Pen-y-groes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Map degwm Pen-y-groes.jpg|de|bawd|400px|Y Map Degwm yn dangos pentref Pen-y-groes ym 1840]]
[[Delwedd:Map degwm Pen-y-groes.jpg|de|bawd|400px|Y Map Degwm yn dangos pentref Pen-y-groes ym 1840]]

'''Pen-y-groes''' yw'r pentref mwyaf yn ardal [[Dyffryn Nantlle]]. Yn wir, dyma'r gymuned fwyaf yn holl gwmwd [[Uwchgwyrfai]] ers iddi ddatblygu ynnystod ail hanner y 19g., gan adael pentref bychan hynaf y plwyf, sef [[Llanllyfni]] yn ei gysgod. Bu sôn am bentref yn Llanllyfni ers y 17g., a dyna lle'r oedd [[Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni|eglwys y fro]] a lle cynhelid [[Ffair Llanllyfni|ffair]] ers canrifoedd - a lle'r oedd nifer fwyaf o [[Tafarndai Llanllyfni|dafarnau]]'r dyffryn! Er i lawer o chwarelwyr fyw ym Mhen-y-groes pan oedd chwareli'r dyffryn ar eu hanterth, roedd Pen-y-groes y tu allan i ardal ddaearyddol y llechfaen, a gwasanaethodd y pentref fel canolfan fasnachol y dyffryn, ac yn y man fe ddatblygodd fel prif leoliad siopau'r dyffryn, a chartref nifer o greffwyr a mân ddiwydiannau. Roedd (ac y mae) chwarel tywod a gro ar gyrrion y pentref.  
'''Pen-y-groes''' yw'r pentref mwyaf yn ardal [[Dyffryn Nantlle]]. Yn wir, dyma'r gymuned fwyaf yn holl gwmwd [[Uwchgwyrfai]] ers iddi ddatblygu yn ystod ail hanner y 19g., gan adael pentref bychan hynaf y plwyf, sef [[Llanllyfni]] yn ei gysgod. Bu sôn am bentref yn Llanllyfni ers y 17g., a dyna lle'r oedd [[Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni|eglwys y fro]] a lle cynhelid [[Ffair Llanllyfni|ffair]] ers canrifoedd - a lle'r oedd nifer fwyaf o [[Tafarndai Llanllyfni|dafarnau]]'r dyffryn! Er i lawer o chwarelwyr fyw ym Mhen-y-groes pan oedd chwareli'r dyffryn ar eu hanterth, roedd Pen-y-groes y tu allan i ardal ddaearyddol y llechfaen, a gwasanaethodd y pentref fel canolfan fasnachol y dyffryn, ac yn y man fe ddatblygodd fel prif leoliad siopau'r dyffryn, a chartref nifer o greffwyr a mân ddiwydiannau. Roedd (ac y mae) chwarel tywod a gro ar gyrrion y pentref.  

Ceir darlun cyfoes gwych o'r pentref pan oedd yn tyfu yn nisgrifiad Owen Owen o Ben-y-groes, o'i lyfr ''Hen Atgofion am Ben-y-groes''. Mae darn o'r llyfr yn disgrifio'r pentref tua 1870 wedi ei atgynhyrchu yn '''Cof y Cwmwd''' a gellir ei ddarllen trwy glicio [[Disgrifiad Owen Owen o Ben-y-groes tua 1870|yma]].

Llinell 9: Llinell 9:

Ar, neu ger, y groesffordd yr oedd tafarn, y "Pen-y-groes Inn" erbyn y 1820au, gan fod cyfeiriad ato ym 1829 fel man aros i deithwyr answyddogol ar [[Rheilffordd Nantlle|Reilffordd Nantlle]] a oedd wedi agor ym 1828.<ref>''The Memoirs of Samuel Holland'', (Dolgellau, 1952),</ref> Safai'r dafarn (a elwid yn [[Tafarn y Stag, Pen-y-groes|Tafarn y Stag]] yn swyddogol) ar y groesffordd lle mae [[Yr Orsaf]] heddiw, sef yr hen [[Siop Griffiths]]. Roedd hi'n gwasanaethu fel man cyfleus i deithwyr ar eu siwrne ar hyd Dyffryn Nantlle neu rhwng Caernarfon ac Eifionydd. Gan fod Rheilffordd Nantlle yn croesi'r ffordd dyrpeg yn yr un fan, dichon i bentref bach ddechrau ymffurfio, fel y digwyddodd yn achos pentref [[Y Groeslon]]. Serch hynny, mae'r man degwm yn dangos cyn lleied o dai oedd wrth y groesffordd erbyn 1840.

Wedi i Reilffordd Nantlle gyrraedd ym 1828, fe ddechreuodd y pentref dyfu o amgylch croesfan y trac. Gwelir llinell y rheilffordd ar y map degwm ar y dde, yn croesi canol y map o'r chwith i'r dde. Erbyn 1840 roedd o leiaf dwy dafarn a dau ddwsin neu fwy o dai bach sâl eu cyflwr yna, yn cael eu disgrifio fel "poor cottages", a nifer wedi eu codi ar dir [[Ystad Brynvir]]. mae'r rhes hir ar ochr y lôn fawr i gyfeiriad Caernarfon yw tai Treddafydd, a godwyd tua 1835 gan Robert Williams, teiliwr y pentref. Ychydig cyn hynny,ym 1830,  roedd capel Wesle wedi ei godi yn Nhredafydd hefyd, ac yr oedd cynulleidfa gymysg o Fethodistiaid ac Annibynwyr yn cwrdd mewn tŷ ger y Stag's Head hefyd yn yr 1830au. Wrth y groesfan reilffordd yr oedd seidins a warws y lein, a ffynnon y pentref.<ref>Owen Owen, ''Hen Atgofion am Ben-y-groes''</ref>
Cynyddodd y pentref yn raddol tan yr 1860au, pan fu llawer o'r tai presennol gael eu codi a siopydd yn agor. Codwyd capeli newydd gan y pedwar enwad, ond rhaid oedd i eglwyswyr ddisgwyl tan 1889 cyn codi eglwys; cyn hynny, rhaid oedd ymlwybro tua Llanllyfni ar y Sul.

Wrth astudio'r map, a'r rhestr o'r daliadau tir sydd ynghlwm wrtho<ref>LlGC, Map Degwm a Rhestr Bennu plwyf Llanllyfni, 1840</ref>, gellir cael argraff gwell o'r pentref yn ei ddyddiau cynnar.
Wrth astudio'r map, a'r rhestr o'r daliadau tir sydd ynghlwm wrtho<ref>LlGC, Map Degwm a Rhestr Bennu plwyf Llanllyfni, 1840</ref>, gellir cael argraff gwell o'r pentref yn ei ddyddiau cynnar.

Fersiwn yn ôl 15:06, 14 Hydref 2025

Y Map Degwm yn dangos pentref Pen-y-groes ym 1840

Pen-y-groes yw'r pentref mwyaf yn ardal Dyffryn Nantlle. Yn wir, dyma'r gymuned fwyaf yn holl gwmwd Uwchgwyrfai ers iddi ddatblygu yn ystod ail hanner y 19g., gan adael pentref bychan hynaf y plwyf, sef Llanllyfni yn ei gysgod. Bu sôn am bentref yn Llanllyfni ers y 17g., a dyna lle'r oedd eglwys y fro a lle cynhelid ffair ers canrifoedd - a lle'r oedd nifer fwyaf o dafarnau'r dyffryn! Er i lawer o chwarelwyr fyw ym Mhen-y-groes pan oedd chwareli'r dyffryn ar eu hanterth, roedd Pen-y-groes y tu allan i ardal ddaearyddol y llechfaen, a gwasanaethodd y pentref fel canolfan fasnachol y dyffryn, ac yn y man fe ddatblygodd fel prif leoliad siopau'r dyffryn, a chartref nifer o greffwyr a mân ddiwydiannau. Roedd (ac y mae) chwarel tywod a gro ar gyrrion y pentref.

Ceir darlun cyfoes gwych o'r pentref pan oedd yn tyfu yn nisgrifiad Owen Owen o Ben-y-groes, o'i lyfr Hen Atgofion am Ben-y-groes. Mae darn o'r llyfr yn disgrifio'r pentref tua 1870 wedi ei atgynhyrchu yn Cof y Cwmwd a gellir ei ddarllen trwy glicio yma.

