Tramffordd John Robinson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Adeiladwyd '''Tramffordd John Robinson''' gan ŵr o'r enw hwnnw i gludo llechi o'i chwarel, Chwarel y Fron i gysylltu â thraciau ...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Adeiladwyd '''Tramffordd John Robinson''' gan [[John Robinson|ŵr o'r enw hwnnw]] i gludo llechi o'i chwarel, [[Chwarel y Fron]] i gysylltu â thraciau [[Rheilfordd Nantlle]] yn ardal [[Tal-y-sarn]], fel y gellid cludo'r llechi at y cei yng Nghaernarfon; ac wedi agor cangen o'r lein fawr hyd [[Gorsaf reilffordd Nantlle|orsaf Nantlle]] ar hyd y lein fawr at gwsmeriaid ledled Prydain. | Adeiladwyd '''Tramffordd John Robinson''' gan [[John Robinson|ŵr o'r enw hwnnw]] i gludo llechi o'i chwarel, [[Chwarel y Fron]] i gysylltu â thraciau [[Rheilfordd Nantlle]] yn ardal [[Tal-y-sarn]], fel y gellid cludo'r llechi at y cei yng Nghaernarfon; ac wedi agor cangen o'r lein fawr hyd [[Gorsaf reilffordd Nantlle|orsaf Nantlle]] ar hyd y lein fawr at gwsmeriaid ledled Prydain. | ||
Ym 1867 cafodd Robinson ran yn rheolaeth [[Chwarel Tal-y-sarn]] yn ogystal â'r Fron, a sylweddolodd fod modd sicrhau tramffordd a fyddai'n cludo llechi o'r Fron heb fennu ar ddiddordebau cynhyrchwyr llechi eraill. Y bwriad oedd adeiladu tramffordd ryw filltrir o hyd ar led 3' 6" (sef yr un lled â chledrau Rheilffordd Nantlle) a chreu incléin hir 700 llath o hyd o'r ucheldir i lawr trwy Chwarel Tal-y-sarn i gysylltu â thraciau ar waelod y chwarel honno. Cafodd yr hawl, am rent enwol o swllt y flwyddyn, i adeiladu'r lein ar draws tir comin y Goron o Chwarel y Fron. Disgwylwyd mai £1850 fyddai cost y fenter, y gellid ei hagor o fewn tri mis, ac y byddai'n lleihau'r gost o gludo llechi i Gei Caernarfon yn sylweddol. | |||
Mewn gwirionedd, oherwydd anghydweld ynglŷn â ffiniau, yr oedd angen incléin hirach ac ni agorwyd y dramffordd tan 1869. Prynwyd 100 o wagenni i redeg rhwng y chwarel a phen draw'r lein (ac efallai ar y darn o Reilffordd Nantlle rhwng Pant a'r Cei).<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), t.248, 250</ref> Yn y diwedd, rhedai'r dramffordd o dwll [[Chwarel Braich]] i gyfeiriad y de-orllewin ar hyd tir sydd hyd heddiw yn llain o gomin heibio Gwyndy, wedyn ar draws y tir agored rhwng [[Bwlch-y-llyn]] a'r Fron,<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), t.217</ref> heibio Bryn-twrog a Greenland ac wedyn hyd at Pen-deitsh, lle aeth i dir Chwarel Tal-y-sarn ac at yr incléin.<ref>Mapiau Ordnans 25" i'r filltir, Caernarvonshire XXI.5 & 9</ref> | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Fersiwn yn ôl 19:10, 1 Tachwedd 2018
Adeiladwyd Tramffordd John Robinson gan ŵr o'r enw hwnnw i gludo llechi o'i chwarel, Chwarel y Fron i gysylltu â thraciau Rheilfordd Nantlle yn ardal Tal-y-sarn, fel y gellid cludo'r llechi at y cei yng Nghaernarfon; ac wedi agor cangen o'r lein fawr hyd orsaf Nantlle ar hyd y lein fawr at gwsmeriaid ledled Prydain.
Ym 1867 cafodd Robinson ran yn rheolaeth Chwarel Tal-y-sarn yn ogystal â'r Fron, a sylweddolodd fod modd sicrhau tramffordd a fyddai'n cludo llechi o'r Fron heb fennu ar ddiddordebau cynhyrchwyr llechi eraill. Y bwriad oedd adeiladu tramffordd ryw filltrir o hyd ar led 3' 6" (sef yr un lled â chledrau Rheilffordd Nantlle) a chreu incléin hir 700 llath o hyd o'r ucheldir i lawr trwy Chwarel Tal-y-sarn i gysylltu â thraciau ar waelod y chwarel honno. Cafodd yr hawl, am rent enwol o swllt y flwyddyn, i adeiladu'r lein ar draws tir comin y Goron o Chwarel y Fron. Disgwylwyd mai £1850 fyddai cost y fenter, y gellid ei hagor o fewn tri mis, ac y byddai'n lleihau'r gost o gludo llechi i Gei Caernarfon yn sylweddol.
Mewn gwirionedd, oherwydd anghydweld ynglŷn â ffiniau, yr oedd angen incléin hirach ac ni agorwyd y dramffordd tan 1869. Prynwyd 100 o wagenni i redeg rhwng y chwarel a phen draw'r lein (ac efallai ar y darn o Reilffordd Nantlle rhwng Pant a'r Cei).[1] Yn y diwedd, rhedai'r dramffordd o dwll Chwarel Braich i gyfeiriad y de-orllewin ar hyd tir sydd hyd heddiw yn llain o gomin heibio Gwyndy, wedyn ar draws y tir agored rhwng Bwlch-y-llyn a'r Fron,[2] heibio Bryn-twrog a Greenland ac wedyn hyd at Pen-deitsh, lle aeth i dir Chwarel Tal-y-sarn ac at yr incléin.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma