Mynachdy Gwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2: Llinell 2:
[[Delwedd:Monachdy Gwyn o'r allt.jpg|bawd|300px|de|Mynachdy Gwyn gyda Mynydd Cennin yn y cefndir]]
[[Delwedd:Monachdy Gwyn o'r allt.jpg|bawd|300px|de|Mynachdy Gwyn gyda Mynydd Cennin yn y cefndir]]


Mae '''Mynachdy Gwyn''', hen gartref teulu Meredyddiaid yn y 16-18g, yn rhan uchaf plwyf [[Clynnog Fawr]], nid nepell â'r ffin ag Eifionydd, ar waelod llethrau [[Bwlch Mawr]]  ger fferm [[Cwm]]. Dywedir bod cofnod o Fynachdy Gwyn yn y flwyddyn 616 OC pan sefydlwyd mynachlog yno gan ddisgybl i [[Sant Beuno]] o’r enw [[Sant Gwyddaint]]. Gellir dychmygu mynachlog ar y safle, sydd mewn pant cyfforddus wedi ei warchod gan y [[Bwlch Mawr]] a Phen y Gaer, gyda’r [[Afon Wen]] yn treiglo heibio a sylfaen o garreg oddi tani.
Mae '''Mynachdy Gwyn''', hen gartref teulu Meredyddiaid yn y 16-18g, yn rhan uchaf plwyf [[Clynnog Fawr]], nid nepell â'r ffin ag Eifionydd, ar waelod llethrau [[Bwlch Mawr]]  ger fferm [[Cwm]]. Dywedir bod cofnod o Fynachdy Gwyn yn y flwyddyn 616 OC pan sefydlwyd mynachlog yno gan ddisgybl i [[Sant Beuno]] o’r enw [[Gwyddaint]]. Gellir dychmygu mynachlog ar y safle, sydd mewn pant cyfforddus wedi ei warchod gan y [[Bwlch Mawr]] a Phen y Gaer, gyda’r [[Afon Wen]] yn treiglo heibio a sylfaen o garreg oddi tani.


Adnewyddwyd y fynachlog ar un adeg ar gyfer y Mynaich Gwyn.  Mae’n bosibl i’r mynaich hyn fod yno hyd nes y dinistriwyd eu mam-Eglwys yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog]] yn 979 OC.
Adnewyddwyd y fynachlog ar un adeg ar gyfer y Mynaich Gwyn.  Mae’n bosibl i’r mynaich hyn fod yno hyd nes y dinistriwyd eu mam-Eglwys yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog]] yn 979 OC.

Fersiwn yn ôl 10:57, 20 Ionawr 2021

Mynachdy Gwyn gyda Mynydd Cennin yn y cefndir

Mae Mynachdy Gwyn, hen gartref teulu Meredyddiaid yn y 16-18g, yn rhan uchaf plwyf Clynnog Fawr, nid nepell â'r ffin ag Eifionydd, ar waelod llethrau Bwlch Mawr ger fferm Cwm. Dywedir bod cofnod o Fynachdy Gwyn yn y flwyddyn 616 OC pan sefydlwyd mynachlog yno gan ddisgybl i Sant Beuno o’r enw Gwyddaint. Gellir dychmygu mynachlog ar y safle, sydd mewn pant cyfforddus wedi ei warchod gan y Bwlch Mawr a Phen y Gaer, gyda’r Afon Wen yn treiglo heibio a sylfaen o garreg oddi tani.

Adnewyddwyd y fynachlog ar un adeg ar gyfer y Mynaich Gwyn. Mae’n bosibl i’r mynaich hyn fod yno hyd nes y dinistriwyd eu mam-Eglwys yng Nghlynnog yn 979 OC.

Mae’r cyfeiriad nesaf at Fynachdy yn gysylltiedig â Llywelyn Fawr a oedd erbyn hyn yn berchen ar diroedd trefgordd Cwm a oedd yn cynnwys Hengwm, Sychnant, Tyddyn Ithel, Tyddyn Mawr, Bryn Brych a’r Gyfelog. Fe’i rhoddodd i’r mynaich yn Abaty Aberconwy.

Ar ôl Diddymu’r Mynachlogydd yn 1536, rhoddwyd y faenor gan y Goron i Syr John Puleston. Ar yr un adeg fodd bynnag, roedd Thomas ap Gruffith ap Jenkyn ap Rhys wedi prynu les ar drefgordd Cwm ac wedi symud yno gyda’i deulu i fyw. Byddai ei ddisgynyddion ef yn ymgartrefu ym Mynachdy. Yn gynnar yn y 17g, ceir hanes Humphrey Meredydd, sef ŵyr Thomas ap Gruffith, yn byw ym Mynachdy. Bu ef yn siryf ar y sir yn 1614. Aeth ei frawd, Owen Meredydd, i astudio yng Ngholeg All Souls gan ennill gradd BD yn 1591. Mae cerrig cerfiedig hardd ei feddrod o hyd oddi fewn i Eglwys Llanwnda yn Dinas. Mae cofebion i ddau arall o'r teulu yn y 17g, Gaynor Meredydd a Huw Meredydd ei gŵr (a fu farw 1670) yn Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr.[1]

Roedd y teulu'n dirfeddianwyr o sylwedd, ond heb fod ymysg y rhai mwyaf sylweddol. Bu rhai o blant y teulu fodd bynnag yn priodi aelodau o un o deuluoedd mwyaf y fro, sef Teulu Glyn (Glynllifon), Pennarth a Madryn, efallai er mwyn cryfhau'r rhwydwaith o deyrngarwch a dibyniaeth a fyddai'n ychwanegu at ddylanwad Glynllifon ymysg mân-fonheddwyr y fro.

Mae’n debyg i’r tŷ presennol gael ei adeiladu tua 1840 gan gadw rhai o’r waliau gwreiddiol, ac yn dyddio'n ôl i'r 16g.[2]

Dros amser, daeth ffermio yn rhan sylfaenol o fodolaeth ym Mynachdy ac ystad Aberdeunant a oedd yn berchen arno olaf. Dywedir ar lafar fod cyfamod na ddylid aredig un cae arbennig ac ni wnaed hyn ers i Sarach Davies symud yno ym 1935.[3]

Cyfeiriadau

  1. CHC, op.cit., t.40
  2. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf. 2, t. 45
  3. Mae llawer o'r erthygl hon wedi ei gymryd o nodiadau a wnaed gan Sarach Davies ar gyfer arddangosfa yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai.