Ellen Glynn, Bryn Gwydion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
Erys y cwestiwn: pam oedd hi wedi mynd i Lundain, a pham y cafodd ei chladdu yn Abaty San Steffan, mewn man claddu un o arwyr y Rhyfel Cartref. Mae'n bosibl ei bod wedi dilyn perthynas iddi y Parch. [[Richard Evans]] i Lundain; roedd wedi bod yn ficer [[Llanaelhaearn]] cyn symud i Hendon ger Llundain fel y ficer yno.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.175</ref> Mae'n bosibl ei bod hi wedi taro cyfeillgarwch gyd Gertrude Hotham, gwraig Syr Charles Hotham, Bt. Roedd Gertrude yn ferch i Philip Stanhope, 3ydd Iarll Chesterfield - a mam hwnnw cyn ei phriodi oedd y Fonesig Elizabeth Dormer, merch ail Iarll Caernarfon (neu "Carnarvon" fel y'i sillefid yn ddifael yn y gyd-destun hon). Rhai blynyddoedd ar ôl i Ellen Glynn farw, bu Sir Clement Cottrell Dormer yn benthyg arian ar forgais i deulu [[Glynllifon]] gydag Ystâd Boduan yn wystl. A yw hyn oll yn awgrymu cyd-wneud os nad oeddynt mewn gwirionedd yn aelodau o gymuned ddethol o dras uchel? | Erys y cwestiwn: pam oedd hi wedi mynd i Lundain, a pham y cafodd ei chladdu yn Abaty San Steffan, mewn man claddu un o arwyr y Rhyfel Cartref. Mae'n bosibl ei bod wedi dilyn perthynas iddi y Parch. [[Richard Evans]] i Lundain; roedd wedi bod yn ficer [[Llanaelhaearn]] cyn symud i Hendon ger Llundain fel y ficer yno.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.175</ref> Mae'n bosibl ei bod hi wedi taro cyfeillgarwch gyd Gertrude Hotham, gwraig Syr Charles Hotham, Bt. Roedd Gertrude yn ferch i Philip Stanhope, 3ydd Iarll Chesterfield - a mam hwnnw cyn ei phriodi oedd y Fonesig Elizabeth Dormer, merch ail Iarll Caernarfon (neu "Carnarvon" fel y'i sillefid yn ddifael yn y gyd-destun hon). Rhai blynyddoedd ar ôl i Ellen Glynn farw, bu Sir Clement Cottrell Dormer yn benthyg arian ar forgais i deulu [[Glynllifon]] gydag Ystâd Boduan yn wystl. A yw hyn oll yn awgrymu cyd-wneud os nad oeddynt mewn gwirionedd yn aelodau o gymuned ddethol o dras uchel? | ||
Ond beth oedd y cysylltiad â theulu Monck? Yr oedd [[John Glynn (Y Sarsiant)|Syr John Glynn]] trydydd mab Glynllifon a ymsefydlodd ym Mhenarlâg, yn gyfreithiwr uchel ei statws yn Llundain, ac fel George Monck, | Ond beth oedd y cysylltiad â theulu Monck? Yr oedd [[John Glynn (Y Sarsiant)|Syr John Glynn]] trydydd mab Glynllifon a ymsefydlodd ym Mhenarlâg, yn gyfreithiwr uchel ei statws yn Llundain, ac fel George Monck, y Cadfridog Brenhinol a gefnogodd y Seneddwyr Presbyteraidd yn yr un modd â John Glynn, bu'n un o'r rhai a bwysai ar y brenin Siarl II i ddychwelyd o Ffrainc i Loegr yn dilyn marwolaeth Cromwell a hawlio'r orsedd ym 1660. Os nad oeddynt yn gyd-weithwyr clos wrth wireddu Adferiad y Frenhiniaeth ym 1660, byddai'n amhosibl iddynt beidio ag adnabod ei gilydd. Fel y gwelir o'i hewyllys, roedd gan Ellen Glynn feddwl o'i thras a'i theulu. Ac a oedd teulu Dormer mewn rhyw gyswllt neu'i gilydd gyda theulu Monck? Amhosibl ddweud ond yr oedd ail Iarll Caernarfon, Charles Dormer (1632-1709) yn filwr amlwg ar ochr y Brenin, fel Monck. Oedd y cysylltiad rhwng y teuluoedd yn parhau i gyfrif - ac os felly, a hithau'n ddynes ddibriod yn marw yn Llundain, a gynigiodd teulu Monck fan claddu parchus ar ei chyfer? Mae'n debyg na chawn ni byth ateb, ond mae'r cysylltiadau'n awgrymu un esboniad posibl.<ref>Erthyglau Wikipedia ar y prif gymeriadau a enwir yn y ddwy baragraff hyn.</ref> | ||
Y mai’r adeilad a elwir yn [[Tai Elen Glynn|''Tai Elen Glyn'']] yn sefyll hyd heddiw yn [[Llandwrog]], ond nid hwnnw yw'r elusendai gwreiddiol, er eu bod ar yr un safle. | Y mai’r adeilad a elwir yn [[Tai Elen Glynn|''Tai Elen Glyn'']] yn sefyll hyd heddiw yn [[Llandwrog]], ond nid hwnnw yw'r elusendai gwreiddiol, er eu bod ar yr un safle. |
Fersiwn yn ôl 10:59, 1 Ionawr 2021
Roedd Ellen Glynn (bu farw, mae'n debyg, ar ddechrau 1733) yn ferch Richard Glynne ab William Glynne o Fryn Gwydion, ger Pontlyfni. Er bod ganddi dri brawd, goroesodd Ellen y tri ohonynt, gan etifeddu ystad Bryn Gwydion , sef rhan o hen ystad Plas Newydd. Roedd hi hefyd wedi etifeddu tiroedd Dol y Moch (ger ffestiniog) a thiroedd yng Nghricieth a Phenmorfa, rhan o ystâd Clenennau. Bu farw, mae'n debyg, yn ddibriod, ac iddi yn ei hewyllys ddyddiedig 31 Mawrth 1727, adael rhan helaeth o’i hystâd, sef rhannau o Eithinog Wen a thir Plas Newydd, er mwyn adeiladu elusendai ar gyfer deuddeg o ferched bonheddig a oedd mewn sefyllfa anffodus, megis diffyg arian neu oedd ag angen edrych ar eu hôl.[1] Yn ei geiriau hi, roedd y preswylwyr i fod yn "merched bonheddig dibriod ac bregus ("decayed" yn y gwreiddiol) ac yn hŷn na 50 mlwydd oed" ac roedd blaeoriaeth i'w rhoi i ferched oedd yn perthyn i'w theulu.[2]
Mae'n ymddangos iddi gael ei chladdu yn Abaty San Steffan, 25 Ionawr 1733, yn nghistfedd y Cadlywydd George Monck (1608-1670), er nad yw'r rheswm am hyn yn amlwg. Gadawodd weddill ei hystâd i'r Foneddiges Gertrude Hotham, Catherine Jones a Margaret Lloyd. Penodwyd Hugh Lloyd o Fôn yn ymddiriedolwr ar gyfer sefydlu'r elusendai, ac at y ddiben honno cafodd o Blas Newydd.[3]
Erys y cwestiwn: pam oedd hi wedi mynd i Lundain, a pham y cafodd ei chladdu yn Abaty San Steffan, mewn man claddu un o arwyr y Rhyfel Cartref. Mae'n bosibl ei bod wedi dilyn perthynas iddi y Parch. Richard Evans i Lundain; roedd wedi bod yn ficer Llanaelhaearn cyn symud i Hendon ger Llundain fel y ficer yno.[4] Mae'n bosibl ei bod hi wedi taro cyfeillgarwch gyd Gertrude Hotham, gwraig Syr Charles Hotham, Bt. Roedd Gertrude yn ferch i Philip Stanhope, 3ydd Iarll Chesterfield - a mam hwnnw cyn ei phriodi oedd y Fonesig Elizabeth Dormer, merch ail Iarll Caernarfon (neu "Carnarvon" fel y'i sillefid yn ddifael yn y gyd-destun hon). Rhai blynyddoedd ar ôl i Ellen Glynn farw, bu Sir Clement Cottrell Dormer yn benthyg arian ar forgais i deulu Glynllifon gydag Ystâd Boduan yn wystl. A yw hyn oll yn awgrymu cyd-wneud os nad oeddynt mewn gwirionedd yn aelodau o gymuned ddethol o dras uchel?
