Cwm (trefgordd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
B Symudodd Heulfryn y dudalen Cwm i Cwm (trefgordd)
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 11:42, 26 Mehefin 2020

Rhoddwyd trefgordd Cwm yn ardal mynyddoedd Gurn Ddu a Bwlch Mawr i fynaich Sistersaidd Aberconwy gan Gruffydd ap Cynan tua 1186 wrth iddynt ymsefydlu yn Rhedynog Felen ac wedyn Aberconwy., ac fe gadarnhawyd y rhodd gan siartr Llywelyn ab Iorwerth tua 10 mlynedd yn diweddarach.[1] Roedd y mynaich hyn hefyd yn berchen ar lluest neu ffermdir Rhedynog Felen yn nhrefgordd Dinlle. Parhaodd yr ardal ym meddiant y Sistersiaid hyd nes i'r mynachlogydd gael eu diddymu yn y 1530au.

Saif ffermdy Cwm heddiw ar ochr y ffordd uchaf ar hyd llethr ddwyreiniol Bwlch Mawr, nid nepell o Hengwm a Mynachdy Gwyn, ond yr oedd ffiniau'r hen drefgordd yn fwy helaeth o lawer. Mae'n bosibl iawn fod Clawdd Seri, hen glawdd ffin sy'n rhedeg dros ardal o'r mynydd a elwir yn Clipiau yn ffin tiroedd yr abaty. Yn ôl Dr Colin Gresham, a gyhoeddod fap o'r ffiniau, mae'r ffin yn rhedeg o aber dwy nant fechan i'r gorllewin o'r Felog neu Gyfelog ac ymlaen i'r gorllewin ychydig i'r gogledd o Hengwm, i fyny llethr Mynydd Bwlch Mawr trwy'r Seler Ddu nes gyrraedd Clawdd Seri. Ar hyd hwnnw, sydd yn troi i gyfeiriad y de. Ymlaen wedyn i lawr Sychnant rhwng [[Moel Bronmiod a Phen-y-gaer, ac i lawr Cwm Ceiliog. Rhywle rhwng ffermydd presennol Cwm Ceiliog ac Ynys Goch, cyrddai â sarn a arweiniai at lednant a oedd yn ymuno ag Afon Carrog. Rhedai'r ffin wedyn tua'r gogledd ar hyd Afon Carrog nes cyrraedd y gors ger Bryn-brych ac wedyn o darddiad Afon Desach ymlaen tua'r gogledd nes cyrraedd yr aber ger Gyfelog lle cychwynnodd y disgrifiad hwn o'r ffin.[2]

Mae cryn nifer o olion o amaethu a thai fferm cyfnod y Canol Oesoedd hwyr i'w gweld, yn arbennig ar lethrau dwyreiniol Bwlch Mawr a llethrau Moel Bronmiod.[3]

Erbyn hyn mae Cwm yn ffurfio rhannau mwyaf deuheuol plwyfi Llanaelhaearn a Chlynnog Fawr.


Cyfeiriadau

  1. Colin Gresham, The Aberconwy Charter, (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939), tt.123-4
  2. Colin Gresham, The Aberconwy Charter, (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939), t.136
  3. David M. Brown a Stephen Hughes, (gol.), The Archaeology of the Welsh Uplands (Aberystwyth, 2003), t.77 (Katherine Geary, Moel Bronymiod)