Achos Dŵr Afon Tŷ Coch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae '''Achos Dŵr Afon Tŷ Coch''' yn dangos mor bwysig oedd | Mae '''Achos Dŵr Afon Tŷ Coch''' yn dangos mor bwysig oedd ffynhonnell ddibynadwy o ddŵr i chwarel, yn arbennig y chwareli bach, er mwyn iddynt gael grym dŵr i droi eu peiriannau. | ||
Ym 1907, cyhoeddodd ''Yr Herald Cymraeg'' adroddiadau o’r hyn a ddywedwyd ym Mrawdlys Caer yn ystod Achos Dŵr Afon Tŷ Coch. Mae’r adroddiadau’n taflu goleuni ar sawl agwedd ar y diwydiant llechi yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]] ar droad yr ugeinfed ganrif, yn arbennig ynglŷn â chwareli bychain ochr ddeheuol y dyffryn. | Ym 1907, cyhoeddodd ''Yr Herald Cymraeg'' adroddiadau o’r hyn a ddywedwyd ym Mrawdlys Caer yn ystod Achos Dŵr Afon Tŷ Coch. Mae’r adroddiadau’n taflu goleuni ar sawl agwedd ar y diwydiant llechi yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]] ar droad yr ugeinfed ganrif, yn arbennig ynglŷn â chwareli bychain ochr ddeheuol y dyffryn. | ||
Yn y bôn, ffrae rhwng perchennog ystad fechan [[Gwernor]] a [[Chwarel Gwernor]] ar y naill ochr a chwmni [[Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd]] ar y llall ydoedd, a hynny ynglŷn â hawliau i ddŵr a lifai oddi ar y corsydd uwchben y chwareli. Mae hi’n tanlinellu pwysigrwydd cyflenwad digonol o ddŵr i chwarel fechan cyn i beiriannau disel gyrraedd. Wrth roi eu tystiolaeth, datgelodd y tystion sawl ffaith | Yn y bôn, ffrae rhwng perchennog ystad fechan [[Gwernor]] a [[Chwarel Gwernor]] ar y naill ochr a chwmni [[Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd]] ar y llall ydoedd, a hynny ynglŷn â hawliau i ddŵr a lifai oddi ar y corsydd uwchben y chwareli. Mae hi’n tanlinellu pwysigrwydd cyflenwad digonol o ddŵr i chwarel fechan cyn i beiriannau disel gyrraedd. Wrth roi eu tystiolaeth, datgelodd y tystion sawl ffaith ddiddorol ynglŷn â’r ddwy chwarel dan sylw. | ||
Isod ceir testun yr erthyglau gyda manylion yr achos a ymddangosodd yn ''Yr Herald Cymraeg''. Gadawyd ychydig o fanylion amherthnasol i’r hanes allan ac mae’r orgraff ac ambell i bwynt gramadegol wedi eu diweddaru, ond ceisiwyd cadw naws y Gymraeg wreiddiol fel arall. | Isod ceir testun yr erthyglau gyda manylion yr achos a ymddangosodd yn ''Yr Herald Cymraeg''. Gadawyd ychydig o fanylion amherthnasol i’r hanes allan ac mae’r orgraff ac ambell i bwynt gramadegol wedi eu diweddaru, ond ceisiwyd cadw naws y Gymraeg wreiddiol fel arall. |
Golygiad diweddaraf yn ôl 10:41, 8 Rhagfyr 2022
Mae Achos Dŵr Afon Tŷ Coch yn dangos mor bwysig oedd ffynhonnell ddibynadwy o ddŵr i chwarel, yn arbennig y chwareli bach, er mwyn iddynt gael grym dŵr i droi eu peiriannau.
Ym 1907, cyhoeddodd Yr Herald Cymraeg adroddiadau o’r hyn a ddywedwyd ym Mrawdlys Caer yn ystod Achos Dŵr Afon Tŷ Coch. Mae’r adroddiadau’n taflu goleuni ar sawl agwedd ar y diwydiant llechi yn Nyffryn Nantlle ar droad yr ugeinfed ganrif, yn arbennig ynglŷn â chwareli bychain ochr ddeheuol y dyffryn.
Yn y bôn, ffrae rhwng perchennog ystad fechan Gwernor a Chwarel Gwernor ar y naill ochr a chwmni Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd ar y llall ydoedd, a hynny ynglŷn â hawliau i ddŵr a lifai oddi ar y corsydd uwchben y chwareli. Mae hi’n tanlinellu pwysigrwydd cyflenwad digonol o ddŵr i chwarel fechan cyn i beiriannau disel gyrraedd. Wrth roi eu tystiolaeth, datgelodd y tystion sawl ffaith ddiddorol ynglŷn â’r ddwy chwarel dan sylw.
Isod ceir testun yr erthyglau gyda manylion yr achos a ymddangosodd yn Yr Herald Cymraeg. Gadawyd ychydig o fanylion amherthnasol i’r hanes allan ac mae’r orgraff ac ambell i bwynt gramadegol wedi eu diweddaru, ond ceisiwyd cadw naws y Gymraeg wreiddiol fel arall.
Agorodd yr achos dros gyfnod o dridiau ar ddechrau mis Mawrth 1907:
DŴR I CHWARELI: ACHOS PWYSIG O NANTLLE. HANES Y CAFN, EI DDEFNYDDIO Y NOS A'l GUDDIO, Y DYDD
Yn Mrawdlys Caer, yr wythnos ddiwethaf, gerbron y Barnwr Jelf, gwrandawyd achos o ddiddordeb neilltuol i drigolion Dyffryn Nantlle. Hawliai Mr Gwyn Hughes, perchennog ystad Gwernor, iawn oddi ar Mr Thos. Lewis, perchennog Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd, am niwed a wnaed trwy ymyrryd â chwrs afon a lifa o Lyn Cwm Silyn i Afon Llyfni. Defnyddid dŵr yr afon gan y ddau at wasanaeth eu chwarelI. Ymddangosai Mr Francis Williams a Mr Ellis Jones Griffith, A.S. (dan gyfarwyddyd Mr C. A. Jones, Caernarfon), dros yr hawlydd, a Mr F. Marshall, K.C., a Mr Montgomery (dan gyfarwyddyd Mri Carter a Yincent) dros y diffynnydd. Agorwyd yr achos gyda chymorth planiau gan Mr Francis Williams. Eglurodd yn fanwl safle'r chwareli a'r afon. Dywedodd mai gwaith copr oedd yn Ngwernor ar un adeg, ond canfuwyd mai gwell oedd gweithio y lechfaen oedd yno; ac ym 1882, ar ôl peth helynt ynglyn â'r dŵr, cytunwyd i wneud mur yn yr afon mewn man neilltuol i droi hanner y dŵr i Lyn Nantlle a'r hanner arall, i gyfeiriad Chwarel Gwernor. Ar ôl i'r cytundeb gael ei wneud bu llithriad tir nes llifodd y llyn dros ei lannau, a barnwyd yn ddoeth leihau swm y dŵr oedd yn llifo iddo trwy droi yr afon i ffos. Rhoes Mr Williams fanylion am arwerthiant fu ar ran o dir ynglyn â'r chwarel. Rhoes Mr Charles Jones dystiolaeth dros yr hawlydd. Yn 1894, meddai, aeth ef i arwerthiant dros Mr Gwyn Hughes. Wedi hynny clywodd am yr ymyrraeth â hawliau dŵr yr hawlydd ac yn 1902 neu 1903 aeth ef ac Eyan Roberts, un o denantiaid Mr Gwyn Hughes, i'r lle y cwynid yr ymyrrwyd â'r dŵr. Yno gwelodd gafn pren oedd yn arwain y dŵr i dwll yn y clawdd. Yr oedd ffos yr ochr aralI i'r clawdd, ac yr oedd y dŵr yn mynd i honno. Torrodd ef ac Eyan Roberts y cafn er mwyn i'r dŵr redeg hyd ei gwrs priodol. Clywodd y gwnaed llawer iawn o bethau eraill i droi cwrs yr afon, ac ar y nawfed o Ragfyr, 1904, cyfarfu a'r diffynnydd yn y lle. Ymyrrwyd a'r dŵr wedi hynny, a rhoes ef rybudd i'r diffynnydd os na pheidiai ag ymyrryd a'r dŵr y byddai iddo gymryd camau i'w rwystro. Yn fuan wedi hynny aeth i'r lle gyda Mr Ellis Jones Griffith, ac un o denantiaid Mr Gwyn Hughes, a chanfu chwech neu saith o ddynion ar yr ochr orllewinol i'r clawdd yn tynnu eu cotiau i'w wrthwynebu. Neidiodd ef a'i gyfeillion dros y clawdd, a dywedodd wrth y dynion nad oedd yn barod i setlo y mater gyda hwy. Mr Francis Williams: “Trwy nerth dwrn?” Y Tyst: “Ie.” Yn ateb i Mr Marshall dywedodd Mr Jones na ddywedodd hen ŵr o'r enw Griffiths wrtho mai efe oedd yn troi y dŵr i gyfeiriad Tŷ'n-y-weirglodd ar dywydd sych yn unol â chytundeb a wnaed. Gofynnodd i Griffiths a oedd wedi derbyn caniatâd i droi y dŵr pan fyddai angen, ac atebodd Griffiths y gofynnai ganiatâd Mr John Horne, rheolwr Chwarel Gwernor, bob tro y byddai arno eisiau troi y dŵr i gyfeiriad Tŷ'n-y-weirglodd. Ni soniodd Griffiths o gwbl am drefniant i rannu’r dŵr, ond dywedodd na fyddai arnynt eisiau dŵr ond ar dywydd sych, gan y caent ddigon yn Nhan'rallt ar amserau eraill. Tystiodd Mr Henry Dewes y bu yn gyfreithiwr i'r Parch Hugh Thomas ac i Mr Assheton Smith, neu yn hytrach i ymddiriedolwyr ystad y Faenol. Gwyddai am y ffrwd dan sylw a bu helynt yn ei chylch rhwng y Parch Hugh Thomas ac ystad y Faenol. Yn 1882, bu cynrychiolwyr ystad y Faenol a'r Parch Hugh, Thomas, perchennog ystad Gwernor, yn y lle, a chyda hwynt yr oedd Mr John Horne oedd yn dal prydles Chwarel Gwernor. Trefnwyd yr adeg hohno i rannu’r dŵr; fod i fur gael ei adeiladu ar ddwy ochr yr afon; fod gwaelod yr afon i gael ei balmantu, ac fod carreg i'w gosod yn y palmant i rannu’r dŵr. Yr adeg honno nid oedd ond un ran o bedair o'r dŵr yn mynd i gyfeiriad Tŷ'n-y-weirglodd. Tystiodd Richard Williams, Abergele, ei fod yn dal cae o'r enw Ffridd Faen ar ystad Gwernor rhwng 1875 ac 1885. Rhoed y garreg yn yr afon ychydig o amser cyn iddo ef ym adael. Cyn osod y garreg i lawr yr oedd cwrs yr afon yr un fath ag y mae yn awr. Ni welodd ef erioed dwll yn y clawdd trwy yr hwn y llifai y dŵr. Tystiodd John Hughes Jones, Clifton House, Towyn, y bu yn rheolwr Chwarel Ty'n-y-weirglodd o Tachwedd, 1873 hyd Chwefror, 1875. Ni fu arno ef eisiau yr un dafn o ddŵr o Gwernor i weithio’r chwarel yn ystod yr amser hwnnw. Yn ateb i Mr Marshall dywedodd y tyst mai ei frawd-yn-nghyfraith, Mr W. Evans, a benodwyd yn rheolwr y chwarel ar ei ôl ef. Ni chlywodd ef i Evans gael ei yrru ymaith. Yr oeddynt yn cael digon o dŵr i'r peiriannau o waelod y twll. Tystiodd Evan Roberts ei fod yn denant Gors Fawr ers dwy flynedd ar bymtheg. Mr Francis Williams: “Dywedir mai nid chwi ydyw y tenant.” Y Tyst: “Fi yw y tenant yn awr, a nhad fu y tenant o fy mlaen i am ddeng mlynedd ar hugain.” Aeth y tyst yn mlaen i ddweud na welodd dwll yn y clawdd pan gofiai ef y clawdd gyntaf. Nid oedd y ffos chwaith yn dod at y clawdd yr adeg honno. Gwnaed y twll yn y clawdd pan orlifwyd Chwarel Dorothea yn 1884 er mwyn troi y dŵr oddi wrth y chwarel. Bu yr helynt cyntaf ynglŷn â'r dŵr dair neu bedair blynedd yn ôl, ac nid oedd ef cyn hynny wedi clywed sôn am hawl i'r dŵr, er y cymerid peth o'r dŵr yn y nos heb ganiatâd i Chwarel Tan'rallt. Gwneid hyn pan na allai neb weld. [Y diwrnod canlynol] aeth Evan Roberts ymlaen gyda'i dystiolaeth. Yn ateb i Mr Marshall dywedodd y bu yn gweithio yn Chwarel Tan'rallt am flwyddyn oddeutu wyth mlynedd ar hugain yn ôl. Yr adeg honno cymerid dŵr o'r afon at wasanaeth y chwarel gyda chymorth cafn wedi ei osod yn y fath fodd fel ag i yrru’r dŵr trwy Gors Fawr. Yn ateb i Mr Francis Williams dywedodd y tyst nad oedd dwll yn y clawdd pan oedd ef yn gweithio yn Nhan'rallt, ond gwaith hawdd fyddai tynnu carreg o'r clawdd a gwthio y cafn drwy y twll. Tystiodd John Hughes, Tŷ Coch, Tal-y-sarn, y bu yn gweithio am ysbaid yn Chwarel Tan’rallt. Yn 1879 edrychai ar ôl yr olwyn ddŵr yno gyda’r nos. Yr oedd digon o ddŵr yn y chwarel i droi yr olwyn ddŵr ac eithrio ar dywydd sych, pan beidiai yr olwyn â throi. Pan ddigwyddai hynny dywedai William Jones, y stiward, wrtho am wthio cafn trwy dwll yn y clawdd. Cyn y gellid gwneud hynny yr oedd yn rhaid tynnu carreg o'r clawdd, a gwneid hynny yn y nos, gan roi y garreg yn ôl cyn y bore. Cuddid y cafn fel na allai Mr Horne, rheolwr Chwarel Gwernor, ei weld, a dywedai y stiward wrth y tyst am fod yn ofalus rhag i Mr Horne weld y cafn. Yn ateb i Mr Marshall dywedodd y tyst mai unwaith yn unig yr aeth William Jones gydag ef at y clawdd. Wedi rhoi y cafn yn y twll llifai y dŵr i gyfeiriad Tan'rallt. Yn ateb i Mr Francis Williams dywedodd y tyst y cuddid y cafn mewn brwyn oedd yn tyfu yn Gors Fawr. Yn ateb i'r Barnwr dywedodd y tyst na yrrwyd ef erioed at Mr Horne i ofyn am ganiatâd i droi y dŵr. Tystiodd Thomas Edwards, Llanllyfni, ei fod yn un o aelodau Cwmni Chwarel Gwernor. Bu yr helynt cyntaf rhwng ei gwmni ef a Chwmni Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd ynglŷn â'r dŵr dair blynedd yn ôl, ac hyd yr amser hwnnw yr oedd ei gwmni ef wedi arfer defnyddio’r dŵr i gyd. Bu ar un adeg yn rheolwr Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd, a’r adeg honno ni cheid dim o'r dŵr at wasanaeth y chwarel. Yr oedd yn rheolwr Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd yn 1864 neu 1865. Y Barnwr: “Faint yw eich oed yn awr?” Y Tyst: “Tri ugain.” Y Barnwr: “Felly nid oeddech ond dwy ar bymtheg oed pan oeddech yn rheolwr y chwarel. Mae yn rhaid fod rhyw gamgymeriad yn rhywle.” Dywedodd y tyst mai John Lloyd Jones oedd y prif reolwr ac yntau yn is-reolwr. Nid oeddynt yn defnyddio dim o'r dŵr o'r afon yr adeg honno, gan y caent ddigon o ddŵr o'r twll. Ychydig o ddŵr o ddefnyddid, oherwydd gweithid y chwarel yn yr hen ddull, heb nemor o beiriannau. Yn ateb i Mr Marshall dywedodd y tyst y defnyddid y dŵr yn Ngwernor i droi y byrddau llifio. Tystiodd William Hughes, Ffridd, Nantlle, y bu yn edrych ar ôl y dŵr dros Mr Assheton Smith cyn y gosodwyd y garreg yn yr afon. Yr oedd carreg yn yr afon cyn hynny, a thwll ynddi; ac yr oedd Mr Assheton Smith yn fodlon i hynny o ddŵr a ai trwy y twll fynd i gyfeiriad Gwernor. Pan roed y garreg newydd yn yr afon yr oedd prinder dŵr yng Ngwernor. Defnyddid y dŵr yn Ffridd Faen i weithio’r gwaith copr. Tystiodd Owen Jones, Nebo, Llanllyfni, y cofiai’r gwaith copr yng Ngwernor. Bu hefyd yn gweithio yn Nhŷ'n-y-weirglodd pan oedd yn ddeg oed ac ni ddefnyddid dŵr i weithio y peiriannau yr adeg honno, gan nad oedd yno beiriannau. Deuai y dŵr oedd yn troi yr olwyn yng Ngwernor o Lyn Cwmsilyn. Tystiodd Ezekiel Hughes, Bryn Awen, Tal-y-sarn, y bu yn gweithio yn Chwarel Gwernor, ac yr arferai fynd ar hyd cwrs y dŵr i edrych a oedd y dŵr yn colli yn rhywle, gan ei fod yn brin iawn. Arferai fynd i fyny'r afon at y gongl yr oedd yr helynt presennol yn ei chylch, a'r amser hwnnw nid oedd dim dŵr yn mynd i gyfeiriad Tŷ'n-y-weirglodd o'r lle. Y Yn ateb i Mr Marshall dywedodd y tyst fod amryw o fan sianelydd yng Nghors Fawr, ond ni wyddai ef sut y gwnaed hwy. Bu yn y lle gydag un Thomas Parry yr haf diwethaf yn cymharu y lle wrth fel yr oedd 32 o flynyddoedd yn ôl. Ni ddywedodd wrth Thomas Parry fod cwrs yr afon yr un fath yr adeg honno ag ydyw yn awr. Ni ddywedodd ychwaith wrtho fod y dŵr yn rhedeg drwy y clawdd i'r un cyfeiriad ag y rhed yn awr. Y Barnwr: “Byddai yn annaturiol iawn dweud fod y dŵr yn llifo i'r un cyfeiriad yn awr ag oedd yr adeg honno.” Dywedodd Mr Marshall y bu yn y lle yr haf diwethaf. Yr oedd yn sych iawn, ond llifai y dŵr trwy y twll. Dywedodd Mr Francis Williams y bu ef yn y lle ar dywydd gwlyb, ond ni lifai y dŵr trwy y clawdd yr adeg honno. Dywedodd y Barnwr os oedd yr hyn ddywedodd Mr Marshall yn wir fod y photos a ddangosid gan yr hawlydd yn hollol anghywir. Dywedodd Mr Marshall fod y dŵr yn llifo i ddau gyfeiriad er cyn cof, a dyna oedd grym a sylwedd ei ddadl ef. Dywedodd y Barnwr fod y diffynnydd ar y cyntaf yn hawlio y dŵr i gyd, ond yn awr dywedid fod yr afon yn llifo i ddau gyfeiriad er cyn cof. Yn ateb i Mr Francis Williams dywedodd y tyst nad oedd dwll yn y clawdd 32 mlynedd. yn ôl. Yr oedd y sianel yn ddyfnach yn awr nag oedd 32 mlynedd yn ôl, yn enwedig yn y troad; ond yr oedd y cwrs yr un fath. Y Barnwr: “Pa droad a feddyliwch?” Y Tyst: “Y troad wrth y clawdd.” Tystiodd John Roberts Griffiths, Tal-y-sarn, nad oedd garreg yn yr afon pan gofiai ef y lle gyntaf. Rhedai y dŵr i'r sianel trwy i glawdd ei droi yno. Y Barnwr: “Yr hyn a feddyliwch yw fod y clawdd yn troi rhan o'r dŵr i'r sianel?” Y Tyst: “Na, yr oedd yn ei droi i gyd. “ Y Barnwr: “Felly yr oedd y dŵr i gyd yn llifo i gyfeiriad Gwernor?” Y Tyst: “Oedd, ond yr oedd yn bosibl ei reoli, a llifai peth ohono i lawr yr afon. Yr oedd math o ddor rhyw ugain llath oddi wrth: y garreg.” Y Barnwr: “Os troid y ddor rhyw ffordd a oedd hynny’n troi y dŵr rhyw ffordd neilltuol?” Y Tyst: “Oedd.l Agorid hi bedair modfedd i ollwng y dŵr i lawr yr afon.” Y Barnwr: “Yr oedd fel math o flodliad.” Y Tyst: “Oedd, ac yn cael ei gweithio gyda chadwen. Nis gallai bawb ei hagor, oherwydd cedwid yr allwedd yng Ngwernor. Nid oedd ddŵr yn llifo o Ffridd Faen i Dŷ'n-y-weirglodd. Y Barnwr: “A fuasech yn ei weled pe bai?” Y Tyst: “Buaswn.” Mr Francis Williams: “A ddaeth amser pan ddechreuodd y dŵr lifo i gyfeiriad Tŷ'n-y-weirglodd?” Y Tyst: “Do, rhyw bum mlynedd yn ôl, pan roddwyd cafn trwy y clawdd. Tynnais y cafn ymaith, ac yna rhoed pibellau yn ei le, ond tynnais hwythau ymaith hefyd, gan eu gadael ar lawr yn ymyl fy nhŷ.” Y Barnwr: “A ddaeth rhywun i'w nôl?” Y Tyst: “Naddo. Buont yno yr holl amser y bum i yn byw yn Tŷ Coch.” Yn ateb i Mr Montgomery, dywedodd y tyst fod y twll yn awr wedi ei wneud yn drefnus. Ceisiodd Mr Montgomery gael gan y tyst addef fod y garreg oedd yn bont i'r twll yno ers llawer o amser, ac wedi ei gosod yno, ond dywedodd y tyst nad oedd yn ei ddeall. Dywedodd y Barnwr yr ymddangosai iddo ef oddi wrth y ffoto nad oedd y garreg yn ddim ond carreg fflat gyffredin. Dywedodd Mr Marshall fod y ffotos yn hollol gamarweiniol. Tystiodd Mr R. R. Williams, 17, Chapel Street, Pen-y-groes, ei fod wedi ei fagu yn ymyl y lle. Wedi gadael Llyn Cwm Silyn llifai yr afon hyd Ffridd Faen gan droi ar y dde i gyfeiriad Gwernor. Ni lifai y dŵr i Gors Fawr cyn 1880. Tystiodd John Griffiths, Glyn Villa, Pen-y-groes, un o aelodau Cwmni Chwarel Gwernor, fod y twll yn y clawdd yn awr dair gwaith yn fwy nag oedd yn 1899. Yr adeg honno nid oedd ond deng modfedd o led, ond yn awr yr oedd yn ddwy droedfedd. ac yn ddeunaw modfedd o hyd. Tystiodd Hugh Owen Jones, Tal-y-mignedd, Pen-y-groes, ei fod yn cofio’r gwaith copr yng Ngwernor. Yr oedd yn y gwaith olwyn ddŵr, a throid hi gan ddŵr o Lyn Cwm Silyn. Nid oedd ddim o'r dŵr yn mynd i Dŷ'n-y-weirglodd yr adeg honno. Tystiodd Humphrey Jones, Hendre Fawr, y bu yn gweithio yng Ngwernor cyn ac ar ôI gosod y "turbine" i lawr yno. Efe gludodd y pibellau ynglŷn â'r "turbine" o orsaf y rheilffordd. Yn ateb i Mr Williams, dywedodd y tyst fod deg neu ddeuddeg mlynedd ar hugain er pan ddyfnhawyd ac y glanhawyd y sianel. Talwyd iddo ef ac eraill am wneud hynny gan Mr Horne, ac ni cheisiodd neb eu rhwystro. Tystiodd John Evans, 5, Bryn Sisyllt, Llanllyfni, ei fod yn gweithio yng Ngwernor pan osodwyd y garreg yn yr afon. Cyn hynny yr oedd y dŵr i gyd yn dod i Gwernor, ond cofiai amser pan y cymerid y dŵr yn y nos gan Chwarel Tan'rallt. Unwaith gwelodd y tyst Griffith Griffiths, o Chwarel Tan'rallt, yn ymyrryd â'r dŵr, a dywedodd Mr Horne wrth y tyst am iddo fynd i fyny i'w rwystro. Hefyd aeth y tyst â llythyr oddi wrth Mr Horne i Chwarel Tan'rallt. ac wedi hynny ni ymyrrwyd â'r dŵr o gwbl. Yn ateb i Mr Francis Williams, dyweddd y tyst y bu yn gwylio ar Ffridd Faen yn y nos ar gais Mr Horne, ac unwaith cymerodd y cafn, a ddefnyddiai pobl Chwarel Tan"rallt. i droi y dŵr, ymaith. Ni ddaeth neb i'w geisio ac ni chlywodd gŵyn yn ei gylch.[1]
Ar hynny, gohiriwyd yr achos am ryw bythefnos tan 25 Mawrth. Ceir yr adroddiad canlynol am weddill yr achos dros yr achwynydd, sef perchennog Chwarel Gwernor:
DŴR I CHWARELAU: ACHOS PWYSIG O NANTLLE. YCHWANEG O HANES Y CAFN. EI DEFNYDDIO Y NOS A'I GUDDIO Y DYDD (Arbennig i'r "Herald.")
Ym Mrawdlys Caer ddoe (ddydd Llun), ger bron y Barnwr Jelf, gwrandawyd ymhellach achos o ddiddordeb neilltuol i drigolion Dyffryn Nantlle. Dywedir ar ran yr achwynydd mai gwaith copr oedd yng Ngwernor ar un adeg, ond canfuwyd mai gwell oedd gweithio y lechfaen oedd yno; ac yn 1882, ar ôl peth helynt ynglŷn â’r dŵr, cytunwyd i wneud mur yn yr afon mewn man neilltuol i droi hanner y dŵr i Lyn Nantlle a'r hanner arall i gyfeiriad Chwarel Gwernor. Ar ôl i'r cytundeb gael ei wneud bu llithriad tir nes llifodd y llyn dros ei lannau, a barnwyd yn ddoeth leihau swm y dŵr oedd yn llifo iddo trwy droi yr afon i ffos. Pan wrandawyd yr achos gyntaf bythefnos yn ôl, rhoddwyd tystiolaeth gan luaws mawr o dystion i brofi mai i Gwernor y rhedai y dŵr yn naturiol a bod y diffynnydd wedi ymyrryd â'r rhediad. Y tŷst cyntaf de oedd Griffith Jones. Tal-y-mignedd. Yr oedd yn gwybod am y lle yr oedd anghydfod o berthynas iddo. Arferai yr oll o'r dŵr fynd i dir Gwernor.—>Croesholwyd: Ni fu yn y gwaith copr tra yr oedd yn gweithio. Fodd bynnag, aeth heibio a gwelodd yr olwyn ddŵr yn troi. Tystiodd William Roberts, Beatrice [Petrys], Tal-y-sarn, ei fod yn gwybod am y lle mewn dadl. Deallai fod ymgais wedi cael ei gwneud i redeg. y dŵr o Ffridd Fain i Gors Fawr.— Croesholwyd: Ni welodd hwy yn gwneud lle drwy y wal. Yr oedd ôl chwalu ar y clawdd. Mr Marshall A gymerwch chwi eich llw nad oedd dwll yno? Y Tyst: Gwnaf. Mr Marshall: Yr ydym yn dweud fod y dŵr yn rhedeg yn ddirwystr drwy y wal ar hyd Gors Fawr flynyddau cyn 1878? Y Tyst: Nac oedd. Dywedodd William Owen Jones, Gwernor. ei fod yn gweithio gyda M-r John Horne yn Chwarel Gwernor. Bu yn arolygu y chwarel. Yr oedd hynny oddeutu 1886. Cofiai denant Tŷ Coch yn cwyno fod y dŵr yn gorlifo i’w dir. Rhoddwyd carreg yn y ffos gyda thwll ynddi, oddeutu deng llath ar hugain oddi wrth y rhaniad rhwng. Gwernor ac eiddo Mr Assheton-Smith. Dodwyd y garreg gan ddynion o Chwarel Gwernor. Effaith y garreg oedd gwneud y dŵr yn llai. Ni chlywodd neb yn cwyno wrth bobl Gwernor am wneud hynny. Yn ystod yr amser y bu ef yn y chwarel ni redai y dŵr o'r ffos i Gors Fawr. Glanheid y ffos gan bobl Gwernor. Tystiodd Thomas John Thomas. Gwynfaes, Pen-y-groes. ei fod yn gwybod am y lleoedd mewn dadl ers deng mlynedd ar hugain. I fyny hyd y ddamwain yn Dorothea ni welodd ddŵr yn mynd o Ffridd Fain i Gors Fawr. Tystiodd William Evans ei fod ar un adeg yn arolygwr Chwarel Tŷ’n-y-weirglodd. Bu yn arolygwr am chwe mlynedd. Byddai weithiau yn bur sych, ac ar" adegau felly arferid gosod cafn i gael dŵr o Ffridd Fain. Arferai osod y cafn yn ystod y nos. Darfu i rhywun fynd â’r cafn i ffwrdd, ac ni chafwyd ef yn ôl. Yr oedd angen y cafn oherwydd ni wnai y dŵr redeg hebddo. Rhedai heb y cafn i Gwernor.
Wedi hyn (yn ôl yr adroddiad), bu i Marshall, y bargyfreithiwr dros yr amddiffyniad, holi William Evans ynghylch honiadau ei fod wedi cael y sac o Chwarel Tŷ’n-y-weirglodd am ffugio cyfrifon y chwarel – er mwyn profi fod gan y tyst reswm dros gefnogi’r achwynydd.
Mr Marshall: Cawsoch eich troi ymaith o'r chwarel ? Y Tyst: Os y mynnwch gallwch ei gymryd mai fy nhroi i ffwrdd a gefais.
Ar ôl mwy o holi’r tyst am fater y llyfrau, cododd Mr E.J. Griffith, y bargyfreithiwr dros Chwarel Gwernor, i geisio sicrhau eglurder ynglŷn â’r modd yr ymadawodd y tyst Dŷn-y-weirglodd.
Mr E. J. Griffith: Y mae ymgais wedi ei wneud i adlewyrchu ar eich cymeriad. A fu rhyw anghydwelediad rhyngoch a Mr H. Morley Lewis [rheolwr Chwarel Tŷ’n-y-weirglodd] o berthynas i'r ffordd r dylid gweithio’r chwarel? — Bu anghydwelediad o berthynas i'r mater. Cawsoch rybudd i ymadael? — Do. A ddywedodd Mr Lewis wrthych y buasai yn ceisio cael lle arall i chwi? — Dywedodd y buasai yn gwneud ei orau i gael lle arall i mi. Sylwodd y Barnwr nad oedd sail o gwbl wedi ei roi dros yr ensyniad fod y tyst wedi ymyrryd â chyfrifon y chwarel. Y cwestiwn i'w benderfynu oedd, a ddarfu i'r Tyst ymadael o'i fodd? Mr E. J. Griffith: Dywed mai y rheswm oedd anghydwelediad o berthynas i weithio y chwarel. Y Barnwr (wrth y tyst): A ddarfu i chwi adael o'ch gwirfodd? Y Tyst: Cefais rybudd gan Mr H. M. Lewis. Euthum oddi yno ar delerau hollol gyfeillgar. Dywedodd y Barnwr ymhellach ei bod yn annheg gwneud ensyniad yn erbyn y tyst o berthynas i’r cyfrifon. Os oedd ymyrraeth wedi bod a'r cyfrifon y ffordd briodol fuasai erlyn y tyst. Tystiodd Thomas Williams, Nebo, ei fod yn gweithio yn Tŷ'n-y-weirglodd pan yr oedd y tyst diwethaf yn arolygydd. Deuai y dŵr i'r chwarel drwy bibellau o Ffridd Fain. Rhoddid y pibellau drwy y clawdd a chuddid hwy- Ni roddid pibellau drwy’r wal pan y fyddai rhywun yn edrych. Nis gwyddai y rheswm am hynny. Croesholwyd: Ni fuasai’r dŵr yn rhedeg drwy’r wal heb y pibellau. Dywedodd Henry Griffith. Maelor House, ei fod yn gynefin â Ffridd Fain a Gors Fawr. Cyn y ddamwain yn Chwarel Dorothea ni welodd dwll yn y wal rhwng Ffridd Fain a Gors Fawr. Tystiodd Joseph Hughes, Bryn Llidiart, i arolygydd Tŷ’n-y-weirglodd (Mr Parry) ddod ato, a bu ymddiddan o berthynas i gael rhagor o ddŵr i'r chwarel. Gofynnodd Mr Parry a oedd yn bosibl ychwanegu at swm y dŵr o Gors Fawr, ac a roddai’r y tyst ganiatâd iddo. Cytunwyd, ac anfonwyd dyn o Dŷ’n-y-weirglodd i ddyfnhau’r draen fawr.