Datblygiad y pentref

Mae'n debyg mai enw ar fferm neu dyddyn oedd Pen-y-groes i ddechrau, gyda'r enw yn disgrifio'r lleoliad ger y groesffordd rhwng y lôn fawr o Gaernarfon i Benmorfa a lôn a redai o gyfeiriad y môr ger Pontlyfni i ben pellaf Dyffryn Nantlle. Yn ôl yr hanesydd William Hobley, "Tua diwedd y ddeunewfed ganrif nid oedd yma namyn un tŷ tô gwellt, a gelwid ef yn Pen y groes, am ei fod wedi ei adeiladu gerllaw croesffordd. Erbyn dechreu'r bedwaredd ganrif arbymtheg yr oedd yma dri o dai yn y fan a elwid wedi hynny yn Heol yr Efail, ac un tŷ go helaeth, a berchnogid ac a breswylid gan John Edwards, gwr crefyddol."[1]Un o'r cyfeiriadau cyntaf at Ben-y-groes yw nodyn ym mhapurau Llys Chwarter y sir sy'n dyddio o 1813, lle rhwymwyd Morgan Roberts, iwmon (sef ffermwr) o Ben-y-groes i gadw'r heddwch wedi ffrae rhwng rhai o ddynion y dyffryn.[2]

Ar, neu ger, y groesffordd yr oedd tafarn, y "Pen-y-groes Inn" erbyn y 1820au, gan fod cyfeiriad ato ym 1829 fel man aros i deithwyr answyddogol ar Reilffordd Nantlle a oedd wedi agor ym 1828.[3] Safai'r dafarn (a elwid yn Tafarn y Stag yn swyddogol) ar y groesffordd lle mae Yr Orsaf heddiw, sef yr hen Siop Griffiths. Roedd hi'n gwasanaethu fel man cyfleus i deithwyr ar eu siwrne ar hyd Dyffryn Nantlle neu rhwng Caernarfon ac Eifionydd. Gan fod Rheilffordd Nantlle yn croesi'r ffordd dyrpeg yn yr un fan, dichon i bentref bach ddechrau ymffurfio, fel y digwyddodd yn achos pentref Y Groeslon. Serch hynny, mae'r man degwm yn dangos cyn lleied o dai oedd wrth y groesffordd erbyn 1840.

Wedi i Reilffordd Nantlle gyrraedd ym 1828, fe ddechreuodd y pentref dyfu o amgylch croesfan y trac. Gwelir llinell y rheilffordd ar y map degwm ar y dde, yn croesi canol y map o'r chwith i'r dde. Erbyn 1840 roedd o leiaf dwy dafarn a dau ddwsin neu fwy o dai bach sâl eu cyflwr yna, yn cael eu disgrifio fel "poor cottages", a nifer wedi eu codi ar dir Ystad Brynvir. mae'r rhes hir ar ochr y lôn fawr i gyfeiriad Caernarfon yw tai Treddafydd, a godwyd tua 1835 gan Robert Williams, teiliwr y pentref. Ychydig cyn hynny,ym 1830, roedd capel Wesle wedi ei godi yn Nhredafydd hefyd, ac yr oedd cynulleidfa gymysg o Fethodistiaid ac Annibynwyr yn cwrdd mewn tŷ ger y Stag's Head hefyd yn yr 1830au. Wrth y groesfan reilffordd yr oedd seidins a warws y lein, a ffynnon y pentref.[4]

Cynyddodd y pentref yn raddol tan yr 1860au, pan fu llawer o'r tai presennol gael eu codi a siopydd yn agor. Codwyd capeli newydd gan y pedwar enwad, ond rhaid oedd i eglwyswyr ddisgwyl tan 1889 cyn codi eglwys; cyn hynny, rhaid oedd ymlwybro tua Llanllyfni ar y Sul.

Wrth astudio'r map, a'r rhestr o'r daliadau tir sydd ynghlwm wrtho[5], gellir cael argraff gwell o'r pentref yn ei ddyddiau cynnar.

Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf. I (Caernarfon, 1910), t.295
  2. Archifdy Caernarfon, XQS/1813/15/80
  3. The Memoirs of Samuel Holland, (Dolgellau, 1952),
  4. Owen Owen, Hen Atgofion am Ben-y-groes
  5. LlGC, Map Degwm a Rhestr Bennu plwyf Llanllyfni, 1840