Llongddrylliadau Uwchgwyrfai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 14: Llinell 14:


7 Ebrill 1841: y ''Strathmore'', brig 198 tunnell o Leith, Yr Alban, ar fordaith o Bahia, Brasil i Lerpwl, gyda llwyth o siwgr, cotwm a rhosbren yn cael ei dryllio ar greigiau [[Trwyn y tâl]]<ref>''Monmouthshirte Merlin'', 17.4.1841, t.2</ref>
7 Ebrill 1841: y ''Strathmore'', brig 198 tunnell o Leith, Yr Alban, ar fordaith o Bahia, Brasil i Lerpwl, gyda llwyth o siwgr, cotwm a rhosbren yn cael ei dryllio ar greigiau [[Trwyn y tâl]]<ref>''Monmouthshirte Merlin'', 17.4.1841, t.2</ref>
11.12.1841: y slŵp ''Luna'', Aberystwyth, yn hwylio o Doolish (''Douglas'' , Ynys Manaw) yn cario 160 baril o benwaig yn mynd ar y lan yn [[Dinas Dinlle|Ninas Dinlle]] ar ol i'r hwyl rwygo. Achubwyd 139 o'r barilau o benwaig yn ogystal â'r criw, ond malwyd y llong.<ref>''The Welshman'', 17.12.1841, t.2</ref>.


Mawrth 1842: [[Brig yr "Heron"]] yn taro'r lan ger [[Clynnog Fawr]]. Llwyddwyd i'w chael yn rhydd a'i thowio hi i Gaernarfon lle gafodd ei thrwsio.
Mawrth 1842: [[Brig yr "Heron"]] yn taro'r lan ger [[Clynnog Fawr]]. Llwyddwyd i'w chael yn rhydd a'i thowio hi i Gaernarfon lle gafodd ei thrwsio.

Fersiwn yn ôl 15:55, 12 Ionawr 2026

Cymharol ychydig o longddrylliadau a ddigwyddodd ar arfordir Uwchgwyrfai ar lan Bae Caernarfon. Mae'r arfordir ei hun wedi ei gysgodi i ryw raddau bach oddi wrth stormydd o'r cyfeiriad arferol, sef y de-orllewin, gan fynyddoedd Yr Eifl, ac os oedd gwyntoedd cryfion yn gyrru llongau hwylio o'u blaen, tueddai'r llongau hynny i daro'r lan ar arfordir Môn o Landdwyn tua'r Gogledd.

Serch hynny, gwyddom am nifer o gychod a llongau a suddwyd oddi ar arfordir y cwmwd:

1760: dwy long yn suddo ar far Caernarfon, a 14 yn colli eu bywydau.[1]

1795: Cwch pysgota a'i griw i gyd wedi ei golli oddi ar draeth Trefor

1 Medi 1829: y brig Swallow, ar ei ffordd i Newfoundland o Lerpwl, yn taro'r lan ger Dinas Dinlle

26 Chwefror 1833: y slŵp Hopewell yn hwylio o Gaernarfon i Borthdinlläen gyda chargo o garreg galch wedi ei golli ar Far Caernarfon, 'r criw o dri wedi boddi er i griw brig arall a oedd wedi angori ger Belan wedi gweld y cyfan roeddynt yn methu helpu. Roedd llong arall, y William and Mary, yn hwylio gyda'r Hopewell ar yr un perwyl, ond llwyddodd honno i gliriio'r bar a chael lloches ger traeth Llanaelhaearn yng nghysgod Yr Eifl.[2]

18 Mehefin 1840: y barc Jane o Orleans Newydd, yn cario bwndeli o gotwm i Lerpwl yn mynd i lawr ar far Caernarfon. Achubwyd y criw i gyd.

7 Ebrill 1841: y Strathmore, brig 198 tunnell o Leith, Yr Alban, ar fordaith o Bahia, Brasil i Lerpwl, gyda llwyth o siwgr, cotwm a rhosbren yn cael ei dryllio ar greigiau Trwyn y tâl[3]

11.12.1841: y slŵp Luna, Aberystwyth, yn hwylio o Doolish (Douglas , Ynys Manaw) yn cario 160 baril o benwaig yn mynd ar y lan yn Ninas Dinlle ar ol i'r hwyl rwygo. Achubwyd 139 o'r barilau o benwaig yn ogystal â'r criw, ond malwyd y llong.[4].