YR AMDDIFFYNIAD
Anerchodd Mr Marshall y llys o blaid y diffynnydd. Adolygodd yn fanwl y tystiolaethau a roddwyd dros yr achwynydd, a sylwodd nas gellid dibynnu arnynt o berthynas i wir sefyllfa pethau. Dadleuai fod y dŵr yn rhedeg yn naturiol i gyfeiriad Tŷ'n-y-weirglodd. I fyny hyd yn ddiweddar nid oedd angen llawer o ddŵr yn Chwarel Gwernor. Wedi gosod "turbine" yn y chwarel y codwyd y gri am ragor o ddŵr. Yn ffortunus iddo ef (Mr Marshall) byddai i gynllun a wnaed o'r lle yn 1878 gael ei gyflwyno i'r Barnwr, ac yn ôl hwnnw fe welid ar unwaith fod y dŵr y pryd hynny yn rhedeg yn ddirwystr i gyfeiriad Tŷ'n-y-weirglodd. Galwyd ar Richard Davids, surveyor, Caernarfon, yr hwn a ddywedodd ei. fod yn cofio pan fesurodd dir Gwernor yn 1878 fod y dŵr yn rhedeg drwy y wal o Ffridd Fain i Gors Fawr. Wedi mynd drwy’r wal elai i Tŷ Mawr ac i Dŷ'n-y-weirglodd. Gwrthododd y Barnwr dderbyn cynllun a wnaed gan y tyst ar y pryd, oherwydd mai copi o'r gwreiddiol oedd. Tystiodd Mr H. Lloyd-Carter, cyfreithiwr i'r diffynydd, iddo chwilota ymysg papurau’r diweddar Barch Hugh Thomas, perchennog ystad Gwernor, a daeth o hyd i amryw bapurau yn dal perthynas â'r ystad. Gofynnodd y Barnwr pa fodd yr oedd y papurau’n mynd i'w helpu i ddweud pa ochr oedd yn dweud y gwir? Mr Marshall: Y mae’r erlynydd yn dweud “Y mae gennym hawl hollol i'r dŵr,” ac yn awr, yn ôl y papurau, gwelwn fod yr hawl yn cael ei gyfyngu i byllau o ddŵr yn unig. Tystiodd Mr Thomas Lewis, y diffynnydd, ei fod yn un o'r partïon i brydles Tŷ'n-y-weirglodd, a ganiatawyd yn 1884. Cyn 1884 bu yn gweithio Tŷ’n-y-weirglodd am dair blynedd. Yn 1882 penderfynwyd pwmpio dŵr. I'r diben o wneud hynny yr oedd ffos o ddŵr yn angenrheidiol. Defnyddiwyd y ffos oedd yn dod o Ffridd Fain i Gors Fawr. Yn ddiweddarach pwrcasodd beiriant a berwedydd. Heb y ffos o Ffridd Fain nid oedd yn bosibl gweithio y chwarel. Talodd ymweliad â'r lle y flwyddyn hon, ac nid oedd yr un fath ag yr oedd yn 1903. Elai yr oll o'r dŵr i Gwernor. — Croesholwyd: Nid oedd yn hawlio yr oll o'r dŵr. Hawliai ran ohono. Ni ddywedodd erioed y dylai gael yr oll o r dŵr. Credai y dylai gael cyfran deg o'r dŵr. Tybiai y dylai gael yr hanner. Yn ôl pob hysbysrwydd a gafodd, credai fod y dŵr wedi bod yn rhedeg hanner i gyfeiriad Ty'nyweirglodd a hanner i gyfeiriad aral1. [2]
Ar hynny, gohiriwyd yr achos tan y diwrnod wedyn er mwyn gwrando ar weddill tystiolaeth yr amddiffyniad – ond roedd angen i ddarllenwyr yr Herald aros am wythnos i ddarllen adroddiad am weddill y dystiolaeth:
Dechreuwyd yr achos pan yr agorwyd Brawdlys Caer oddeutu tair wythnos yn ôl, a buwyd am rai dyddiau y pryd hynny’n gwrando tystiolaethau dros yr achwynydd. Gan nas gellid gorffen gohiriwyd y Frawdlys, ac ail-agorwyd hi yr wythnos ddiwethaf. Dygwyd yr achos dros yr achwynydd i derfyniad ddydd Llun, wythnos i ddoe, a buwyd am ddau ddiwrnod arall yn gwrando tystiolaethau dros yr amddiffyniad. Tystiodd Mr John Paul, Caernarfon, y bu ei dad ar un adeg yn llywodraethwr Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd. Gwyddai’r tyst am y lle yn dda. Yr unig ffynhonnell ddŵr oedd y ffos dan sylw. Dywedai fod agoriad yn y clawdd a'i fod wedi bod yn pysgota yn Gors Fawr. Ddydd Mawrth darfu i'r Barnwr ddweud y byddai iddo dderbyn y cynllun a gyflwynwyd gan Mr R. Davids, Caernarfon, y dydd blaenorol, ond ychwanegodd y byddai i'r cwestiwn o dderbyn y cynllun yn derfynol gael ei ddadleu yn Llundain eto. Gwnaed y cynllun gan Mr Davids yn 1878, pan yr oedd yn mesur ystad Gwernor. Collwyd y cynllun gwreiddiol, a gwrthwynebid ddydd LIun ar ran yr achwynydd i dderbyn copi, a chytunodd y Barnwr â'r gwrthwynebiad. Dywedodd Mr Davids wrth gyflwyno’r cynllun fod y dŵr pan fesurodd y tir yn rhedeg drwy wal o Ffridd Fain i Gors Fawr, ac yna i Dŷ'n-y-weirglodd. Rhoddwyd tystiolaeth gan Mr T. B. Farrington, peiriannydd, Llandudno. Wrth gymryd i ystyriaeth rediad y ffos tuag at i fyny credai iddi gael ei gwneud gyda'r amcan o gludo dŵr i Dŷ'n-y-weirglodd a Than'rallt. Cytunodd Mr Thomas Jones (Mri Tapp, Jones, Llundain) â Mr Farrington. Wrth gymryd i ystyriaeth rediad y dŵr ystyriai fod y ffos wedi ei chychwyn o gyfeiriad Tŷ'n-y-weirglodd. Cyflwynwyd cynllun gan Mr Llewelyn Lloyd Jones, Caernarfon, a derbyniwyd ef. Ddydd Mercher, rhoddwyd tystiolaeth gan denantiaid ffermydd yn y gymdogaeth i brofi fod y ffos yn cael ei hawlio gan denantiaid Tŷ’n-y-weirglodd. Yn ystod croesholiad dywedodd un o'r tystion fod tenant Brynllidiart wedi talu cydnabyddiaeth yn flynyddol i denant Tŷ’n-y-weirglodd am ddŵr o'r ffos a redai drwy Fferm Gors. Dygwyd y tystiolaethau i derfyniad, a gohiriwyd yr achos hyd y 19eg a'r 20fed, pan y bydd i gwestiynau o gyfraith gael eu dadleu yn Llundain. [3]