Ond beth oedd y cysylltiad â theulu Monck? Yr oedd Syr John Glynn trydydd mab Glynllifon a ymsefydlodd ym Mhenarlâg, yn gyfreithiwr uchel ei statws yn Llundain, ac fel George Monck, y Cadfridog Brenhinol a gefnogodd y Seneddwyr Presbyteraidd yn yr un modd â John Glynn, bu'n un o'r rhai a bwysai ar y brenin Siarl II i ddychwelyd o Ffrainc i Loegr yn dilyn marwolaeth Cromwell a hawlio'r orsedd ym 1660. Os nad oeddynt yn gyd-weithwyr clos wrth wireddu Adferiad y Frenhiniaeth ym 1660, byddai'n amhosibl iddynt beidio ag adnabod ei gilydd. Fel y gwelir o'i hewyllys, roedd gan Ellen Glynn feddwl o'i thras a'i theulu. Ac a oedd teulu Dormer mewn rhyw gyswllt neu'i gilydd gyda theulu Monck? Amhosibl ddweud ond yr oedd ail Iarll Caernarfon, Charles Dormer (1632-1709) yn filwr amlwg ar ochr y Brenin, fel Monck. Oedd y cysylltiad rhwng y teuluoedd yn parhau i gyfrif - ac os felly, a hithau'n ddynes ddibriod yn marw yn Llundain, a gynigiodd teulu Monck fan claddu parchus ar ei chyfer? Mae'n debyg na chawn ni byth ateb, ond mae'r cysylltiadau'n awgrymu un esboniad posibl.[5]
Y mai’r adeilad a elwir yn Tai Elen Glyn yn sefyll hyd heddiw yn Llandwrog, ond nid hwnnw yw'r elusendai gwreiddiol, er eu bod ar yr un safle.
Roedd Ellen Glynn yn ddisgynnydd i deulu Plas Newydd ac felly yn gyfnither o bell i deulu Glynllifon, ond ni ddylid ei chymysgu gyda Ellen Glynn, un o ferched John Glynn (yr olaf) a farwodd yn ddibriod ym 1711 - fel y dywedir uchod.[6]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ J. Jones (Llanllyfni), Carn y Gewach, yn Y Brython, 16 Gorffennaf 1858, t.89
- ↑ A to Z of Westminster Abbey, Gwefan Abaty San Steffan, [1], cyrchwyd 31.12.2020
- ↑ A to Z of Westminster Abbey, Gwefan Abaty San Steffan, [2], cyrchwyd 31.12.2020. Dalier sylw: mae llawer o'r ffeithiau eraill amdani ar y wefan yn anghywir, gan fod yr awdur wedi ei chymysgu gyda Ellen Glynn, merch John Glynn, a fu farw ym 1711.
- ↑ J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.175
- ↑ Erthyglau Wikipedia ar y prif gymeriadau a enwir yn y ddwy baragraff hyn.
- ↑ J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt. 30, 172-3, 266. Mae peth amwysedd, fodd bynnag, ynglŷn adyddiadau a chyfenwau teulu Elernion Bryn Gwydion, a bydd angen mwy o ymchwil i ddeall y berthynas rhyngddynt yn iawn.