Dinas, Cae'r Odyn, Cae Mawr, Gwredog Isaf a Gwredog Uchaf (er mae'n debyg mai Gwredog, plwyf Llanwnda a olygir), Llandwrog; a Dinas, Tyddyn y Berth, Tŷ Mawr neu Tŷ'n Llan, Wernlas, Cae Hen a Gaerwen, Llanwnda - yn ôl arolwg o'r ystâd a wnaed tua 1800.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gweler Y Bywgraffiadur Cymreig ar-lein - erthygl gan Emyr Gwynne Jones
  2. R.O. Roberts, Farming in Caernarvonshire around 1800, (Caernarfon, 1973), tt. 50-5, 88