Cafwyd adroddiad am ddyfarniad y Barnwr Jelf ymhen rhai wythnosau. Crynhowyd y dystiolaeth i ychydig fodfeddi o brint. Rhoddir yma grynswth yr Herald Cymraeg o’r hyn a roddwyd yn y papur yn ystod yr achos, gan ei fod yn canolbwyntio ar y prif bwyntiau. Adroddiad gweddol fyr a geir yn Yr Herald Cymraeg, ond ceir llawer iawn mwy o sylwadau’r Barnwr Jelf (yn cynnwys y rhesymeg y tu ôl i’r dyfarniad a’r cynseiliau cyfreithiol a oedd yn ei helpu i wneud penderfyniad) yn yr adroddiad Saesneg yn chwaer-bapur yr Herald, sef y Caernarvon and Denbigh Herald[4]
DYFARNIAD O BLAID YR HAWLYDD
Yn Llys y Brenin ddydd Mawrth rhoes y Barnwr Jelf ei ddyfarniad yn achos Hughes yn erbyn Cwmni Chwarel Tŷ’n-y-weirglodd, Nantlle. Gwrandawyd yr achos i ddechrau ym Mrawdlys Caer ac yna yn Llundain. Y mae'r achos o ddiddordeb neilltuol i drigolion Dyffryn Nantlle. Dygwyd ef ymlaen gan Mr Gwyn Hughes, perchennog ystad Gwernor, yr hwn a hawliai iawn oddi ar Mr Thos. Lewis, perchennog Chwarel Tŷ’n-y-weirglodd, am niwed a. wnaed trwy ymyrryd â chwrs afon a lifa o Lyn Cwmsilyn i afon Llyfni. Defnyddid dŵr yr afon gan y ddau at wasanaeth eu chwarelau. Yn y prawf dywedwyd mai gwaith copr oedd yng Ngwernor ar un adeg, ond canfuwyd mai gwell oedd gweithio y llechen oedd yno; ac yn 1882 ar ôl peth helynt ynglŷn â'r dŵr, cytunwyd i wneud mur yn yr afon mewn man neilltuol i droi hanner y dŵr i Lyn Nantlle ar hanner arall i gyfeiriad Chwarel Gweroer. Ar ôl i'r cytundeb gael ei wneud bu llithriad tir nes llifodd y llyn dros ei lannau a barnwyd yn ddoeth leihau swm y dŵr oedd yn llifo drwy droi yr afon i ffos. Yn 1894 fel yr honnwyd bu ymyrraeth â hawliau dŵr yr hawlydd ac yn 1902 neu 1903 aeth Mr Charles Jones, Caernarfon, ac Evan Roberts, un o denantiaid Mr Gwyn Hughes, i'r lle y cwynid yr ymyrrwyd â'r dŵr. Yna gwelwyd pren oedd yn arwain y dŵr i dwll yn v clawdd. Yr oedd ffos yr ochr arall i'r clawdd, ac yr oedd y dŵr yn mynd i honno. Torrwyd y cafn er mwyn i'r dŵr redeg hyd ei gwrs priodol. Honnid y gwnaed llawer iawn o bethau eraill i droi cwrs yr afon, ac ar y nawfed o Ragfyr 1904, cyfarfu Mr Charles Jones a'r diffynnydd yn y lle. Ymyrrwyd â’r dŵr wedi hynny, a rhoed rhybudd i'r diffynnydd os na pheidiai ag ymyrryd â'r dŵr y cymerid camau i'w rwystro. Dadleuai y diffynyddion eu bod hwy fel prydleswyr wedi mynd i gytundeb â'r Parch Hugh Thomas cyn iddo werthu eiddo Gwernor yn 1894, a bod hawl ganddynt i lif y ffrwd. Dywedodd y Barnwr y gallasai y dystiolaeth, a ddygwyd gan y diffynyddion i cefnogi eu hawl, ei fodloni ef, pe na chawsai ei wrthddweud. Yr oedd yn cael ei wrthddweud gan lawer o dystiolaethau a alwyd ar ran yr achwynydd. Heb fynd, i fanylion, digon oedd dweud nad oedd y diffynyddion wedi ei fodloni ef fod y dŵr. neu ran ohono, wedi ei ddefnyddio gan y diffynyddion cyn 1894. Yr oedd ymddygiad y diffynyddion, er hynny, wedi ei dueddu ef yn gryf i feddwl nad oedd gan y diffynyddion hawl gyfreithiol o gwbl i'r dŵr. Tra y gobeithiai na fyddai i'w ddyfarniad atal yr achwynydd rhag ymddwyn yn garedig yn yr achos, yn yr un ysbryd cymdogol ag a ddangosodd, rhoddai ddyfarniad i'r achwynydd ar yr hawl, ac am waharddeb, oddigerth ynglŷn â’r trespas honedig ynghylch adeiladu caban, ac hefyd ar y croes-hawl, gyda chostau ar y raddfa uchaf. Caniatawyd oedi y dyfarniad i ddod i rym.[5]
Rhaid holi pam yr aeth dwy chwarel oedd yn gymdogion i gyfraith ar fater allai fod wedi ei ddatrys yn gyfeillgar – ond mae’n ymddangos fod Chwarel Tŷ’n-y-weirglodd eisoes mewn helbul. Collwyd rheolwr gan nad oedd o’n medru cytuno â dymuniad y perchennog ar sut i weithio’r chwarel, ac o fewn pythefnos i’r dyfarniad, ataliwyd y gweithwyr:
ATAL CHWAREL YN NANTLLE
Yr wythnos hon, cafodd Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd ei hatal, a stopiwyd yr holl weithwyr. Dywed rhai mai canlyniad helynt y dŵr yw hyn. Fel y cofir, bu helynt cyfreithiol brwd a chostus rhwng y chwarel uchod a Chwarel Gwernor yn ddiweddar. Sut bynnag, pâr hyn gryn ddigalondid gan y disgwylid beunydd am agoriad drws i ychwaneg o weithwyr i mewn. [6]
Cryfheir y teimlad mai’r achos oedd y rheswm dros atal y gweithwyr, gan fod chwarel fach arall nid nepell i ffwrdd yn ailagor yr un mis:
Mae Chwarel Llwydcoed Bach, Nantlle. wedi ail gychwyn gweithio ar ôl bod ynghau am rai wythnosau. Y goruchwyliwr yn awr yw Mr Evan Roberts, Cesarea. Sicrheir gan y bobl a ŵyr orau fod yn y lle ddigonedd o’r llechi mwyaf marchnadol.[7]