Llyn y Dywarchen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Hebog (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Hebog (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Stori a adroddir am hwn ynghyd â nifer o lynnoedd eraill, oedd i fugail ieuanc weld merch o'r Tylwyth Teg yn dawnsio ar lan y llyn. Syrthiasant mewn cariad a phriodi, ond ar yr amod na fyddai byth yn ei tharo â haearn. Un diwrnod gwnaeth hynny, a diflannodd y ferch. | Stori a adroddir am hwn ynghyd â nifer o lynnoedd eraill, oedd i fugail ieuanc weld merch o'r Tylwyth Teg yn dawnsio ar lan y llyn. Syrthiasant mewn cariad a phriodi, ond ar yr amod na fyddai byth yn ei tharo â haearn. Un diwrnod gwnaeth hynny, a diflannodd y ferch. | ||
Codwyd tŷ gan deulu [[Drws-y-coed]] yn agos at lle saif y dam presennol ar gyfer [[Morafiaid Drws-y-coed|carfan o gristnogion Morafaidd]] a fu dan erledigaeth ac a ymsefydlodd yn yr ardal. Roedd yr adeilad yn sefyll hyd yn ddiweddar, er yn adfail. Dyma oedd ffermdy [[Drws-y-coed Uchaf]] wedyn, hyd nes y codwyd tŷ modern islaw. Erbyn hyn mae'r safle'n faes parcio bychan. | |||
Mae'r llyn yn arbennig o boblogaidd gyda physgotwyr. | Mae'r llyn yn arbennig o boblogaidd gyda physgotwyr. |
Fersiwn yn ôl 19:59, 12 Tachwedd 2020
Mae Llyn y Dywarchen bellach ym mhlwyf Beddgelert ond arferai fod o fewn ffiniau plwyf Llanwnda ac felly o fewn Uwchgwyrfai. Cafodd ei ehangu i ddiwallu anghenion gweithiau mwynau a chwareli llechi am ddŵr, gan droi'r llif, a oedd gynt yn rhedeg i Afon Llyfnwy i gyfeiriad Dyffryn Gwyrfai.[1] Serch hyn, mae'r llyn yn ei hanfod yn un naturiol ac â hanes hir iddo, gan fod Gerallt Cymro yn cyfeirio at y llyn a'r hanes o ynys o dyweirch oedd yn arnofio ar ei wyneb, gan symud o lan i lan ar draws y llyn, a hynny mor gynnar â 1188. Tua 600 mlynedd wedyn, honodd Thomas Pennant iddo weld yr un ffenomen ar waith. Y cyfeiriad olaf at weld yr ynys arnofiol hon oedd ym 1931.
Stori a adroddir am hwn ynghyd â nifer o lynnoedd eraill, oedd i fugail ieuanc weld merch o'r Tylwyth Teg yn dawnsio ar lan y llyn. Syrthiasant mewn cariad a phriodi, ond ar yr amod na fyddai byth yn ei tharo â haearn. Un diwrnod gwnaeth hynny, a diflannodd y ferch.
Codwyd tŷ gan deulu Drws-y-coed yn agos at lle saif y dam presennol ar gyfer carfan o gristnogion Morafaidd a fu dan erledigaeth ac a ymsefydlodd yn yr ardal. Roedd yr adeilad yn sefyll hyd yn ddiweddar, er yn adfail. Dyma oedd ffermdy Drws-y-coed Uchaf wedyn, hyd nes y codwyd tŷ modern islaw. Erbyn hyn mae'r safle'n faes parcio bychan.
Mae'r llyn yn arbennig o boblogaidd gyda physgotwyr.
Ar un adeg roedd nant yn llifo o'r llyn tua'r gorllewin ar hyd Dyffryn Nantlle, ond ers i'r argae gael ei adeiladu mae nant yn llifo i lawr i Lyn y Gader ac Afon Gwyrfai.[2]