Teulu Glynllifon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Mae '''Teulu Glynllifon''' yn un o'r teuluoedd mwyaf hirhoedlog ymysg uchelwyr cwmwd [[Uwchgwyrfai]], gyda'u hachau'n ymestyn yn ôl yn gadarn i rai o uchelwyr dan y Tywysogion Cymreig. Yn ystod y 16g. fe mabwysiadodd y teulu'r cyfenw "Glynn" (neu "Glyn" neu ''Glynne'' - roedd y sillafiad yn newid o un ddogfen i'r nesaf fel oedd yn arferol cyn sefydlu orthograffeg enwau). Roedd hyn yn dilyn yr arfer dan brenhinoedd y Tuduriaid i gydymffurfio ag arferion Seisnig eu cymheiriaid yn Lloegr. | Mae '''Teulu Glynllifon''' yn un o'r teuluoedd mwyaf hirhoedlog ymysg uchelwyr cwmwd [[Uwchgwyrfai]], gyda'u hachau'n ymestyn yn ôl yn gadarn i rai o uchelwyr dan y Tywysogion Cymreig. Yn ystod y 16g. fe mabwysiadodd y teulu'r cyfenw "Glynn" (neu "Glyn" neu ''Glynne'' - roedd y sillafiad yn newid o un ddogfen i'r nesaf fel oedd yn arferol cyn sefydlu orthograffeg enwau). Roedd hyn yn dilyn yr arfer dan brenhinoedd y Tuduriaid i gydymffurfio ag arferion Seisnig eu cymheiriaid yn Lloegr. | ||
Methodd y llinach trwy'r ochr wryw | Methodd y llinach trwy'r ochr wryw ar farwolaeth [[John Glynn (yr olaf)|John Glynn]] ym 1686, a bu i ferch hynaf y plas briodi aelod o deulu Boduan, Llŷn oedd yn arddel y cyfenw "Wynn" ym 1700.<ref>W. Gilbert Williams, ''Glyniaid Glynllifon'' (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.36</ref> Ers yr adeg honno, Wynn yw cyfenw'r teulu. Ers 1776, mae mab hynaf y teulu wedi etifeddu teitl, sef [[Arglwyddi Newborough|Arglwydd Newborough]]. Mae yna Arglwydd Newborough o hyd, sydd yn dal i fod yn berchennog ar dir yn Uwchgwyrfai.<ref>Mae'r brif ffeithiau yn yr erthygl hon i'w canfod yn J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.172-3</ref> | ||
==Penteuluoedd Glynllifon== | ==Penteuluoedd Glynllifon== | ||
Llinell 35: | Llinell 35: | ||
* [[Syr William Glynn]], Uchel Siryf Môn 1597, a wnaed yn farchod ym 1606 yn sgil ei lwyddiant fel milwr yn Iwerddon. Yn marw 1620 | * [[Syr William Glynn]], Uchel Siryf Môn 1597, a wnaed yn farchod ym 1606 yn sgil ei lwyddiant fel milwr yn Iwerddon. Yn marw 1620 | ||
* [[Thomas Glynn, AS a botanegydd|Thomas Glynn]], Uchel Siryf Sir Gaernarfon 1622, Aelod Seneddol sawl gwaith o 1623 -1640. Botanegydd cynnar. Yn marw 1647 | * [[Thomas Glynn, AS a botanegydd|Thomas Glynn]], Uchel Siryf Sir Gaernarfon 1622, Aelod Seneddol sawl gwaith o 1623 -1640. Botanegydd cynnar. Yn marw 1647 | ||
* [[John Glynn (yr olaf)|John Glynn]], a aned tua 1644; Uchel Siryf Sir Gaernarfon 1668-9. Fe briododd Elizabeth, merch Syr Hugh Owen, Orielton, Sir Benfro | * [[John Glynn (yr olaf)|John Glynn]], a aned tua 1644; Uchel Siryf Sir Gaernarfon 1668-9. Fe briododd Elizabeth, merch Syr Hugh Owen, Orielton, Sir Benfro. Yn marw 1686. | ||
Ni chafodd fab i'w olynu; priododd yr hynaf o'i ddwy ferch, Frances Glynn â Thomas Wynn, Boduan, Pen Llŷn | Ni chafodd fab i'w olynu; priododd yr hynaf o'i ddwy ferch, Frances Glynn â Thomas Wynn, Boduan, Pen Llŷn | ||
Fersiwn yn ôl 11:01, 21 Ionawr 2020
Trosolwg
Mae Teulu Glynllifon yn un o'r teuluoedd mwyaf hirhoedlog ymysg uchelwyr cwmwd Uwchgwyrfai, gyda'u hachau'n ymestyn yn ôl yn gadarn i rai o uchelwyr dan y Tywysogion Cymreig. Yn ystod y 16g. fe mabwysiadodd y teulu'r cyfenw "Glynn" (neu "Glyn" neu Glynne - roedd y sillafiad yn newid o un ddogfen i'r nesaf fel oedd yn arferol cyn sefydlu orthograffeg enwau). Roedd hyn yn dilyn yr arfer dan brenhinoedd y Tuduriaid i gydymffurfio ag arferion Seisnig eu cymheiriaid yn Lloegr.
