Hafan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
llithriad
Llinell 28: Llinell 28:

Dyma'r ganolfan yng nghwmwd Uwchgwyrfai sy’n costrelu dyheadau a hanes ardal sy’n enwog am ei chyfraniad addysgol, diwylliannol a chrefyddol. Dyma’n wir bwerdy bro. Lleolir y Ganolfan yn hen ysgoldy Eben Fardd yng Nghlynnog Fawr yn Arfon.

Mae cwmwd Uwchgwyrfai yn ymestyn o’r Bontnewydd (Afon Gwyrfai) yn y gogledd-ddwyrain i gopaon yr Eifl yn y gorllewin ac yn cynnwys Dyffryn Nantlle. Dyma bum plwyf y cwmwd: Clynnog, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda.

Elusen gofrestredig yw Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Ymysg y gweithgareddau, trefnir darlithoedd bob mis ac ar ddyddiau coffa ein cenedl; cynhelir ysgolion undydd i ledaenu ein gwir hanes ac arddangosfeydd achlysurol; cynhelir clwb darllen misol; a chyhoeddir cylchgrawn sain, yr Utgorn, bob chwarter sy'n ymdrin â phynciau hanesyddol a diwylliannol, ac a ddosberthir i holl danysgrifwyr. Caiff y deillion ei dderbyn am ddim ond am iddynt wneud cais. Yng nghefn y ganolfan ceir gardd draddodiadol Gymreig y mae rhai o'r aelodau'n edrych ar ei hôl.
Elusen gofrestredig yw Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Ymysg y gweithgareddau, trefnir darlithoedd bob mis ac ar ddyddiau coffa ein cenedl; cynhelir ysgolion undydd i ledaenu ein gwir hanes ac arddangosfeydd achlysurol; cynhelir clwb darllen misol; a chyhoeddir cylchgrawn sain, yr Utgorn, bob chwarter sy'n ymdrin â phynciau hanesyddol a diwylliannol, ac a ddosberthir i danysgrifwyr. Caiff y deillion ei dderbyn am ddim ond iddynt wneud cais. Yng nghefn y ganolfan ceir gardd draddodiadol Gymreig y mae rhai o'r aelodau'n edrych ar ei hôl.

Ewch i [https://uwchgwyrfai.cymru/ brif wefan Canolfan Hanes Uwchgwyrfai] am fanylion llawn a'r newyddion diweddaraf.

Fersiwn yn ôl 17:18, 9 Hydref 2017

Cof y Cwmwd

Cyflwyniad

Diweddariadau

Erthyglau newydd

  1. David Williams, Fern Villa
  2. Y Bryn
  3. Y Bryn, Llanwnda
  4. Cae Sais, Llanwnda
  5. Fern Villa

Gwefan newydd

Sefydlwyd Cof y Cwmwd ym mis Hydref 2017, fel un o weithgareddau elusennol Canolfan Hanes Uwchgwyrfai gyda grant hael gan Gronfa Loteri'r Dreftadaeth. Ein nod yw cyflwyno gwir hanes ein cenedl i bobl Uwchgwyrfai a Chymru gyfan, a hynny gyda help unrhyw un sydd am ymuno yn y gwaith.

Fe fydd rhagor o erthyglau am hanes Uwchgwyrfai ar y wefan hon yn fuan. Yn y cyfamser ewch i'r categori Trafnidiaeth i weld enghreifftiau o erthyglau a chategorïau. Bydd rhagor i'w gweld yn fuan.

Cyfrannwch

Safle yw hon lle gall unrhyw un gyfrannu o'i wybodaeth bersonol neu yn sgîl ei ymchwil, ar yr amod nad yw'n torri hawlfraint eraill ac yn derbyn yr ychydig gyfyngiadau arferol angenrheidiol. Yn fwy na hynny, rydym yn wirioneddol angen eich cyfraniadau er mwyn gwneud Cof y Cwmwd yn hollol gynhwysfawr o holl agweddau ar hanes Cwmwd Uwchgwyrfai. Peidiwch â meddwl mai eraill sy'n gwybopd mwy na chi am eich ardal chi; mae gan bawb ffeithiau diddorol i'w rhannu.

Mae croeso i unrhyw un gyfrannu ychwanegiadau/newidiadau trwy greu cyfrif (os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes - nid oes angen unrhyw fanylion personol) ac wedyn glicio ar y tab 'Golygu'. Mae'n bosibl creu erthygl neu eginerthygl ar unrhyw bwnc na sydd yma eisoes, ar yr amod ei fod ar bwnc yn gysylltiedig ag Uwchgwyrfai (plwyfi Clynnog-fawr, Llanaelhaearn, Llanfaglan, Llandwrog a Llanwnda).

Cofiwch, DIM sylwadau personol na feirniadaeth o gyfrannwyr eraill os gwelwch yn dda - nac iaith anweddus!

Ewch i Cymorth am ragor o fanylion ar sut i gyfrannu.

Canolfan Hanes Uwchgwyrfai

Dyma'r ganolfan yng nghwmwd Uwchgwyrfai sy’n costrelu dyheadau a hanes ardal sy’n enwog am ei chyfraniad addysgol, diwylliannol a chrefyddol. Dyma’n wir bwerdy bro. Lleolir y Ganolfan yn hen ysgoldy Eben Fardd yng Nghlynnog Fawr yn Arfon.

Mae cwmwd Uwchgwyrfai yn ymestyn o’r Bontnewydd (Afon Gwyrfai) yn y gogledd-ddwyrain i gopaon yr Eifl yn y gorllewin ac yn cynnwys Dyffryn Nantlle. Dyma bum plwyf y cwmwd: Clynnog, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda.

Elusen gofrestredig yw Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Ymysg y gweithgareddau, trefnir darlithoedd bob mis ac ar ddyddiau coffa ein cenedl; cynhelir ysgolion undydd i ledaenu ein gwir hanes ac arddangosfeydd achlysurol; cynhelir clwb darllen misol; a chyhoeddir cylchgrawn sain, yr Utgorn, bob chwarter sy'n ymdrin â phynciau hanesyddol a diwylliannol, ac a ddosberthir i danysgrifwyr. Caiff y deillion ei dderbyn am ddim ond iddynt wneud cais. Yng nghefn y ganolfan ceir gardd draddodiadol Gymreig y mae rhai o'r aelodau'n edrych ar ei hôl.

Ewch i brif wefan Canolfan Hanes Uwchgwyrfai am fanylion llawn a'r newyddion diweddaraf.