Afon Carrog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae tarddle '''Afon Carrog''' yn y bryniau isel i'r de o bentref Rhostryfan gerllaw [[Plas Tryfan]]. Yn ol y mapiau Ordnans, (ac yn ôl yr enwau a ddefnyddir gan bobl heddiw) mae Afon Carrog yn ymuno ag [[Afon Gwyled]] o dan y bont yn y [[Dolydd]] ac yn ffurfio'r ffin yn yr ardal honno rhwng plwyfi [[Llandwrog]] a [[Llanwnda]]. Os yw [[W. Gilbert Williams]] yn gywir, fodd bynnag, ''Carrog'' oedd enw'r afon sy'n llifo heibio i fferm [[Cefn Hendre]] a'r Afon Wyled go iawn yw'r afon a elwir yn [[Afon Rhyd]] erbyn hyn. Er bod peth cymysgedd rhwng enwau'r ddwy afon, (mae [[Pont Wyled]] yw enw'r bont dros yr afon ar yr A499 (lôn bost Pwllheli), derbynnir fel arfer mai Afon Carrog yw enw'r afon o ble mae'r ddwy'n ymuno hyd at yr aber ym mhen draw [[Y Foryd]]. Mae'r enw ''Aber Carrog'' yn ymddangos mor gynnar â'r 13g. yn Siartr Mynachlog Aberconwy, lle mae'n ymuno â'r Afon Wyled nid nepell o [[Morfa Dinlle|Forfa Dinlle]].<ref>W. Gilbert Williams, ''Moel Tryfan i'r Traeth'', (Pen-y-groes, 1983), t.16-17.</ref> Mae cwrs yr afonydd hyn wedi ei newid adeg cau Morfa Dinlle ddechrau'r 19g, ac nid yw'n amlwg bellach lle yn union yr oedd Abercarrog yn y dechrau. Er bod ceunentydd ar hyd yr afon ger [[Hen Gastell]] a [[Dôl Meredydd]], nid oes hanes bod melinau wedi bod ar yr afon. Hyd yr afon yw tua 4 milltir.

Yn y Canol Oesoedd, gelwid [[Afon Wen (Clynnog Fawr)|Afon Wen]] sy'n codi yn ardal [[Bwlch Derwin]] yn ''Afon Carrog'', er collwyd yr enw hwnnw ar yr afon ers canrifoedd.

{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 12:53, 29 Ionawr 2020

Mae tarddle Afon Carrog yn y bryniau isel i'r de o bentref Rhostryfan gerllaw Plas Tryfan. Yn ol y mapiau Ordnans, (ac yn ôl yr enwau a ddefnyddir gan bobl heddiw) mae Afon Carrog yn ymuno ag Afon Gwyled o dan y bont yn y Dolydd ac yn ffurfio'r ffin yn yr ardal honno rhwng plwyfi Llandwrog a Llanwnda. Os yw W. Gilbert Williams yn gywir, fodd bynnag, Carrog oedd enw'r afon sy'n llifo heibio i fferm Cefn Hendre a'r Afon Wyled go iawn yw'r afon a elwir yn Afon Rhyd erbyn hyn. Er bod peth cymysgedd rhwng enwau'r ddwy afon, (mae Pont Wyled yw enw'r bont dros yr afon ar yr A499 (lôn bost Pwllheli), derbynnir fel arfer mai Afon Carrog yw enw'r afon o ble mae'r ddwy'n ymuno hyd at yr aber ym mhen draw Y Foryd. Mae'r enw Aber Carrog yn ymddangos mor gynnar â'r 13g. yn Siartr Mynachlog Aberconwy, lle mae'n ymuno â'r Afon Wyled nid nepell o Forfa Dinlle.[1] Mae cwrs yr afonydd hyn wedi ei newid adeg cau Morfa Dinlle ddechrau'r 19g, ac nid yw'n amlwg bellach lle yn union yr oedd Abercarrog yn y dechrau. Er bod ceunentydd ar hyd yr afon ger Hen Gastell a Dôl Meredydd, nid oes hanes bod melinau wedi bod ar yr afon. Hyd yr afon yw tua 4 milltir.

Yn y Canol Oesoedd, gelwid Afon Wen sy'n codi yn ardal Bwlch Derwin yn Afon Carrog, er collwyd yr enw hwnnw ar yr afon ers canrifoedd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth, (Pen-y-groes, 1983), t.16-17.