Methodd y llinach trwy'r ochr wryw ar farwolaeth John Glynn ym 1686, a bu i ferch hynaf y plas briodi aelod o deulu Boduan, Llŷn oedd yn arddel y cyfenw "Wynn" ym 1700.[1] Ers yr adeg honno, Wynn yw cyfenw'r teulu. Ers 1776, mae mab hynaf y teulu wedi etifeddu teitl, sef Arglwydd Newborough. Mae yna Arglwydd Newborough o hyd, sydd yn dal i fod yn berchennog ar dir yn Uwchgwyrfai.[2]
Penteuluoedd Glynllifon
Y Glynniaid
Yr achres gynnar, lled ansicr
- Cilmin Droed-ddu, sylfaenydd y teulu a'i gyfoeth yn ôl y chwedl
- Lleon
- Llowarch
- Iddig
- Iddon
- Dyfnaint
- Gwrydyr
Yr achres weddol gadarn o ddiwedd y 13g ymlaen
- Ednowain, y ffigwr hanesyddol sicr cyntaf yn yr achres, trydydd fab Gwrydyr yn ôl yr achresi. Roedd ei frawd hŷn, Morgeneu Ynad, ail fab Gwrydyr, yn hen hen hen hen daid i Morfudd ferch Hywel a briododd Tudur Goch o Blas Nantlle.
- Ystrwyth ab Ednowain
- Iorwerth Goch
- Ieuan ab Iorwerth
- Einion ab Ieuan, a briododd Efa, merch ac etifeddes Ifan ap Trahaearn ab Iorwerth o'r Garthmyl, Sir Drefaldwyn
- Goronwy ab Einion, a briododd Generis ferch Gwyn ab Ednowain ab Eginir ap Meredydd ap Collwyn
- Tudur Goch o Blas Nantlle, a briododd Morfudd ferch Hywel, ei chyfnither o'r chweched ach, sef ei chweched cyfnither. Roedd hi'n gyd-etifeddes cangen Morgeneu Ynad o deulu Cilmin Droed-ddu, ac felly daeth ddwy ran o etifeddiaeth Cilmin (a bwrw bod Cilmin yn berson go iawn) at ei gilydd, gan gryfhau eiddo'r teulu.
Y teulu a y gwyddys yn sicr eu bod yn byw yng Nglynllifon
- Hwlcyn Llwyd, y cyntaf i'w ddisgrifio fel "o Lynllifon". Priododd Nest ferch Cynwrig ap Meredydd Ddu, Porthamel, Môn
- Meredydd ap Hwlcyn, yn fyw ym 1456
- Robert ap Meredydd, yn fyw ym 1440
- Edmund Llwyd, yn marw ym 1540 yn ystod ei flwyddyn fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon. Fo oedd ail fab Robert ap Meredydd; roedd ei frawd hŷn, a fabwysiadwyd y cyfenw Glynn am y tro cyntaf yn y teulu mae'n debyg, yn offeiriad Catholig ac yn Archddiacon Meirionnydd, ac felly'n anghymwys i etifeddu ystâd
- William Glynn, Uchel Siryf Sir Gaernarfon 1562
- Thomas Glynn, Uchel Siryf Ynys Môn, 1584, gŵr Catherine, merch ac aeres John ap Richard ap Morris o'r Glynn, Llanfwrog, Môn - a ddaeth â thiroedd Môn i'r ystâd
- Syr William Glynn, Uchel Siryf Môn 1597, a wnaed yn farchod ym 1606 yn sgil ei lwyddiant fel milwr yn Iwerddon. Yn marw 1620
- Thomas Glynn, Uchel Siryf Sir Gaernarfon 1622, Aelod Seneddol sawl gwaith o 1623 -1640. Botanegydd cynnar. Yn marw 1647
- John Glynn, a aned tua 1644; Uchel Siryf Sir Gaernarfon 1668-9. Fe briododd Elizabeth, merch Syr Hugh Owen, Orielton, Sir Benfro. Yn marw 1686.
Ni chafodd fab i'w olynu; priododd yr hynaf o'i ddwy ferch, Frances Glynn â Thomas Wynn, Boduan, Pen Llŷn
Dyma'r llinach wryw wreiddiol a feddianodd Glynllifon rywbryd yn ystod y Canol Oesoedd Cynnar nes i'r llinach wryw fethu yn niwedd y 17g. Fe restrir y penteuluoedd yn nhrefn amser. Mae erthyglau unigol yn Cof y Cwmwd am y rhai mwyaf nodedig ohonynt.
Y Wynniaid
- Syr Thomas Wynn (1678-1749), Aelod Seneddol, barwnig o Foduan a wnaeth Plas Glynllifon yn brif annedd y teulu wedi iddo a'i wraig Frances Glynn etifeddu'r ystad ar farwolaeth John Glynn.
- Syr John Wynn (1701-1773), yr ail farwnig, Aelod Seneddol. Fe briododd Jane, merch John Wynne o'r Melai, LLanfair Talhaearn ac Abaty Maenan, gan gymryd yr ystadau hynny i mewn i Ystad Glynllifon
- Syr Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough (1736-1807), y trydydd farwnig a wnaed yn farwn yn yr Arglwyddiaeth Wyddelig. Fe briododd merch Iarll Egmont, ac wedyn Maria Stella
- Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough, 1802-1832, Aelod Seneddol 1826 dros Fwrdeistrefi Caernarfon. Bu farw'n ddibriod ac fe'i olynwyd gan ei frawd
- Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough (1803-1888)
- Frederick George Wynn (1853-1920), pedwerydd mab Spencer Bulkeley, a etifeddodd Glynllifon a Boduan gan ei dad. Ni briododd. Dyma'r aelod olaf o'r teulu i fyw'n barhaol yng Nglynllifon. Wedi ei farwolaeth, defnyddid y plas gan y teulu fel tŷ ar gyfer ymweliadau achlysrol, gwyliau a phartïon saethu, er bod llawer o'r ystad yn dal yn eu meddiant - hyd yn oed heddiw.