Mawrth 1842: Brig yr "Heron" yn taro'r lan ger Clynnog Fawr. Llwyddwyd i'w chael yn rhydd a'i thowio hi i Gaernarfon lle gafodd ei thrwsio.

Ionawr 1843: Stemar y ''Monk'' oedd yn hwylio o Bortinlläen am Lerpwl (gweler isod).

Ionawr 1845: y barc William Turner o Felffast, yn cludo gwano o Dde Amerig i Lerpwl yn cael ei dryllio ar far Caernarfon, a'r criw i gyd yn boddi.

Ionawr 1846: y Scotland, llong o America, dan law 'r Capten Snow, yn hwylio o Lerpwl am Orleans Newydd mewn balast, yn cael ei dryllio ar arfordir y bae ger Clynnog Fawr, ar ôl llusgo ei hangor ger Porthdinlläen.[5]

11 Medi 1847: y sgwner Vine o Nefyn yn suddo ar far Caernarfon, a dim ond un yn cael ei achub.

Ionawr 1863: y llong Pamela Flood o Efrog Newydd yn suddo yng nghanol y bae, 12 milltir o Gaergybi ac yn nes o dipyn i Glynnog. Achubwyd neb oddi ar ei bwrdd heblaw am y capten, John R. Anderson, a lwyddodd i gydio mewn darn mawr o bren o'r llong ac a gafodd ei olchi i'r lan ger Tŷ Mawr, Clynnog Fawr.[6]

Tachwedd 1877: y barc Witness o Sunderland a ddrylliwyd yn Aberdesach gyda chargo o lo a werthwyd wedyn ar y traeth, 6 Rhagfyr.[7] Gwnaed cadair eisteddfodol allan o beth o goed y llong ar gyfer Cyfarfod Cystadleuol Llanllyfni, Ebrill 1878.[8]

12 Rhagfyr 1883: Y Lady Hincks, yn cario coed o America i Lerpwl, eto'n taro creigiau Trwyn y tâl. Achubwyd pawb oddi ar ei bwrdd.[9]

1971: cerbyd amffibaidd (DUKW) Bill Parry y suddo oddi ar Dinas Dinlle wedi taro cefnen o dywod. Cerddodd Mr Parry i'r lan.[10]

Mae David Thomas yn nodi dau beth diddorol: bod llawer o longau wedi eu dryllio ar Far Caernarfon, sef ceg y Fenai, rhwng banc tywod y de a banc tywod y gogledd, cyn cyrraedd Abermenai ei hun. Yn ail, mae'n nodi bod llawer o longau yn ceisio cyrraedd Portinlläen ac yn cysgodi yno gan ei fod yn harbwr diogel pan oedd corwynt o'r gorllewin.[11]

Yn ddi-os, rhestr fer o rai longddrylliau yn unig sydd yma; ni chofnodwyd llawer ohonynt, yn arbennig cyn canol y 18g.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. David Thomas, Hen Longau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), t.141
  2. The Cambrian, 2.3.1833, t.3
  3. Monmouthshirte Merlin, 17.4.1841, t.2
  4. The Welshman, 17.12.1841, t.2
  5. Pembrokeshire Herald, 30.1.1846, t.3
  6. Lewis Lloyd,The Port of Caernarfon, 1793-1900 (Caernarfon, 1989), tt.129-141
  7. North Wales Chronicle, 8.12.1877, t.4
  8. Y Goleuad, 13.4.1878, t.13
  9. Henry Parry, Wreck and Rescue on the Coast of Wales, Cyf. I (Truro, 1969), t.63-68.
  10. Rhodri Prys Jones, Chwadan Bil Parry, (Caernarfon, 1980).
  11. David Thomas, Hen Longau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), tt.141-3